Rhyddhad ardrethi busnes
Printable version
1. Mathau o ryddhad ardrethi busnes
Mae rhai busnesau yn Lloegr yn gymwys i gael gostyngiad yn eu biliau ardrethi busnes. Gelwir hyn yn ‘rhyddhad ardrethi busnes’.
Mae’r rheolau ar gyfer rhyddhad ardrethi busnes yn wahanol os yw’ch eiddo , , neu .
Cael gwybod pwy i gysylltu ag ef er mwyn cael help gyda rhyddhad ardrethi busnes.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Pryd y gallwch gael rhyddhad ardrethi busnes
Mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnes os yw’r canlynol yn wir:
- ³¾²¹±ð’c³ó busnes yn fusnes bach
- ³¾²¹±ð’c³ó busnes yn eiddo manwerthu, lletygarwch a hamdden – er enghraifft, siop, bwyty, lleoliad adloniant neu westy
- eich busnes chi yw’r unig fusnes mewn ardal wledig
- ³¾²¹±ð’c³ó busnes yn elusen neu glwb chwaraeon amatur cymunedol
- ³¾²¹±ð’r busnes yn bapur newydd lleol
Mae’n bosibl eich bod hefyd yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnes os yw’r canlynol yn wir:
- rydych yn berchen ar eiddo sy’n wag, yn rhannol wag, neu’n cael ei adnewyddu
- rydych yn gwneud rhai gwelliannau i’ch eiddo
- ³¾²¹±ð’r newid yn eich ardrethi yn fwy na swm penodol yn ystod ailbrisiad
- byddwch yn cael llai o ryddhad ardrethi busnesau bach neu ryddhad ardrethi gwledig ar ôl 1 Ebrill 2023
- rydych yn wynebu trafferthion ariannol
- ³¾²¹±ð’c³ó eiddo mewn ‘ardal fenter’
- ³¾²¹±ð’c³ó eiddo mewn ‘porthladd rhydd’
- ³¾²¹±ð’c³ó eiddo yn rhwydwaith gwres
Gall cynghorau lleol hefyd ddewis cynnig rhyddhad ardrethi busnes i fusnesau sydd o fudd i’r gymuned neu’r economi leol. Cysylltwch â’ch cyngor lleol i gael gwybod a yw hyn ar gael yn eich ardal chi, ac os ydych yn gymwys.
Pan nad oes rhaid i chi dalu ardrethi busnes
Mae ambell eiddo wedi’i eithrio rhag ardrethi busnes.
Efallai na fydd yn rhaid i chi dalu ardrethi busnes ar gyfer y canlynol:
- tir ac adeiladau amaethyddol, gan gynnwys ffermydd pysgod
- adeiladau a ddefnyddir er lles pobl anabl, neu ar gyfer hyfforddiant
- neuaddau eglwys neu adeiladau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer addoli crefyddol cyhoeddus
Dysgwch ragor am eiddo eithriedig.
Os nad ydych yn siŵr pa ryddhad ardrethi busnes yr ydych yn gymwys i’w gael
Cynghorau lleol sy’n gyfrifol am anfon biliau ardrethi busnes, casglu taliadau a gwneud penderfyniadau ynghylch a yw busnes yn gymwys i gael rhyddhad neu beidio.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol i gael gwybod pa fathau o ryddhad y gallwch eu cael, a sut i wneud cais.
Os yw’ch safle yn cael ei effeithio gan ddigwyddiadau lleol
Mae’n bosibl y byddwch yn cael gostyngiad dros dro yn eich ardrethi busnes os bydd digwyddiadau lleol difrifol yn effeithio ar eich safle (megis llifogydd, gwaith adeiladu neu waith ffordd).
Rhowch wybod i Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) os ydych o’r farn bod digwyddiadau lleol wedi effeithio ar werth eich eiddo. Rhowch wybod i’r VOA gan ddefnyddio’ch cyfrif prisio ardrethi busnes.
Bydd y VOA yn penderfynu a allwch gael gostyngiad dros dro yn eich ardrethi busnes.
2. Rhyddhad ardrethi busnesau bach
Gallwch gael rhyddhad ardrethi busnesau bach os yw’r canlynol yn wir:
- mae gwerth ardrethol eich eiddo yn llai na £15,000
- ³¾²¹±ð’c³ó busnes dim ond yn defnyddio un eiddo – fodd bynnag, mae’n bosibl y byddwch yn gallu cael rhyddhad o hyd os ydych yn defnyddio mwy nag un eiddo
Ni allwch gael rhyddhad ardrethi busnesau bach a rhyddhad ardrethi elusennol ar yr un pryd.
Bydd eich cyngor lleol yn penderfynu pa fath o ryddhad yr ydych yn gymwys i gael.
Yr hyn y byddwch yn ei gael
Mae faint o ryddhad ardrethi busnesau bach a gewch yn dibynnu ar werth ardrethol eich eiddo.
Ni fyddwch yn talu ardrethi busnes ar eiddo sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai, os mai dyna’r unig eiddo y ³¾²¹±ð’c³ó busnes yn ei ddefnyddio.
Ar gyfer eiddo sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £15,000, bydd cyfradd y rhyddhad yn gostwng yn raddol o 100% i 0%.
Enghraifft
Os yw’ch gwerth ardrethol yn £13,500, byddwch yn cael 50% oddi ar eich bil. Os yw’ch gwerth ardrethol yn £14,000, byddwch yn cael 33% oddi ar eich bil.
Os ydych yn defnyddio mwy nag un eiddo
Pan fyddwch yn cael ail eiddo, byddwch yn parhau i gael unrhyw ryddhad presennol ar eich prif eiddo am 12 mis.
Byddwch yn dal i allu cael rhyddhad ardrethi busnesau bach ar eich prif eiddo ar ôl y cyfnod hwnnw os yw’r ddau beth canlynol yn wir:
- nid oes gan yr un o’ch eiddo eraill werth ardrethol dros £2,899
- mae cyfanswm gwerth ardrethol eich holl eiddo yn llai na £20,000 (£28,000 yn Llundain)
Sut i gael rhyddhad ardrethi busnesau bach
Cysylltwch â’ch cyngor lleol i wneud y canlynol:
- gwirio a ydych yn gymwys
- cael gwybod sut i gael rhyddhad ardrethi busnesau bach
- gwirio a allwch gael unrhyw fathau eraill o ryddhad ardrethi busnes yn ogystal â rhyddhad ardrethi busnesau bach
Os bydd newid yn eich amgylchiadau
Rhowch wybod am newidiadau er mwyn sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir. Bydd rhoi gwybod am newidiadau hefyd yn sicrhau nad ydych yn talu gormod nac yn cael cynnydd wedi’i ôl-ddyddio yn eich bil.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol os:
- yw’ch eiddo yn dod yn wag
- ydych yn cael eiddo arall
- ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i’ch eiddo a fyddai’n cynyddu ei werth – er enghraifft, adeiladu estyniad neu gynnal gwaith adnewyddu
- yw natur eich busnes yn newid, neu os yw’n symud i safle gwahanol
Gall swm y rhyddhad ardrethi busnesau bach yr ydych yn gymwys i’w gael newid. Er enghraifft, gallai leihau os yw gwerth ardrethol eich eiddo wedi cynyddu.
