Gofyn am wiriad DBS sylfaenol
Gwnewch gais am wiriad sylfaenol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i gael copi o’ch cofnod troseddol. Gelwir hyn yn ‘datgeliad sylfaenol’. Mae ar gael i bobl sy’n gweithio yng Nghymru a Lloegr.
Mae’n costio £21.50.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Gallwch hefyd gael gwiriad sylfaenol gan y DBS os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon neu’r Alban ond bod y swydd rydych chi’n gwneud cais amdani yng Nghymru neu Loegr.
Mae ffordd wahanol o wneud cais os ydych chi’n ²Ô±ð³Ü‵µ .
Dim ond euogfarnau nad ydynt wedi ‘disbyddu’ y bydd y gwiriad yn eu dangos, er enghraifft bydd rhai mathau o rybuddiad yn diflannu ar ôl 3 mis.
Fel arfer mae’n cymryd hyd at 3 diwrnod i’ch cais gael ei brosesu. Yna bydd tystysgrif bapur yn cael ei phostio atoch.
Rhaid i chi fod yn 16 oed ²Ô±ð³Ü‵µ hÅ·n i wneud cais.
Beth fydd ei angen arnoch chi
I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, bydd angen i chi brofi pwy ydych chi gan ddefnyddio One Login ÒÁÈËÖ±²¥. Byddwch chi’n gallu creu One Login ÒÁÈËÖ±²¥ os nad oes gennych chi un eisoes.
Bydd angen i chi ddarparu cyfeiriadau ar gyfer y 5 mlynedd diwethaf (gan gynnwys y dyddiadau y buoch chi’n byw ym mhob cyfeiriad), ac os ydynt gyda chi, eich:
- pasbort
- trwydded yrru (llawn neu dros dro)
- rhif Yswiriant Gwladol
Gwneud Cais
Mae’r gwasanaeth ar gael o 8am i 11:30pm.
Cyn i chi ddechrau
Darganfyddwch a oes angen gwiriad DBS sylfaenol arnoch (yn Saesneg) neu gofynnwch i’ch cyflogwr os nad ydych chi’n siŵr.
Ymgeiswyr trawsryweddol
Gallwch gofyn i beidio â datgelu eich enw na’ch rhywedd blaenorol (yn Saesneg) os ydych chi’n ymgeisydd trawsryweddol.
Os oes angen i chi gysylltu â DBS
Llinell gymorth y DBS: 03000 200 190 (dewiswch opsiwn 2 ac yna pwyswch 1)
Cymraeg: 03000 200 191
Rhyngwladol: +44 (0)151 676 9390
(os na allwch glywed na siarad ar y ffôn): 18001 yna 03000 200 192
Iaith Arwyddion Prydain (BSL):
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)
Dysgwch am gostau galwadau