Trosolwg

Gallwch awdurdodi rhywun arall i ddelio â Chyllid a Thollau EF (CThEF) ar eich rhan.

Gallwch wneud y canlynol:

  • awdurdodi asiant i reoli eich materion treth (fel cyfrifydd neu ymgynghorydd treth)
  • gofyn i ffrind neu berthynas reoli eich treth ar-lein
  • awdurdodi ffrind, perthynas neu sefydliad gwirfoddol i siarad â CThEF a’ch helpu gyda llenwi ffurflenni

  • rhoi pŵer atwrnai i rywun wneud penderfyniadau treth ar eich rhan, neu i’ch helpu gyda gwneud penderfyniadau treth

Mae’r arweiniad hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Os bydd yn rhaid i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad, bydd CThEF yn anfon pob gohebiaeth, oni bai am filiau treth ac ad-daliadau, at y person yr ydych wedi’i awdurdodi. Fel arall, bydd CThEF yn parhau i ysgrifennu atoch chi.

Os oes angen i rywun eich helpu gyda’ch Hunanasesiad yn y byr dymor yn unig, ffoniwch CThEF. Mae’n rhaid i’r person sy’n eich helpu fod wrth eich ymyl pan fyddwch yn ffonio – bydd CThEF yn cadarnhau pwy ydyw a sicrhau eich bod yn hapus i’r person eich cynrychioli chi.