Fel arfer, bydd angen i chi dalu’ch cyfradd newydd ar gyfer ardrethi o’r diwrnod y gwnaeth eich amgylchiadau newid.
Os nad ydych yn cael rhyddhad ardrethi busnesau bach, a’ch bod o’r farn eich bod yn gymwys i’w gael
Cysylltwch â’ch cyngor lleol os nad ydych yn cael rhyddhad ardrethi busnesau bach, a’ch bod o’r farn eich bod yn gymwys i’w gael.
Os ydych o’r farn bod eich gwerth ardrethol yn anghywir
Gallwch herio gwerth ardrethol eich eiddo gyda’r VOA.
Defnyddiwch eich cyfrif prisio ardrethi busnes i wneud hyn.
Os ydych yn cael llai o ryddhad ardrethi busnesau bach ers 1 Ebrill 2023
Mae’n bosibl eich bod yn gymwys ar gyfer y cynllun cefnogi busnesau bach os ydych wedi colli eich holl ryddhad ardrethi busnesau bach, neu ran ohono, oherwydd yr ailbrisiad ar 1 Ebrill 2023.
Dysgwch ragor am y cynllun cefnogi busnesau bach.
Os ydych yn fusnes bach, ond nad ydych yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnesau bach
Cyfrifir eich bil ardrethi busnes gan ddefnyddio ‘lluosydd’ – caiff eich gwerth ardrethol ei luosi â’r rhif hwn i gyfrifo’ch bil terfynol.
Os yw gwerth ardrethol eich eiddo yn llai na £51,000, cyfrifir eich bil gan ddefnyddio’r lluosydd busnesau bach, sy’n is na’r lluosydd safonol. Dyma’r achos hyd yn oed os nad ydych yn cael rhyddhad ardrethi busnesau bach.
Y lluosydd busnesau bach yw 49.9c, a’r lluosydd safonol yw 51.2c o 1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024. .
Dysgwch sut i amcangyfrif eich bil ardrethi busnes.
Mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael math arall o ryddhad ardrethi busnes. Er enghraifft, os yw’r canlynol yn wir:
-
mae gennych eiddo manwerthu, lletygarwch neu hamdden
-
rydych yn wynebu trafferthion ariannol
Gwiriwch pa ryddhadau eraill y gallech fod yn gymwys i’w cael.
3. Rhyddhad manwerthu, lletygarwch a hamdden
Gallech fod yn gymwys i gael rhyddhad manwerthu, lletygarwch a hamdden os yw’ch busnes yn cael ei ddefnyddio’n bennaf fel:
- siop
- bwyty, caffi, bar neu dafarn
- sinema neu leoliad cerddoriaeth
- busnes hamdden neu letygarwch – er enghraifft, campfa, sba neu westy
Yr hyn y byddwch yn ei gael
Os ydych yn gymwys, gallech gael 75% oddi ar eich biliau ardrethi busnes ar gyfer y flwyddyn filio 2023 i 2024 (1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024).
Y rhyddhad mwyaf y gallwch ei gael yn ystod pob blwyddyn filio yw £110,000 fesul busnes.
Os byddwch yn optio allan o ryddhad manwerthu, lletygarwch a hamdden ar gyfer y flwyddyn filio 2023 i 2024, ni allwch newid eich meddwl.
Sut i gael rhyddhad manwerthu, lletygarwch a hamdden
Cynghorau lleol sy’n rheoli’r rhyddhad ardrethi busnes yn eu hardal.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol i wneud y canlynol:
- gwirio a ydych yn gymwys
- cael gwybod sut i gael rhyddhad manwerthu, lletygarwch a hamdden
- gwirio a allwch gael unrhyw fathau eraill o ryddhad ardrethi busnes yn ogystal â rhyddhad manwerthu, lletygarwch a hamdden
Os bydd newid yn eich amgylchiadau
Rhowch wybod am newidiadau er mwyn sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir. Bydd rhoi gwybod am newidiadau hefyd yn sicrhau nad ydych yn talu gormod nac yn cael cynnydd wedi’i ôl-ddyddio yn eich bil.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol os:
- yw’ch eiddo yn dod yn wag
- ydych yn cael eiddo arall
- ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i’ch eiddo a fyddai’n cynyddu ei werth – er enghraifft, adeiladu estyniad neu waith adnewyddu
- yw natur eich busnes yn newid, neu os yw’n symud i safle gwahanol
Os yw swm y rhyddhad ardrethi busnes ar gyfer manwerthu, lletygarwch a hamdden yr ydych yn gymwys i’w gael yn newid, fel arfer bydd angen i chi dalu’ch cyfradd newydd ar gyfer ardrethi o’r diwrnod y gwnaeth eich amgylchiadau newid.
Os nad ydych yn cael rhyddhad manwerthu, lletygarwch a hamdden, a’ch bod o’r farn eich bod yn gymwys i’w gael
Cysylltwch â’ch cyngor lleol os nad ydych yn cael rhyddhad manwerthu, lletygarwch a hamdden, a’ch bod o’r farn eich bod yn gymwys i’w gael.
Os nad ydych yn gymwys i gael rhyddhad manwerthu, lletygarwch a hamdden
Mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael math arall o ryddhad ardrethi busnes. Er enghraifft, os yw’r canlynol yn wir:
-
mae gennych fusnes bach
-
rydych yn wynebu trafferthion ariannol
Gwiriwch pa ryddhadau eraill y gallech fod yn gymwys i’w cael.
4. Rhyddhad ardrethi gwledig
Gallech gael rhyddhad ardrethi gwledig os yw’ch busnes mewn ardal wledig gymwys sydd â phoblogaeth o dan 3,000.
