Gwneud cais am brofiant
Ar ôl i chi wneud cais
Bydd y Gwasanaeth Profiant yn adolygu eich cais.
Olrhain eich cais
Os gwnaethoch gais ar-lein, i olrhain eich cais.
Os gwnaethoch gais drwy’r post, dylech gael llythyr neu e-bost o fewn 16 wythnos. Os na chewch lythyr neu e-bost, yna gallwch gysylltu â Chanolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd.
Canolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd
ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk
Rhif ffôn ar gyfer siaradwyr Cymraeg: 0300 303 0654
Dydd Llun i ddydd Iau 9am - 5pm, dydd Gwener 9am - 4.30pm
Wedi cau ar wyliau banc
Gwybodaeth am gost galwadau
Os bydd eich cais yn cael ei gymeradwyo
Bydd yr ewyllys ac unrhyw ychwanegiadau iddi (‘codisiliau’) yn cael eu cadw gan y gofrestrfa brofiant ac yn dod yn gofnod cyhoeddus. Os byddwch yn anfon y dystysgrif marwolaeth, yna bydd yn cael ei dychwelyd i chi.
Beth fyddwch chi’n ei gael
Fe gewch ddogfen sy’n eich galluogi i ddechrau delio â’r ystad. Bydd yn un o’r canlynol:
- ‘grant profiant’ - os gadawodd yr unigolyn a fu farw ewyllys
- ‘llythyrau gweinyddu gyda’r ewyllys wedi’i hatodi’ - os nad yw’r ewyllys yn enwi ysgutor neu os na all yr ysgutor a enwir wneud cais
- ‘llythyrau gweinyddu’ – os na adawodd yr unigolyn a fu farw ewyllys
Fel arfer, byddwch yn cael y grant profiant neu lythyrau gweinyddu cyn pen 16 wythnos ar ôl i chi gyflwyno eich cais. Gall gymryd mwy o amser os oes angen i chi ddarparu gwybodaeth ychwanegol.
Os gwnaethoch archebu copïau o’ch dogfen profiant i’w defnyddio y tu allan i’r DU, bydd y rhain yn cymryd mwy o amser i gyrraedd na’r copi ar gyfer y DU.
Os oes unrhyw beth o’i le gyda’r ddogfen brofiant, anfonwch y ddogfen yn ôl i gofrestra brofiant y dosbarth a nodir ar y grant neu’r llythyrau.
Beth fydd yn digwydd nesaf
Unwaith y bydd gennych y grant profiant (neu lythyrau gweinyddu) gallwch ddechrau delio â’r ystad.
Anfonwch gopïau o’r ddogfen brofiant i’r sefydliadau sy’n dal asedau’r sawl a fu farw, er enghraifft eu banc.