Hawlio budd-daliadau os ydych yn byw, symud neu’n teithio dramor
Printable version
1. Trosolwg
Efallai gallwch barhau i hawlio rhai budd-daliadau os ydych yn teithio neu’n symud dramor, neu os ydych yn barod yn byw dramor. Mae’r hyn y mae gennych hawl iddo yn dibynnu ar ble rydych yn mynd ac am faint o amser.
Gyda phwy i gysylltu os ydych yn mynd dramor
Dywedwch wrth eich Canolfan Byd Gwaith neu wrth y swyddfa sy’n talu eich budd-dal os ydych yn mynd dramor. Os mai symudiad dros dro ydyw, dywedwch wrthynt pan fyddwch yn dychwelyd.
Bydd hefyd rhaid i chi roi gwybod i CThEF os ydych yn gadael y DU
Hawlio pan ydych dramor
Os ydych yn mynd i (neu yn barod yn byw mewn) gwlad Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu gwlad gyda threfniadau arbennig gyda’r DU, efallai gallwch hawlio:
- budd-daliadau yn y DU
- budd-daliadau sydd wedi’i ddarparu gan y wlad yr ydych yn symud i
Gallwch hefyd hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth tramor.
Hawlio budd-daliadau mewn gwlad AEE neu’r Swistir
Os ydych yn byw neu’n bwriadu mynd i wlad AEE neu’r Swistir efallai gallwch hawlio rhai budd-daliadau’r DU.
Darganfyddwch os gallwch gael budd-daliadau yn yr AEE neu’r Swistir
Pryd fyddwch yn cael eich taliad
Mae’r dyddiad yr ydych yn cael eich taliad yn dibynnu ar ba fudd-dal rydych yn ei hawlio.
Os ydych yn byw dramor ac yn disgwyl eich taliad yn yr un wythnos â , gallai gyrraedd diwrnod yn hwyr. Mae hyn oherwydd bod cwmni o’r UD yn prosesu’r taliadau hyn.
Twyll budd-daliadau
Rydych yn cyflawni twyll budd-dal os:
- nad ydych yn rhoi gwybod i’r swyddfa sy’n talu eich budd-dal eich bod yn mynd dramor, hyd yn oed os mai dim ond ar gyfer ymweliad ydyw
- nad ydych yn rhoi gwybod yn fwriadol am newid yn eich amgylchiadau tra byddwch dramor, fel prynu eiddo, gweithio, neu hawlio pensiwn neu fudd-dal o wlad arall
- ydych yn anonest er mwyn cael budd-daliadau, fel parhau i hawlio pensiwn neu fudd-dal rhywun sydd wedi marw dramor
2. Ble gallwch hawlio budd-daliadau
Gwledydd Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE)
Os ydych yn byw neu’n bwriadu mynd i wlad AEE neu’r Swistir efallai y gallwch hawlio rhai budd-daliadau’r DU.
Darganfyddwch a allwch chi gael budd-daliadau yn yr AEE neu’r Swistir
Gwledydd eraill sydd â threfniadau budd-daliadau yn y DU
Mae gan y gwledydd canlynol trefniadau nawdd cymdeithasol gyda’r DU:
- Barbados
- Bermuda
- Bosnia a Herzegovina
- Canada
- Ynysoedd y Sianel
- Gibraltar
- Israel
- Jamaica
- Kosovo
- Mauritius
- Montenegro
- Seland Newydd
- Gogledd Macedonia
- Ynysoedd Philippines
- Serbia
- Twrci
- UDA
Efallai y gallwch hawlio budd-daliadau penodol yn y gwledydd hyn ond bydd hynny’n dibynnu ar y wlad benodol.
3. Credyd Cynhwysol
Credyd Cynhwysol
Os ewch dramor, gallwch barhau i gael Credyd Cynhwysol am fis.
Mae’n rhaid i chi:
- fod yn gymwys ar gyfer Credyd Cynhwysol pan fyddwch yn mynd dramor
- parhau i fod yn gymwys ar ei gyfer tra byddwch dramor
- dywedwch wrth eich anogwr gwaith eich bod yn mynd
Os bydd perthynas agos yn marw tra’ch bod dramor ac na fyddai’n rhesymol i chi ddod yn ôl i’r DU, gallwch gael Credyd Cynhwysol am fis arall.
Ni allwch gael Credyd Cynhwysol os ydych yn symud dramor yn barhaol.
Ni allwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych eisoes dramor.
Mynd dramor am driniaeth feddygol
Gallwch barhau i gael Credyd Cynhwysol am hyd at 6 mis os:
- ydych yn mynd dramor i gael triniaeth feddygol
- mae eich partner neu blentyn yn mynd dramor i gael triniaeth feddygol a’ch bod yn mynd gyda nhw
Os ydych chi’n forwr neu’n weithiwr silff cyfandirol
Os oes gennych hawl i Gredyd Cynhwysol pan fyddwch yn mynd dramor, gallwch barhau i’w gael am hyd at 6 mis.