Mae’n rhaid bod y canlynol hefyd yn wir am eich busnes:
- dyma’r unig siop gyffredinol, siop fwyd neu swyddfa bost yn y pentref, gyda gwerth ardrethol o hyd at £8,500
- dyma’r unig dafarndy neu orsaf betrol yn y pentref, gyda gwerth ardrethol o hyd at £12,500
Os oes mwy nag un busnes yn yr ardal, gall y ddau ohonynt wneud cais ar yr amod eu bod yn wahanol fathau o fusnes – er enghraifft, tafarndy a siop fwyd.
Mae’n rhaid bod yr eiddo wedi’i feddiannu.
Yr hyn y byddwch yn ei gael
Ni fyddwch yn talu ardrethi busnes os yw’ch busnes yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi gwledig.
Sut i gael rhyddhad ardrethi gwledig
Cynghorau lleol sy’n rheoli’r rhyddhad ardrethi busnes yn eu hardal.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol i wneud y canlynol:
-
gwirio a ydych mewn ardal wledig gymwys – bydd gan y cyngor restr o ardaloedd cymwys a mapiau o’r ardaloedd hynny
-
gwirio a yw’ch math o fusnes yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi gwledig
-
cael gwybod sut i gael rhyddhad ardrethi gwledig
Os bydd newid yn eich amgylchiadau
Rhowch wybod am newidiadau er mwyn sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir. Bydd rhoi gwybod am newidiadau hefyd yn sicrhau nad ydych yn talu gormod nac yn cael cynnydd wedi’i ôl-ddyddio yn eich bil.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol os:
-
yw’ch eiddo yn dod yn wag
-
ydych yn cael eiddo arall
-
ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i’ch eiddo a fyddai’n cynyddu ei werth – er enghraifft, adeiladu estyniad neu waith adnewyddu
-
yw natur eich busnes yn newid, neu os yw’n symud i safle gwahanol
Os nad ydych bellach yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi gwledig, fel arfer bydd angen i chi dalu’ch cyfradd newydd ar gyfer ardrethi o’r diwrnod y gwnaeth eich amgylchiadau newid ymlaen.
Os nad ydych yn cael rhyddhad ardrethi gwledig, a’ch bod o’r farn eich bod yn gymwys i’w gael
Cysylltwch â’ch cyngor lleol os nad ydych yn cael rhyddhad ardrethi gwledig, a’ch bod o’r farn eich bod yn gymwys i’w gael.
Os ydych o’r farn bod eich gwerth ardrethol yn anghywir
Gallwch herio gwerth ardrethol eich eiddo gyda’r VOA. Defnyddiwch eich cyfrif prisio ardrethi busnes i wneud hyn.
Os daeth eich rhyddhad ardrethi gwledig i ben ar ôl 1 Ebrill 2023
Mae’n bosibl eich bod yn gymwys ar gyfer y cynllun cefnogi busnesau bach os daeth eich rhyddhad ardrethi gwledig i ben oherwydd yr ailbrisiad diwethaf ar 1 Ebrill 2023.
Dysgwch ragor am y cynllun cefnogi busnesau bach.
Os nad ydych yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi gwledig
Mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael math arall o ryddhad ardrethi busnes.
Er enghraifft, os yw’r canlynol yn wir:
-
mae gennych fusnes bach
-
mae gennych fusnes manwerthu, lletygarwch neu hamdden
-
rydych yn wynebu trafferthion ariannol
Mae’n bosibl eich bod hefyd wedi eich eithrio rhag talu ardrethi busnes ar dir ac adeiladau amaethyddol.
Gwiriwch pa ryddhadau eraill y gallech fod yn gymwys i’w cael.
5. Rhyddhad ardrethi elusennol
Gallech gael rhyddhad ardrethi elusennol os yw’ch eiddo’n cael ei ddefnyddio at ddibenion elusennol yn bennaf.
I fod yn gymwys, mae’n rhaid bod yr eiddo’n cael ei ddefnyddio gan y naill neu’r llall o’r canlynol:
-
elusen, neu ymddiriedolwyr elusen
-
clwb chwaraeon amatur cymunedol (CChAC)
Ni allwch gael rhyddhad ardrethi elusennol a rhyddhad ardrethi busnesau bach ar yr un pryd. Bydd eich cyngor lleol yn penderfynu pa fath o ryddhad yr ydych yn gymwys i gael.
Os yw’r eiddo’n cael ei ddefnyddio gan elusen neu ymddiriedolwyr elusen
Mae’n bosibl y bydd eich awdurdod lleol yn gofyn am dystiolaeth i brofi bod eich eiddo’n cael ei ddefnyddio at ddibenion elusennol – er enghraifft, rhif cofrestru’ch elusen neu dystiolaeth o statws elusennol.
Dysgwch ragor am sefydlu elusen, neu ei chofrestru.
Os yw’r eiddo’n cael ei ddefnyddio gan glwb chwaraeon amatur cymunedol
I fod yn gymwys, mae’n rhaid i’ch sefydliad fod wedi’i gofrestru gyda Chyllid a Thollau EF (CThEF) fel clwb chwaraeon amatur cymunedol.
Dysgwch ragor am gofrestru fel clwb chwaraeon amatur cymunedol.
Yr hyn y byddwch yn ei gael
Mae rhyddhad ardrethi elusennol yn tynnu hyd at 80% oddi ar eich bil ardrethi busnes.
Mae’n bosibl y bydd eich cyngor lleol yn gallu ychwanegu at y gostyngiad, fel na fydd yn rhaid i chi dalu ardrethi busnes. Gelwir hyn yn ‘rhyddhad dewisol’.
Sut i gael rhyddhad ardrethi elusennol
Cynghorau lleol sy’n rheoli’r rhyddhad ardrethi busnes yn eu hardal.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol i wneud y canlynol:
-
gwirio a ydych yn gymwys
-
cael gwybod sut i gael rhyddhad ardrethi elusennol
-
cael gwybod a all y cyngor ychwanegu at y gostyngiad gan ddefnyddio rhyddhad dewisol, fel na fydd yn rhaid i chi dalu ardrethi busnes
-
gwirio a allwch gael unrhyw fathau eraill o ryddhad ardrethi busnes yn ogystal â rhyddhad ardrethi elusennol
Os bydd newid yn eich amgylchiadau
Rhowch wybod am newidiadau er mwyn sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir. Bydd rhoi gwybod am newidiadau hefyd yn sicrhau nad ydych yn talu gormod nac yn cael cynnydd wedi’i ôl-ddyddio yn eich bil.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol os:
-
yw’ch eiddo yn dod yn wag
-
ydych yn cael eiddo arall
-
ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i’ch eiddo a fyddai’n cynyddu ei werth – er enghraifft, adeiladu estyniad neu gynnal gwaith adnewyddu
-
yw natur eich busnes yn newid, neu os yw’n symud i safle gwahanol
Os yw swm y rhyddhad ardrethi elusennol yr ydych yn gymwys i’w gael yn newid, fel arfer bydd angen i chi dalu’ch cyfradd newydd ar gyfer ardrethi o’r diwrnod y gwnaeth eich amgylchiadau newid ymlaen.
