Newid manylion cerbyd ar dystysgrif gofrestru V5CW (llyfr log)

Printable version

1. Pan fydd angen ichi ddiweddaru’ch V5CW

Rhaid ichi ddiweddaru’r manylion ar eich tystysgrif gofrestru (V5CW) i ddweud wrth DVLA am:

  • gamgymeriadau ar eich V5CW

  • y rhan fwyaf o newidiadau a wnewch i’ch cerbyd

Ni allwch newid dosbarth treth drwy ddiweddaru eich V5CW. Rydych yn gwneud hyn drwy newid eich treth cerbyd - hyd yn oed os ydych yn newid i ddosbarth treth sydd wedi’i eithrio rhag treth cerbyd, er enghraifft ‘anabl’.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English)

Newidiadau y mae angen ichi eu diweddaru

Rhaid ichi ddiweddaru eich V5CW os ydych yn newid unrhyw un o’r canlynol:

  • lliw

  • injan

  • capasiti silindr (cc)

  • math o danwydd

  • siasi neu blisgyn corff (wedi’i ddisodli neu ei addasu)

  • nifer y seddi

  • pwysau cerbyd mawr, er enghraifft cerbyd nwyddau neu fan wersylla

Newidiadau y gallai fod angen eu harchwilio

Rhaid ichi hefyd ddiweddaru eich V5CW os ydych yn newid unrhyw un o’r canlynol:

Bydd DVLA yn dweud wrthych a oes angen iddynt archwilio’r newid.

2. Pa dystiolaeth i'w rhoi

Rhaid ichi roi tystiolaeth neu gadarnhad ysgrifenedig i DVLA os ydych yn gwneud unrhyw un o’r newidiadau canlynol i’ch cerbyd. Bydd eich diweddariad V5CW yn cael ei wrthod os na wnewch hynny.

Newid rhif injan neu gapasiti silindr (cc)

Mae angen ichi ddarparu un o’r canlynol:

  • derbynneb am yr injan newydd sy’n cynnwys rhif yr injan a’r capasiti silindr

  • tystiolaeth ysgrifenedig gan y gwneuthurwr

  • adroddiad archwilio a ddarperir at ddibenion yswiriant

  • cadarnhad ysgrifenedig ar bapur pennawd gan garej (os digwyddodd y newid cyn ichi brynu’r cerbyd)

Newid y math o danwydd

Mae angen ichi ddarparu tystiolaeth os:

  • yw eich injan bresennol wedi’i thrawsnewid – rhaid i’r cadarnhad fod ar bapur pennawd gan y garej a wnaeth y gwaith

  • yw injan newydd wedi’i gosod – darparwch y dderbynneb fel cadarnhad

Newid pwysau cerbyd mwy

Os ydych yn newid pwysau cerbyd mawr (er enghraifft, fan wersylla neu gerbyd nwyddau), bydd angen ichi ddarparu naill ai:

  • tystysgrif platio

  • tystysgrif pwysau dylunio

Newid y math o gorff yn garafán modur

Gwiriwch pa dystiolaeth sydd ei hangen arnoch pan ydych yn trosi fan yn fan wersylla neu garafán fodur.

3. Sut i ddiweddaru eich V5CW

Llenwch adran 1 os oes gennych lyfr log steil newydd gyda blociau wedi’u rhifo amryliw ar y clawr blaen. Llenwch adran 7 os oes gennych y llyfr log steil hŷn.

Anfonwch ef i DVLA gydag unrhyw dystiolaeth angenrheidiol.

Os nad yw’r newid wedi’i restru yn adran 1 neu 7, ychwanegwch nodiadau at yr adran ‘manylion y cerbyd’ yn lle hynny. Anfonwch ef i DVLA gyda thystiolaeth a llythyr yn egluro’r newid.

Ble i anfon eich V5CW

Anfonwch eich V5CW i DVLA, Abertawe, SA99 1DZ os gwnaethoch newid unrhyw un o’r canlynol:

  • maint yr injan (cc)

  • math o danwydd

  • pwysau cerbyd nwyddau

  • nifer y seddi ar fws

Ar gyfer pob newid arall, anfonwch eich V5CW i DVLA, Abertawe, SA99 1BA.

Beth sy’n digwydd nesaf

Bydd DVLA yn cysylltu â chi i:

  • gadarnhau’r newid neu ddweud wrthych a oes angen archwiliad arno

  • dweud wrthych os yw’r newid yn golygu bod rhaid ichi dalu mwy o dreth cerbyd

Gall gymryd hyd at 2 i 4 wythnos i gael tystysgrif newydd os gwnewch gais drwy’r post.

Cysylltwch â DVLA os nad ydych wedi derbyn eich llyfr log a bod 4 wythnos wedi mynd heibio ers ichi wneud cais.

Os nad ydych wedi derbyn eich llyfr log ar ôl 6 wythnos ac nad ydych wedi hysbysu DVLA, bydd rhaid ichi dalu £25 i gael un amnewid.