4. Lwfans Ceisio Gwaith
Mae 3 math gwahanol o Lwfans Ceisio Gwaith (JSA):
- JSA ‘dull newydd’
- JSA yn seiliedig ar gyfraniadau
- JSA yn seiliedig ar incwm
Nid oes modd i chi cael JSA yn seiliedig ar incwm dramor.
Gallwch gael JSA ‘dull newydd’ neu JSA yn seiliedig ar gyfraniadau yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu’r Swistir am hyd at 3 mis os ydych:
- yn gymwys amdano ar y diwrnod rydych yn mynd dramor
- wedi cofrestru fel ceisiwr gwaith o leiaf 4 wythnos cyn i chi adael
- yn chwilio am waith yn y DU hyd at y diwrnod rydych yn gadael
- yn mynd dramor i chwilio am waith
- yn cofrestru mewn Ganolfan Byd Gwaith cyfatebol yn y wlad rydych yn mynd iddi
- yn dilyn rheolau’r wlad arall am gofrestru a chwilio am waith
- wedi’ch diogelu gan y Cytundeb Ymadael
Darganfyddwch a allwch gael JSA yn yr AEE neu’r Swistir.
Symud i wlad nad yw yn yr AEE
Mae gan rhai gwledydd tu allan i’r AEE gytundebau nawdd cymdeithasol gyda’r DU. Mae hyn yn golygu os ydych wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol digonol yn y DU, efallai gallwch gael budd-daliad diweithdra yn:
- Bosnia a Herzegovina
- Ynysoedd y Sianel
- Kosovo
- Macedonia
- Montenegro
- Seland Newydd
- Serbia
Help a chyngor ar JSA
Canolfan Pensiwn Rhyngwladol
Ffôn +44 (0) 191 206 9390
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9:30am i 3:30pm
Darganfyddwch fwy am gostau ffôn a rhifau ffôn
5. Budd-daliadau mamolaeth a gofal plant
Tâl Mamolaeth Statudol (SMP)
Os ydych yn gweithio i gyflogwr DU yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu’r Swistir, gallwch gael SMP os ydych yn gymwys.
Darganfyddwch os gallwch gael Tâl Mamolaeth Statudol yn yr AEE neu’r Swistir.
Os ydych yn gweithio mewn gwlad wahanol, gallwch gael SMP o hyd os ydy’ch cyflogwr yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol y DU ar eich cyfer.
Trafodwch hawlio SMP gyda’ch cyflogwr.
Lwfans Mamolaeth
Os na allwch gael SMP, efallai y byddwch yn gymwys am Lwfans Mamolaeth.
Os ydych yn gymwys, efallai y gallwch gael Lwfans Mamolaeth mewn gwlad AEE neu’r Swistir.
Darganfyddwch os gallwch gael Lwfans Mamolaeth yn yr AEE neu’r Swistir.
Efallai y gallwch hefyd ei hawlio yn:
- Barbados
- Bosnia a Herzegovina
- Ynysoedd y Sianel
- Gibraltar
- Israel
- Kosovo
- Macedonia
- Montenegro
- Serbia
- Twrci
Gofynnwch i’ch Canolfan Byd Gwaith am ragor o wybodaeth.
Budd-daliadau sy’n ymwneud â phlant
Efallai y gallwch hefyd gael y canlynol mewn gwlad AEE neu’r Swistir os ydych yn gymwys:
- Budd-dal Plant
- Credyd treth
- Lwfans Gwarcheidwad (gallwch hawlio hwn os ydych yn cael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn y mae ei ddau riant wedi marw)
6. Budd-daliadau salwch ac anaf
Tâl salwch statudol (SSP)
Gallwch gael SSP os ydych yn gymwys ac mae un o’r canlynol yn berthnasol:
- rydych yn gweithio am gyflogwr DU yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu’r Swistir
- rydych yn gweithio y tu allan i’r AEE ac mae’ch cyflogwr yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar eich cyfer
Cysylltwch â’ch cyflogwr i hawlio SSP.
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)
Gallwch gael ESA am hyd at 4 wythnos os ydych yn mynd dramor. Siaradwch â’ch Canolfan Byd Gwaith lleol cyn i chi fynd.
Mynd dramor am fwy na 4 wythnos ond llai na blwyddyn
Rhowch wybod i’ch Canolfan Byd Gwaith lleol os ydych yn mynd dramor am fwy na 4 wythnos.
Gallwch barhau i dderbyn ESA yn Seiliedig ar Gyfraniadau am hyd at 26 wythnos os ydych yn mynd dramor am driniaeth feddygol am eich hun neu’ch plentyn.