Os nad ydych yn cael rhyddhad ardrethi elusennol, a’ch bod o’r farn eich bod yn gymwys i’w gael
Cysylltwch â’ch cyngor lleol os nad ydych yn cael rhyddhad ardrethi elusennol, a’ch bod o’r farn eich bod yn gymwys i’w gael.
Os nad ydych yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi elusennol
Mae’n bosibl eich bod yn dal i allu cael rhyddhad dewisol os ydych yn sefydliad di-elw neu’n sefydliad gwirfoddol. Cysylltwch â’ch cyngor lleol i gael gwybod.
Mae’n bosibl eich bod hefyd yn gymwys i gael math arall o ryddhad ardrethi busnes. Er enghraifft, os yw’r canlynol yn wir:
-
mae gennych fusnes bach
-
mae gennych fusnes manwerthu, lletygarwch neu hamdden
-
rydych yn wynebu trafferthion ariannol
Gwiriwch pa ryddhadau eraill y gallech fod yn gymwys i’w cael.
6. Rhyddhad papur newydd lleol
Gallech gael rhyddhad papur newydd lleol os yw’ch eiddo’n cael ei ddefnyddio fel swyddfa ar gyfer newyddiadurwyr a gohebwyr sy’n gweithio i bapur newydd lleol.
Ni allwch gael y rhyddhad hwn ar gyfer:
-
cylchgronau
-
papurau newydd ar-lein nad ydynt yn cael eu hargraffu
Yr hyn y byddwch yn ei gael
Bydd eiddo cymwys yn cael rhyddhad mewn ardrethi busnes ar ffurf gostyngiad gwerth £1,500 y flwyddyn.
Gall papur newydd gael y rhyddhad hwn ar gyfer un eiddo yn unig, hyd yn oed os yw’n defnyddio mwy nag un eiddo fel swyddfa.
Os oes sawl papur newydd lleol yn defnyddio’r un swyddfa, dim ond un ohonynt sy’n gallu cael y rhyddhad.
Sut i gael rhyddhad papur newydd lleol
Cynghorau lleol sy’n rheoli’r rhyddhad ardrethi busnes yn eu hardal.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol i wneud y canlynol:
-
gwirio a ydych yn gymwys
-
cael gwybod sut i gael rhyddhad papur newydd lleol
-
gwirio a allwch gael unrhyw fathau eraill o ryddhad ardrethi busnes yn ogystal â rhyddhad papur newydd lleol
Bydd rhyddhad papurau newydd lleol yn dod i ben ar 31 Mawrth 2025. O 1 Ebrill 2025 ymlaen, bydd angen i chi dalu ardrethi busnes yn llawn os nad ydych yn gymwys i gael math arall o ryddhad.
Os bydd newid yn eich amgylchiadau
Rhowch wybod am newidiadau er mwyn sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir. Bydd rhoi gwybod am newidiadau hefyd yn sicrhau nad ydych yn talu gormod nac yn cael cynnydd wedi’i ôl-ddyddio yn eich bil.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol os:
-
yw’ch eiddo yn dod yn wag
-
ydych yn cael eiddo arall
-
ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i’ch eiddo a fyddai’n cynyddu ei werth – er enghraifft, adeiladu estyniad neu gynnal gwaith adnewyddu
-
yw natur eich busnes yn newid, neu os yw’n symud i safle gwahanol
Os nad ydych bellach yn gymwys i gael rhyddhad papur newydd lleol, fel arfer bydd angen i chi dalu’ch cyfradd newydd ar gyfer ardrethi o’r diwrnod y gwnaeth eich amgylchiadau newid ymlaen.
Os nad ydych yn cael rhyddhad papur newydd lleol, a’ch bod o’r farn eich bod yn gymwys i’w gael
Cysylltwch â’ch cyngor lleol os nad ydych yn cael rhyddhad ardrethi papur newydd lleol, a’ch bod o’r farn eich bod yn gymwys i’w gael.
Os nad ydych yn gymwys i gael rhyddhad papur newydd lleol
Mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael math arall o ryddhad ardrethi busnes. Er enghraifft, os yw’r canlynol yn wir:
-
³¾²¹±ð’c³ó papur newydd yn fusnes bach
-
rydych yn wynebu trafferthion ariannol
Gwiriwch pa ryddhadau eraill y gallech fod yn gymwys i’w cael.
7. Rhyddhad eiddo gwag
Os ydych yn cael rhyddhad eiddo gwag, nid oes rhaid i chi dalu ardrethi busnes ar eich eiddo gwag am 3 mis. Mae’r rhyddhad yn dechrau o’r adeg y daeth yr eiddo’n yn wag. Ar ôl y cyfnod hwnnw, mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o fusnesau dalu ardrethi busnes llawn.
Gall yr eiddo canlynol gael rhyddhad eiddo gwag estynedig:
-
safleoedd diwydiannol (er enghraifft, warysau) – rhyddhad estynedig am 3 mis ychwanegol
-
adeiladau rhestredig – rhyddhad estynedig hyd nes eu bod yn cael eu hailfeddiannu
-
adeiladau sydd â gwerth ardrethol o dan £2,900 – rhyddhad estynedig hyd nes eu bod yn cael eu hailfeddiannu
-
eiddo sydd o dan berchnogaeth elusennau – dim ond os bydd defnydd nesaf yr eiddo at ddibenion elusennol yn bennaf
-
adeiladau ar gyfer clybiau chwaraeon amatur cymunedol – dim ond os bydd defnydd nesaf yr eiddo at ddibenion clwb chwaraeon yn bennaf
Sut i gael rhyddhad eiddo gwag
Cysylltwch â’ch cyngor lleol i wneud y canlynol:
-
rhoi gwybod pan fydd eich eiddo yn dod yn wag
-
gwirio a allwch gael rhyddhad eiddo gwag estynedig
-
dysgu ragor am sut mae rhyddhad eiddo gwag yn gweithio yn eich ardal chi
Os bydd newid yn eich amgylchiadau
Rhowch wybod am newidiadau er mwyn sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir. Bydd rhoi gwybod am newidiadau hefyd yn sicrhau nad ydych yn talu gormod nac yn cael cynnydd wedi’i ôl-ddyddio yn eich bil.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol os:
-
nad yw’ch eiddo’n wag mwyach
-
ydych yn cael eiddo arall
-
ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i’ch eiddo a fyddai’n cynyddu ei werth – er enghraifft, adeiladu estyniad neu gynnal gwaith adnewyddu
-
yw natur eich busnes yn newid, neu os yw’n symud i safle gwahanol
Os nad ydych bellach yn gymwys i gael rhyddhad eiddo gwag, fel arfer bydd angen i chi dalu’ch cyfradd newydd ar gyfer ardrethi o’r diwrnod y gwnaeth eich amgylchiadau newid ymlaen.
