Pensiynau personol

Printable version

1. Trosolwg

Mae pensiynau personol yn bensiynau rydych yn eu trefnu i chi’ch hun. Weithiau fe’u gelwir yn bensiynau cyfraniadau diffiniedig (yn agor tudalen Saesneg) neu bensiynau ‘pryniannau arian’. Fel arfer, byddwch yn cael pensiwn sy’n seiliedig ar faint a dalwyd i mewn.

Mae rhai cyflogwyr yn cynnig pensiynau personol fel pensiynau gweithle (yn agor tudalen Saesneg).

Mae’r arian rydych yn ei dalu i mewn i bensiwn personol yn cael ei roi mewn buddsoddiadau (fel cyfranddaliadau) gan y darparwr pensiwn.  Mae’r arian a gewch o bensiwn personol fel arfer yn dibynnu ar y canlynol:

  • faint sydd wedi’i dalu i mewn iddo

  • sut mae buddsoddiadau’r gronfa wedi perfformio - gallant fynd i fyny neu i lawr

  • sut rydych yn penderfynu cymryd eich arian

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Mathau o bensiwn personol

Mae gwahanol fathau o bensiwn personol. Maent yn cynnwys:

  • - mae’n rhaid i’r rhain fodloni gofynion penodol y llywodraeth, er enghraifft cyfyngiadau ar daliadau

  • - mae’r rhain yn caniatáu i chi reoli’r buddsoddiadau penodol sy’n rhan o’ch cronfa bensiwn

Dylech wirio bod eich darparwr wedi’i gofrestru gyda’r ²Ô±ð³Ü’r os yw’n bensiwn rhanddeiliaid.

Talu i mewn i bensiwn personol

Gallwch naill ai wneud taliadau cyfandaliad rheolaidd neu unigol i ddarparwr pensiwn. Byddant yn anfon datganiadau blynyddol atoch, gan roi gwybod i chi faint yw gwerth eich cronfa.

Fel arfer byddwch yn cael gostyngiad treth ar arian rydych yn ei dalu i mewn i bensiwn (yn agor tudalen Saesneg). Gwiriwch â’ch darparwr bod eich cynllun pensiwn wedi’i gofrestru gyda Chyllid a Thollau EF (CThEF) - os nad yw wedi’i gofrestru, ni fyddwch yn cael rhyddhad treth.

2. Dewis pensiwn personol

Mae Cyngor ar Bopeth yn cynnwys gwybodaeth am .

Talu am gyngor ariannol

Gallwch ddod o hyd i ymgynghorydd ariannol:

  • ar y

  • gan y

3. Sut y gallwch gymryd eich pensiwn

Mae’r rhan fwyaf o bensiynau personol yn pennu oedran pan allwch ddechrau cymryd arian ganddynt. Nid yw fel arfer cyn 55. Cysylltwch â’ch darparwr pensiwn os nad ydych yn siŵr pryd y gallwch gymryd eich pensiwn.

Fel arfer, gallwch gymryd hyd at 25% o’r swm a gronnwyd mewn unrhyw bensiwn fel cyfandaliad rhydd o dreth. Y mwyaf y gallwch ei gymryd yw £268,275.

Os oes gennych lwfans wedi’i ddiogelu (yn agor tudalen Saesneg), gall hyn gynyddu swm y cyfandaliad rhydd o dreth y gallwch ei gymryd o’ch pensiynau.

Yna, bydd gennych 6 mis i ddechrau cymryd y 75% sy’n weddill, a byddwch fel arfer yn talu treth ²¹°ù²Ô´Ç.Ìý

Mae’r opsiynau sydd gennych ar gyfer cymryd gweddill eich cronfa bensiwn yn cynnwys:

  • cymryd y cyfan neu rywfaint ohono fel arian parod

  • prynu cynnyrch sy’n rhoi incwm gwarantedig i chi (a elwir weithiau’n ‘blwydd-dal’) am oes

  • buddsoddi ynddo i gael incwm rheolaidd, addasadwy (a elwir weithiau’n ‘cyrchu’n hyblyg’)

Gofynnwch i’ch darparwr pensiwn pa opsiynau y maent yn eu cynnig (mae’n bosibl na fyddant yn cynnig nhw i gyd). Os nad ydych am gymryd unrhyw un o’u hopsiynau, gallwch drosglwyddo’ch cronfa bensiwn (yn agor tudalen Saesneg) i ddarparwr gwahanol.

Trethi a thaliadau

Bydd eich darparwr pensiwn yn dileu unrhyw dreth sy’n ddyledus gennych cyn i chi gael arian o’ch cronfa bensiwn.