Nid oes ots i ba wlad rydych chi’n mynd.
Mynd dramor am fwy na blwyddyn
Efallai cewch ESA yn Seiliedig ar Gyfraniadau yn yr AEE neu’r Swistir os ydych:
- yn gymwys
- wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol
- wedi’ch diogelu gan y Cytundeb Ymadael
Darganfyddwch a allwch gael ESA yn seiliedig ar Gyfraniadau yn yr AEE neu’r Swistir.
Help a chyngor ar ESA
Canolfan Bensiwn Ryngwladol
Ffôn +44 (0) 191 206 9390
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9:30am i 3:30pm
Darganfyddwch fwy am gostau ffôn a rhifau ffôn
Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (IIDB)
Os ydych yn cael Budd-dal Anafiadau Diwydiannol ar gyfer salwch a damweiniau sy’n gysylltiedig â gwaith, gallwch barhau i gael hwn dramor.
Cysylltwch â’r swyddfa sy’n delio gyda’ch budd-dal os ydych yn y DU o hyd, neu’r Ganolfan Bensiwn Ryngwladol os ydych yn byw dramor.
Help a chyngor ar IIDB
Canolfan Pensiwn Rhyngwladol
Ffôn +44 (0) 191 206 9390
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9:30am i 3:30pm
Darganfyddwch fwy am gostau ffôn a rhifau ffôn
7. Budd-daliadau ar gyfer gofalwyr a phobl ag anabledd
Mae’r hyn y gallwch ei hawlio yn dibynnu ar:
- pa fudd-dal rydych yn ei hawlio
- ble rydych yn mynd ac am faint o amser
Mynd dramor dros-dro
Gallwch hawlio’r budd-daliadau canlynol os ydych yn mynd dramor am hyd at 13 wythnos (neu 26 wythnos os ydych yn mynd am driniaeth feddygol):
Gallwch barhau i hawlio Lwfans Gofalwr os ydych yn cymryd hyd at 4 wythnos o wyliau allan mewn cyfnod o 26-wythnos.
Rhowch wybod i’r swyddfa sy’n delio gyda’ch budd-dal eich bod yn mynd i ffwrdd.
Mynd dramor i wlad AEE neu’r Swistir yn barhaol
Efallai gallwch chi neu aelod o’ch teulu hawlio budd-daliadau os ydych:
- yn gweithio yn y DU neu’n talu Yswiriant Gwladol yn y DU oherwydd gwaith
- wedi talu digon o Yswiriant Gwladol i fod yn gymwys am fudd-daliadau sy’n seiliedig ar gyfraniadau
- yn cael Pensiwn y Wladwriaeth, Budd-dal Anafiadau Diwydiannol, ESA yn Seiliedig ar Gyfraniad neu fudd-daliadau Profedigaeth
- wedi’ch diogelu gan y Cytundeb Ymadael
Os ydych yn gymwys efallai y gallwch hefyd hawlio:
- Elfen gofal Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) i oedolion
- Elfen byw bob dydd Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
- Lwfans Gweini neu Lwfans Gofalwr
Nid oes modd i chi hawlio elfen symudedd DLA ac elfen symudedd PIP dramor
Darganfyddwch a allwch hawlio budd-daliadau yn yr AEE neu’r Swistir.
Os ydych yn barod yn byw mewn gwlad AEE neu’r Swistir
Nid oes angen eich bod wedi hawlio yn y DU cyn i chi symud. Ond mae’n rhaid:
- eich bod yn mewn gwlad yr AEE neu’r Swistir
- bod gennych gysylltiad gwirioneddol gyda system nawdd cymdeithasol y DU, er enghraifft rydych wedi byw neu weithio yn y DU
- eich bod wedi’ch diogelu gan y Cytundeb Ymadael
Darganfyddwch a allwch hawlio budd-daliadau yn yr AEE neu’r Swistir.
Os oes gennych anabledd
Os ydych yn gymwys, gallwch hawlio’r elfen fyw ddyddiol o’r naill neu’r llall:
- Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
- , os oes gennych ‘gyswllt dilys a digonol’ â’r Alban
Cysylltwch â’r Ganolfan Gwasanaeth Anabledd os ydych ar hyn o bryd yn hawlio PIP neu Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) i oedolion ac eisiau gwneud cais am Daliad Anabledd Oedolion yn lle.
os ydych ar hyn o bryd yn hawlio Taliad Anabledd Oedolion ac eisiau gwneud cais am PIP.
Gallech hefyd os nad ydych yn siŵr a oes gennych ‘gyswllt dilys a digonol’ â’r Alban.