Os nad ydych yn cael rhyddhad eiddo gwag, a’ch bod o’r farn eich bod yn gymwys i’w gael
Cysylltwch â’ch cyngor lleol os nad ydych yn cael rhyddhad eiddo gwag, a’ch bod o’r farn eich bod yn gymwys i’w gael.
Os nad ydych yn gymwys i gael rhyddhad eiddo gwag
Mae’n bosibl eich bod hefyd yn gymwys i gymryd seibiant byr o dalu biliau ardrethi busnes os yw un o’r canlynol yn wir am eich eiddo:
-
mae’n rhannol wag
-
mae’n cael ei adnewyddu
Os ydych yn wynebu trafferthion ariannol, mae’n bosibl y gallwch hefyd gael rhyddhad caledi.
Os yw’ch eiddo’n rhannol wag
Mae’n bosibl y bydd eich cyngor lleol yn cynnig rhyddhad ardrethi busnes am gyfnod byr os yw’ch eiddo’n rhannol wag.
Os ydych yn gymwys, byddwch yn cael rhyddhad ar y rhan o’r eiddo sy’n wag. Daw’r rhyddhad hwn i rym o’r diwrnod y daeth yr eiddo’n wag.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol i gael gwybod a yw hyn yn cael ei gynnig yn eich ardal chi, i wirio a ydych yn gymwys, ac i wneud cais.
Os yw’ch eiddo’n cael ei atgyweirio neu ei adnewyddu
Rhowch wybod i’r VOA os na ellir defnyddio’r adeilad oherwydd ei fod yn cael ei atgyweirio neu ei adnewyddu. Defnyddiwch eich cyfrif prisio ardrethi busnes i wneud hyn.
Bydd y VOA yn asesu’r eiddo a’r gwaith sy’n cael ei wneud arno. Os yw’r VOA yn penderfynu bod y gwaith atgyweirio neu’r gwelliannau yn golygu na ellir defnyddio’r eiddo, ni fydd yn rhaid i chi dalu ardrethi busnes hyd nes y gellir defnyddio’r adeilad eto.
8. Rhyddhad gwelliannau
Efallai y byddwch yn cael rhyddhad gwelliannau os byddwch yn gwneud rhai gwelliannau i’ch eiddo. Os ydych yn gymwys, byddwch yn cael y rhyddhad am flwyddyn. Mae’n dechrau pan fyddwch wedi cwblhau eich gwelliannau.
Cymhwysedd
Dylai unrhyw welliannau rydych yn eu gwneud:
-
gynyddu ‘gwerth ardrethol’ eich ardrethi busnes eu cyfrifo eich eiddo
-
wedi’i gwblhau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024
Hefyd, mae’n rhaid iddyn nhw naill ai:
-
gynyddu maint eich eiddo
-
ychwanegu nodweddion neu offer newydd i’ch eiddo, fel gwresogi, aerdymheru neu TCC
Nid yw unrhyw welliannau i nodweddion neu offer presennol yn gymwys.
Mae’n rhaid eich bod wedi meddiannu’r eiddo yn ystod ac ar ôl y gwaith gwella i gael rhyddhad gwelliannau. Ni allwch drosglwyddo’ch rhyddhad gwelliannau i unrhyw un arall.
Beth fyddwch chi’n ei gael
Bydd eich cyngor lleol yn penderfynu faint o ryddhad a gewch ar sail ‘gwerth ardrethol’ eich eiddo a’r math o welliannau rydych wedi’u gwneud.
Sut i gael rhyddhad gwelliannau
Gallwch roi gwybod am newidiadau i’ch eiddo gan ddefnyddio eich cyfrif prisio ardrethi busnes.
Bydd y VOA yn penderfynu a ellid ystyried y newidiadau ar gyfer rhyddhad gwelliannau. Byddant yn anfon tystysgrif atoch chi a’ch cyngor yn dangos:
-
sut ³¾²¹±ð’r gwelliant yn effeithio ar werth ardrethol yr eiddo
-
pryd y daw’r rhyddhad i ben
Unwaith y bydd eich cyngor lleol wedi cadarnhau eich bod wedi meddiannu’r eiddo drwy gydol y gwelliannau, byddant yn:
-
penderfynu faint o ryddhad gwelliannau y mae gennych hawl iddo
-
anfon bil ardrethi is atoch
Os ydych yn credu y dylech fod yn cael rhyddhad gwelliannau ond nad ydych
Cysylltwch â’ch cyngor lleol os nad ydych yn cael rhyddhad gwelliannau a’ch bod yn credu eich bod yn gymwys i’w dderbyn.
9. Rhyddhad trosiannol
Mae rhyddhad trosiannol yn cyfyngu ar faint y gall eich bil newid bob blwyddyn o ganlyniad i ailbrisiad ardrethi busnes.
O flwyddyn dreth 2023 i 2024, byddwch yn cael rhyddhad trosiannol os bydd eich ardrethi’n codi neu’n gostwng yn fwy na swm penodol. Mae hyn yn golygu y bydd newidiadau i’ch bil yn cael eu cyflwyno’n raddol.
Bydd eich cyngor yn addasu’ch bil yn awtomatig os ydych yn gymwys.
Faint y gall eich bil newid
Mae faint y gall eich bil newid o un flwyddyn i’r llall yn dibynnu ar ddau beth, sef:
-
gwerth ardrethol eich eiddo
-
p’un a yw’ch bil yn cynyddu neu’n gostwng o ganlyniad i ailbrisiad
Bydd eich rhyddhad trosiannol yn dod i ben pan fydd eich bil yn cyrraedd y swm llawn a bennir gan ailbrisiad.
Mae’r flwyddyn ardrethi busnes rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth y flwyddyn ganlynol.