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cyfradd uwch o dreth os cymerwch symiau mawr o’ch cronfa bensiwn. Mae hefyd yn bosibl y bydd arnoch dreth ychwanegol ar ddiwedd y flwyddyn dreth.

Mae’n bosibl y bydd eich darparwr pensiwn yn codi tâl arnoch am dynnu arian o’ch cronfa bensiwn yn ôl - gwiriwch â nhw am hyn.

Cael taliadau rheolaidd o flwydd-dal

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu prynu blwydd-dal gan gwmni yswiriant sy’n rhoi taliadau rheolaidd am oes i chi. Gallwch ofyn i’ch darparwr pensiwn dalu amdano allan o’ch cronfa bensiwn.

Gall y swm a gewch amrywio. Mae’n dibynnu ar ba mor hir mae’r cwmni yswiriant yn disgwyl i chi fyw a faint o flynyddoedd y bydd yn rhaid iddynt eich talu. Pan fyddant yn cyfrifo’r swm y dylent ei ystyried:

  • eich oedran a’ch rhywedd

  • maint eich cronfa bensiwn

  • cyfraddau llog

  • eich iechyd (weithiau)

Mae yna wahanol fathau o flwydd-daliadau. Mae rhai am gyfnod penodol (er enghraifft, taliadau am 10 mlynedd yn lle eich oes) ac mae rhai’n parhau i dalu’ch priod neu’ch partner ar ôl i chi farw.

Nid oes rhaid i chi brynu’ch blwydd-dal oddi wrth eich darparwr pensiwn.

Buddsoddi’r arian mewn cronfa

Mae’n bosibl y gallwch ofyn i’ch darparwr pensiwn fuddsoddi’ch cronfa bensiwn mewn cronfa a gyrchir yn hyblyg.

O gronfa a gyrchir yn hyblyg, gallwch wneud y canlynol:

Cadw’ch cronfa wedi’i chapio

Os oes gennych ac eisiau ei chadw, bydd eich arian yn parhau i gael ei fuddsoddi.

Gallwch ddal ati i dynnu’n ôl a thalu i mewn. Mae’ch darparwr pensiwn yn pennu uchafswm y gallwch ei gymryd bob blwyddyn. Bydd y terfyn hwn yn cael ei adolygu bob 3 blynedd nes i chi gyrraedd 75 oed, yna bob blwyddyn ar ôl hynny.

Tynnu arian allan o’ch cronfa bensiwn

Mae’n bosibl y gallwch gymryd arian parod yn uniongyrchol o’ch cronfa bensiwn. Gallwch wneud y canlynol:

4. Dod o hyd i help

Cysylltwch â’ch darparwr pensiwn yn gyntaf os oes angen help arnoch gyda phensiwn personol.

Os na allant helpu, gallwch gael gwybodaeth yn rhad ac am ddim a diduedd gan . Nid yw ÒÁÈËÖ±²¥Helper yn darparu cyngor ariannol.

Cyngor ariannol

Gallwch os ydych eisiau cyngor. Fel arfer, bydd yn rhaid i chi dalu am eu gwasanaethau.

Os ydych dros 50 oed

Mae gan gwybodaeth am eich opsiynau pensiwn. Os ydych dros 50 oed, gallwch drefnu apwyntiad yn rhad ac am ddim i siarad am eich opsiynau. Nid yw Pension Wise yn cynnwys Pensiwn y Wladwriaeth, pensiwn ‘cyflog terfynol’ na phensiynau ‘cyfartaledd gyrfa’.

Pensiwn y Wladwriaeth

I gael help gyda’ch Pensiwn y Wladwriaeth cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn (yn agor tudalen Saesneg).

5. Cwynion

Os oes gennych gŵyn ynglŷn â sut mae’ch cynllun pensiwn yn cael ei redeg, siaradwch â’ch darparwr pensiwn yn gyntaf. Mae’n rhaid iddynt ymateb cyn pen 8 wythnos.

Gallwch hefyd gysylltu os ydych yn poeni am sut mae cynllun pensiwn yn cael ei redeg.

Cwyno am farchnata

Cwyno i’r cwmni y gwnaethoch brynu’r pensiwn oddi wrtho, fel y darparwr neu gynghorydd ariannol.

Os nad ydych yn hapus gyda sut maent yn delio â’ch cwyn, cysylltwch â .

Os yw’ch darparwr wedi torri’r gyfraith

Os ydych yn credu bod eich darparwr pensiwn wedi torri’r gyfraith, gallwch gwyno i’r canlynol:

  • y ar gyfer pensiynau gweithle

  • yr ar gyfer pensiynau personol a rhanddeiliaid 

Os yw’ch darparwr yn mynd i’r wal

Os awdurdodwyd y darparwr pensiwn gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol ac na allwch dalu, gallech gael iawndal gan y