Os oes gennych blentyn anabl o dan 16 oed
Os yw eich plentyn yn gymwys, gallwch hawlio’r rhan elfen gofal o’r naill neu’r llall:
-
, os oes gennych ‘gyswllt dilys a digonol’ â’r Alban
Os ydych yn hawlio DLA i blant ar hyn o bryd ac eisiau hawlio Taliad Anabledd Plant yn lle hynny, cysylltwch â’r Ganolfan Gwasanaeth Anabledd.
Os ydych yn hawlio Taliad Anabledd Plant ar hyn o bryd ac eisiau hawlio DLA i blant, .
Gallwch hefyd os nad ydych yn siŵr a oes gennych ‘gyswllt dilys a digonol’ â’r Alban
Gwneud cais neu newid eich manylion
I wneud cais neu newid unrhyw fanylion personol, fel eich cyfeiriad neu’ch cyfrif banc, ysgrifennwch at y Tîm Allforiadwyedd sy’n delio gyda’r budd-dal rydych yn ei hawlio.
Os ydych yn gwneud cais, dylai eich llythyr ddweud:
- pa fudd-daliadau rydych am eu hawlio
- ble rydych chi’n byw
Tîm Allforiadwyedd Lwfans Gweini
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 2AD
United Kingdom
Tîm Allforiadwyedd Lwfans Byw i’r Anabl
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 2AD
United Kingdom
Tîm Allforiadwyedd Taliad Annibyniaeth Personol
Mail Handling Site B
Wolverhampton
WV99 1AE
United Kingdom
Lwfans Gofalwr
Gallwch hawlio Lwfans Gofalwr neu rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau ar-lein.
Gallwch hefyd ysgrifennu at Dîm Allforiadwyedd Lwfans Gofalwr.
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 2AE
United Kingdom
Help a chyngor
Cysylltwch â Thîm Allforiadwyedd Budd-daliadau Anabledd am Lwfans Byw i’r Anabl (DLA), Lwfans Gweini a Thaliad Annibyniaeth Personol (PIP).
Os oes gennych ymholiad cyffredinol am Lwfans Gofalwr, cysylltwch ag Uned Lwfans Gofalwr.
Os ydych yn defnyddiwr Iaith Arwyddion Prydain (BSL), gallwch ddefnyddio . Mae ar gael Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 6pm – .
8. Taliadau Tanwydd Gaeaf
Efallai gallwch hawlio Taliad Tanwydd Gaeaf os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:
- cawsoch eich geni ar neu cyn 5 Hydref 1954
- rydych yn byw yn y Swistir neu wlad yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) (heblaw am Cyprus, Ffrainc, Gibraltar, Groeg, Malta, Portiwgal neu Sbaen)
- mae gennych gysylltiad dilys a digonol â’r DU – gall hyn gynnwys byw neu weithio yn y DU, a bod gennych deulu yn y DU
- rydych wedi’ch diogelu gan y Cytundeb Ymadael
Nid oes rhaid eich bod wedi hawlio Taliadau Tanwydd Gaeaf yn y DU cyn i chi fynd dramor.
Darganfyddwch a allwch hawlio budd-daliadau yn yr AEE neu’r Swistir.
9. Budd-daliadau profedigaeth
Os ydych chi eisoes yn cael budd-dal profedigaeth pan fyddwch chi’n symud dramor, byddwch chi’n dal i’w gael – nid oes ots i ble rydych yn symud.
Efallai y gallwch wneud cais newydd os ydych yn byw mewn rhai gwledydd y tu allan i’r DU.
Gwledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE), y Swistir a Gibraltar
Os ydych yn byw mewn gwlad AEE, y Swistir neu Gibraltar, a’ch bod yn gymwys, efallai y gallwch hawlio’r canlynol:
Darganfyddwch a allwch chi hawlio budd-daliadau yn yr AEE neu’r Swistir.
Gwledydd y tu allan i’r AEE
Efallai y byddwch hefyd yn gallu hawlio budd-daliadau profedigaeth mewn rhai gwledydd y tu allan i’r AEE.
Taliad Cymorth Profedigaeth:
- Barbados
- Bosnia a Herzegovina
- Ynysoedd y Sianel
- Israel
- Jamaica
- Kosovo
- Macedonia
- Montenegro
- Seland Newydd
- Ynysoedd y Philippines
- Serbia
- Twrci
- UDA
Lwfans Rhiant Gweddw:
- Barbados
- Bermuda
- Bosnia a Herzegovina
- Ynysoedd y Sianel
- Israel
- Jamaica
- Kosovo
- Macedonia
- Montenegro
- Seland Newydd
- Ynysoedd y Philippines
- Serbia
- Twrci
- UDA
Gall y gyfradd a’r meini prawf cymhwyster amrywio rhwng gwledydd.
Help a chymorth ar fudd-daliadau profedigaeth
Canolfan Bensiwn Ryngwladol
Ffôn +44 (0) 191 206 9390
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9:30am i 3:30pm
Darganfyddwch fwy am gostau ffôn a rhifau ffôn