Os yw’ch bil yn cynyddu o 1 Ebrill 2023
Gwerth ardrethol            | 2023 i 2024 | 2024 i 2025 | 2025 i 2026 |
---|---|---|---|
Hyd at £20,000 (£28,000 yn Llundain)  | 5%      | 10% yn ogystal â chwyddiant     | 25% yn ogystal â chwyddiant     |
£20,001 (£28,001 yn Llundain) to £100,000 | 15%     | 25% yn ogystal â chwyddiant     | 40% yn ogystal â chwyddiant     |
Dros £100,000            | 30%     | 40% yn ogystal â chwyddiant     | 55% yn ogystal â chwyddiant     |
Os cawsoch dystysgrif drosiannol
Bydd gwerth y dystysgrif drosiannol yn cael ei ddefnyddio wrth gyfrifo ardrethi busnes ar gyfer eich eiddo, yn hytrach na’r gwerth ardrethol arferol.
Os ydych yn anghytuno â gwerth y dystysgrif, cysylltwch ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA).
Os oes angen help arnoch
Cysylltwch â’ch cyngor lleol os oes gennych gwestiynau am ryddhad trosiannol.
10. Rhyddhad cefnogi busnesau bach
Gallwch gael rhyddhad cefnogi busnesau bach os yw’r naill a’r llall o’r canlynol yn wir:
-
gwnaeth bil eich eiddo busnes gynyddu o ganlyniad i’r ailbrisiad diweddaraf ar 1 Ebrill 2023
-
rydych wedi colli eich holl ryddhad ardrethi busnesau bach, neu’ch holl ryddhad ardrethi gwledig, neu ran ohono
Yr hyn y byddwch yn ei gael
Os ydych yn gymwys, ni fydd eich biliau ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024 yn codi mwy na £600.
Bydd eich cyngor yn addasu’ch bil os ydych yn gymwys.
11. Rhyddhad caledi
Gall cynghorau ddefnyddio rhyddhad caledi i ostwng neu ganslo’ch bil ardrethi busnes.
Er mwyn rhoi’r rhyddhad hwn i chi, bydd yn rhaid i’ch cyngor lleol gytuno â’r canlynol:
-
byddech yn wynebu trafferthion ariannol heb y rhyddhad hwn
-
mae rhoi rhyddhad caledi i chi er budd pobl leol
Mae’n bosibl y gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth i brofi’ch sefyllfa ariannol, neu i ddangos sut ³¾²¹±ð’c³ó busnes o fudd i’r gymuned leol.
Sut i gael rhyddhad caledi
Cynghorau lleol sy’n rheoli’r rhyddhad ardrethi busnes yn eu hardal.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol ac esboniwch eich sefyllfa er mwyn gallu gwneud y canlynol:
-
gwirio a ydych yn gymwys a faint y gallwch ei gael
-
cael gwybod sut i gael rhyddhad caledi
-
gwirio a allwch gael unrhyw fathau eraill o ryddhad ardrethi busnes yn ogystal â rhyddhad caledi, neu yn lle hynny
Os bydd newid yn eich amgylchiadau
Rhowch wybod am newidiadau er mwyn sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir. Bydd rhoi gwybod am newidiadau hefyd yn sicrhau nad ydych yn talu gormod nac yn cael cynnydd wedi’i ôl-ddyddio yn eich bil.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol os:
-
nad ydych yn wynebu trafferthion ariannol mwyach
-
yw’ch trafferthion ariannol wedi gwaethygu, a’ch bod o’r farn bod angen mwy o ryddhad caledi arnoch
Os nad ydych bellach yn gymwys i gael rhyddhad caledi, fel arfer bydd angen i chi dalu’ch cyfradd newydd ar gyfer ardrethi o’r diwrnod y gwnaeth eich amgylchiadau newid ymlaen.
Os nad ydych yn gymwys i gael rhyddhad caledi
Mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael math arall o ryddhad ardrethi busnes. Er enghraifft, os yw’r canlynol yn wir:
-
mae gennych fusnes bach
-
mae gennych fusnes manwerthu, lletygarwch neu hamdden
Gwiriwch pa ryddhadau eraill y gallech fod yn gymwys i’w cael.
12. Ardaloedd menter
Os ydych yn dechrau busnes, neu’n ei symud i ardal fenter, gallech fod yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnes.
Cymhwystra
Bydd p’un a ydych yn gymwys i gael rhyddhad, a faint y byddwch yn ei gael, yn dibynnu ar y canlynol:
-
rheolau’r cyngor lleol ar gyfer yr ardal fenter
-
pryd y sefydlwyd yr ardal fenter
-
pryd y gwnaethoch ddechrau’ch busnes, neu ei symud i’r ardal fenter
Yr hyn y byddwch yn ei gael
Y cyngor sy’n cyfrifo sut ³¾²¹±ð’r rhyddhad yn cael ei roi ar waith. Gallech gael rhyddhad gwerth hyd at £55,000 pob blwyddyn, dros 5 mlynedd.
Sut i gael rhyddhad ardal fenter
i wneud y canlynol:
-
gwirio a yw’n cynnig rhyddhad ardrethi busnes
-
cael gwybod sut i’w gael
Cysylltwch â’ch cyngor lleol i wirio a allwch gael unrhyw fathau eraill o ryddhad ardrethi busnes yn ogystal â rhyddhad ardal fenter.
Os bydd newid yn eich amgylchiadau
Rhowch wybod am newidiadau er mwyn sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir. Bydd rhoi gwybod am newidiadau hefyd yn sicrhau nad ydych yn talu gormod nac yn cael cynnydd wedi’i ôl-ddyddio yn eich bil.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol os:
-
yw’ch eiddo yn dod yn wag
-
ydych yn cael eiddo arall
-
ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i’ch eiddo a fyddai’n cynyddu ei werth – er enghraifft, adeiladu estyniad neu gynnal gwaith adnewyddu
-
yw natur eich busnes yn newid, neu os yw’n symud i safle gwahanol
Os bydd swm y rhyddhad ardal fenter yr ydych yn gymwys i’w gael yn newid, fel arfer bydd angen i chi dalu’ch cyfradd newydd ar gyfer ardrethi o’r diwrnod y gwnaeth eich amgylchiadau newid ymlaen.
Os nad ydych yn cael rhyddhad ardal fenter, a’ch bod o’r farn eich bod yn gymwys i’w gael
Cysylltwch â’ch cyngor lleol os nad ydych yn cael rhyddhad ardal fenter, a’ch bod o’r farn eich bod yn gymwys i’w gael.
Os nad ydych yn gymwys i gael rhyddhad ardal fenter
Mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael math arall o ryddhad ardrethi busnes. Er enghraifft, os yw’r canlynol yn wir:
-
mae gennych fusnes bach
-
mae gennych fusnes manwerthu, lletygarwch neu hamdden
-
rydych yn wynebu trafferthion ariannol
Gwiriwch pa ryddhadau eraill y gallech fod yn gymwys i’w cael.
13. Rhyddhad porthladdoedd rhydd
Mae porthladd rhydd yn ardal lle mae busnesau yn cael amrywiaeth o fuddion er mwyn cefnogi’r economi leol.
Os yw’ch busnes wedi’i leoli mewn porthladd rhydd, gallech fod yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnes.
Cymhwystra
Dyma restr o borthladdoedd rhydd:
-
Porthladd Rhydd Dwyrain Canolbarth Lloegr
-
Porthladd Rhydd Dwyrain Lloegr, Felixstowe a Harwich
-
Porthladd Rhydd Humber
-
Porthladd Rhydd Rhanbarth Dinas Lerpwl
-
Porthladd Rhydd Plymouth a De Dyfnaint
-
Porthladd Rhydd Solent
-
Porthladd Rhydd Teesside
-
Porthladd Rhydd Tafwys
Mae’n rhaid eich bod wedi gwneud y naill neu’r llall o’r canlynol:
-
dechrau’ch busnes yn y porthladd rhydd, neu wedi symud eich busnes yno ar ôl i’r porthladd rhydd gael ei sefydlu
-
ehangu’ch busnes yn y porthladd rhydd ar ôl i’r porthladd rhydd gael ei sefydlu – er enghraifft, os ydych wedi adeiladu estyniad, wedi cymryd ystafelloedd newydd, neu wedi prynu eiddo newydd yn y porthladd rhydd
Cysylltwch â’ch cyngor lleol os nad ydych yn siŵr a yw’ch busnes wedi’i leoli mewn porthladd rhydd neu beidio.
Yr hyn y byddwch yn ei gael
Eich cyngor lleol sy’n cyfrifo sut ³¾²¹±ð’r rhyddhad yn cael ei roi ar waith.
Fel arfer, byddwch yn cael y swm llawn o ryddhad, ac ni fydd angen i chi dalu ardrethi busnes ar eich eiddo os gwnaethoch y canlynol:
-
dechrau’ch busnes yn y porthladd rhydd, neu symud eich busnes yno ar ôl i’r porthladd rhydd gael ei sefydlu
-
ehangu’ch busnes i’r eiddo ar ôl i’r porthladd rhydd gael ei sefydlu
Fel arfer, cewch ostyngiad yn eich bil ardrethi busnes os oedd eich busnes yn yr eiddo cyn i’r porthladd rhydd gael ei sefydlu, a’ch bod wedi gwneud y canlynol:
-
ymestyn yr eiddo ar ôl i’r porthladd rhydd gael ei sefydlu – er enghraifft, os gwnaethoch adeiladu estyniad neu gymryd ystafelloedd newydd yn yr eiddo
-
gwella ystafell neu ardal o fewn yr eiddo fel y gallech ei defnyddio am y tro cyntaf ar ôl i’r porthladd rhydd gael ei sefydlu – er enghraifft, os gwnaethoch wneud gwelliannau o ran mynediad a diogelwch tân
Eich cyngor lleol sy’n penderfynu pa ostyngiad y byddwch yn ei gael yn eich bil ardrethi busnes. Fel arfer, mae’n seiliedig ar faint sydd wedi newid o ran gwerth ardrethol yr eiddo o ganlyniad i’ch estyniad neu’ch gwelliannau.
Pa mor hir y byddwch yn cael rhyddhad porthladdoedd rhydd
Byddwch yn cael rhyddhad porthladdoedd rhydd am 5 mlynedd, yn dechrau o’r diwrnod cyntaf y cewch y rhyddhad.
Sut i gael rhyddhad porthladdoedd rhydd
Cysylltwch â’ch porthladd rhydd lleol i wneud y canlynol:
-
gwirio a yw’n cynnig rhyddhad ardrethi busnes
-
gwirio a ydych yn gymwys i’w gael
-
cael gwybod sut i’w gael
Cysylltwch â’ch cyngor lleol i wirio a allwch gael unrhyw fathau eraill o ryddhad ardrethi busnes yn ogystal â rhyddhad porthladdoedd rhydd.
Os yw’ch rhyddhad porthladdoedd rhydd yn dod i ben, cysylltwch â’r cyngor i gael gwybod pam.
Os bydd newid yn eich amgylchiadau
Rhowch wybod am newidiadau er mwyn sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir. Bydd rhoi gwybod am newidiadau hefyd yn sicrhau nad ydych yn talu gormod nac yn cael cynnydd wedi’i ôl-ddyddio yn eich bil.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol os:
-
yw’ch eiddo yn dod yn wag
-
ydych yn cael eiddo arall
-
ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i’ch eiddo a fyddai’n cynyddu ei werth – er enghraifft, adeiladu estyniad neu gynnal gwaith adnewyddu
-
yw natur eich busnes yn newid, neu os yw’n symud i safle gwahanol
Gall faint o ryddhad porthladdoedd rhydd yr ydych yn gymwys i’w gael newid. Er enghraifft, gallai gynyddu os ydych wedi ymestyn eich eiddo ac mae gwerth ardrethol eich eiddo wedi cynyddu.
Fel arfer, bydd angen i chi dalu’ch cyfradd newydd o’r diwrnod y gwnaeth eich amgylchiadau newid ymlaen.
Os nad ydych yn cael rhyddhad porthladdoedd rhydd, a’ch bod o’r farn eich bod yn gymwys i’w gael
Cysylltwch â’ch cyngor lleol os nad ydych yn cael rhyddhad porthladdoedd rhydd, a’ch bod o’r farn eich bod yn gymwys i’w gael.
Os nad ydych yn gymwys i gael rhyddhad porthladdoedd rhydd
Mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael math arall o ryddhad ardrethi busnes. Er enghraifft, os yw’r canlynol yn wir:
-
mae gennych fusnes bach
-
mae gennych fusnes manwerthu, lletygarwch neu hamdden
-
rydych yn wynebu trafferthion ariannol
Gwiriwch pa ryddhadau eraill y gallech fod yn gymwys i’w cael.
14. Rhyddhad rhwydweithiau gwres
Gallwch gael rhyddhad rhwydweithiau gwres os yw’ch eiddo’n cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl, neu’n bennaf, fel ‘rhwydwaith gwres’.
Mae rhwydwaith gwres yn defnyddio ffynhonnell ganolog i wresogi neu oeri eiddo eraill. I fod yn gymwys, mae’n rhaid bod y canlynol yn wir am y rhwydwaith gwres:
-
mae’n cymryd ei egni o ffynhonnell garbon isel
-
mae’n gwresogi neu oeri eiddo eraill – er enghraifft, cartrefi, siopau, adeiladau cyhoeddus, ysbytai a swyddfeydd
Ni ddylai’r rhwydwaith gwres wresogi nac oeri at ddibenion diwydiannol – er enghraifft, i greu cynhyrchion mewn ffatrïoedd.
Yr hyn y byddwch yn ei gael
Ni fyddwch yn talu ardrethi busnes os yw’ch eiddo yn gymwys i gael rhyddhad rhwydweithiau gwres.
Sut i gael rhyddhad rhwydweithiau gwres
Cysylltwch ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) i wirio a yw’ch eiddo yn gymwys i gael rhyddhad rhwydweithiau gwres.
Os bydd newid yn eich amgylchiadau
Rhowch wybod am newidiadau er mwyn sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir. Bydd rhoi gwybod am newidiadau hefyd yn sicrhau nad ydych yn talu gormod nac yn cael cynnydd wedi’i ôl-ddyddio yn eich bil.
Cysylltwch â’r VOA os nad yw’r eiddo bellach yn cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl, neu’n bennaf, fel rhwydwaith gwres.
15. Eiddo eithriedig
Mae rhai eiddo wedi’i eithrio rhag ardrethi busnes.
Efallai na fydd yn rhaid i chi dalu ardrethi busnes ar gyfer y canlynol:
-
adeiladau a thir amaethyddol a ddefnyddir at ddibenion amaethyddol, gan gynnwys ffermydd pysgod
-
adeiladau a ddefnyddir ar gyfer hyfforddiant neu er lles pobl anabl
-
neuaddau eglwys neu adeiladau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer addoli crefyddol cyhoeddus
Mae gofynion cyfreithiol llym ar gyfer yr eithriadau hyn. Cysylltwch ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) i wirio a yw’ch eiddo wedi’i eithrio rhag ardrethi busnes.
Os ydych o’r farn y dylai’ch eiddo fod wedi’i eithrio
Gallwch roi gwybod i’r VOA eich bod o’r farn y dylai’ch eiddo fod wedi’i eithrio gan ddefnyddio’ch cyfrif prisio ardrethi busnes.
Os yw’r VOA yn penderfynu bod eich eiddo wedi’i eithrio, ni fydd angen i chi dalu ardrethi busnes ar yr eiddo, oni bai bod eich busnes neu’ch safle yn newid.
Os bydd newid yn eich amgylchiadau
Rhowch wybod am newidiadau er mwyn sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir. Bydd rhoi gwybod am newidiadau hefyd yn sicrhau nad ydych yn talu gormod nac yn cael cynnydd wedi’i ôl-ddyddio yn eich bil.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol os:
-
yw’ch eiddo yn dod yn wag
-
ydych yn cael eiddo arall
-
ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i’ch eiddo a fyddai’n cynyddu ei werth – er enghraifft, adeiladu estyniad neu gynnal gwaith adnewyddu
-
yw natur eich busnes yn newid, neu os yw’n symud i safle gwahanol
Os yw’r newid yn golygu nad yw’ch eiddo wedi’i eithrio mwyach, fel arfer bydd angen i chi dalu’ch cyfradd newydd ar gyfer ardrethi o’r diwrnod y gwnaeth eich amgylchiadau newid.
Os nad yw’ch eiddo wedi’i eithrio rhag ardrethi busnes
Mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael math arall o ryddhad ardrethi busnes.
Er enghraifft, os oes gennych siop ar eich eiddo amaethyddol, mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael y canlynol:
-
rhyddhad ardrethi gwledig, os mai’r unig fusnes mewn ardal wledig yw hwn
Mae’n bosibl eich bod hefyd yn gymwys os yw’r canlynol yn wir:
-
mae gennych fusnes bach
-
³¾²¹±ð’c³ó eiddo’n cael ei ddefnyddio gan elusen neu glwb chwaraeon amatur cymunedol
-
rydych yn wynebu trafferthion ariannol
Gwiriwch pa ryddhadau eraill y gallech fod yn gymwys i’w cael.
16. Cael help gyda rhyddhad ardrethi busnes
Cynghorau lleol sy’n gyfrifol am anfon biliau ardrethi busnes, casglu taliadau a gwneud penderfyniadau ynghylch a yw busnes yn gymwys i gael rhyddhad neu beidio.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol i gael help gyda rhyddhad ardrethi busnes, yn rhad ac am ddim.
Er enghraifft, gall y cyngor roi gwybod i chi am y canlynol:
-
y mathau o ryddhad ardrethi busnes yr ydych yn gymwys i gael, a sut i wneud cais
-
os gallwch gael mwy nag un math o ryddhad
-
y rheswm dros ddod â’ch rhyddhad i ben
-
y rheswm dros newid swm y rhyddhad ardrethi busnes rydych yn ei gael
-
pa ‘rhyddhadau disgresiwn’ y ³¾²¹±ð’r cyngor yn eu cynnig yn eich ardal
-
os bydd newid yn eich amgylchiadau yn cael effaith ar y rhyddhad y byddwch yn ei gael – er enghraifft, prynu eiddo newydd neu ei adnewyddu
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad gan y cyngor lleol ynghylch rhyddhad ardrethi busnes
Cysylltwch â’r cyngor i gael gwybod y rhesymau dros y penderfyniad. Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais arall i’r cyngor gan ddefnyddio rhagor o dystiolaeth o’ch cymhwystra.
Os bydd angen i chi herio gwerth ardrethol eich eiddo
Mae rhai rhyddhadau, fel rhyddhad ardrethi busnesau bach, yn seiliedig ar werth ardrethol eich eiddo.
Os ydych o’r farn bod gwerth ardrethol eich eiddo yn anghywir, gallwch ei herio gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA).
Defnyddiwch eich cyfrif prisio ardrethi busnes i herio gwerth ardrethol eich eiddo. Gallwch wneud hyn yn rhad ac am ddim.
Gallwch ddefnyddio asiant ardrethu i herio gwerth ardrethol eich eiddo, ond nid oes angen i chi wneud hynny. Cael cyngor ar benodi asiant.