Pleidleisio os byddwch yn symud dramor neu os ydych yn byw dramor
Printable version
1. Trosolwg
Gallwch gofrestru fel pleidleisiwr tramor os byddwch yn symud neu’n byw dramor.
Rhaid eich bod wedi byw yn y DU yn flaenorol, a’ch bod naill ai:
-
yn ddinesydd Prydeinig
-
yn ddinesydd Gwyddelig cymwys sy’n cofrestru i bleidleisio yng Ngogledd Iwerddon
Mae’r rheolau’n wahanol os byddwch dramor dros dro ar ddiwrnod yr etholiad.
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Sut i gofrestru fel pleidleisiwr tramor
I bleidleisio yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban cofrestrwch i bleidleisio yn y ffordd arferol.
I bleidleisio yng Ngogledd Iwerddon, .
Mae ffyrdd gwahanol o gofrestru os ydych yn gweithio dramor yn y lluoedd arfog, fel un o weision y Goron neu fel aelod o’r British Council.
Adnewyddu eich cofrestriad
Rhaid i chi adnewyddu eich cofrestriad bob tair blynedd er mwyn pleidleisio yn etholiadau’r DU pan fyddwch dramor.
Byddwch yn cael nodyn atgoffa pan fydd yn amser i chi ei adnewyddu.
Os na fyddwch yn adnewyddu eich cofrestriad, byddwch yn cael eich tynnu oddi ar y gofrestr. Bydd angen i chi gofrestru i bleidleisio eto fel pleidleisiwr tramor.
Pa etholiadau y gallwch bleidleisio ynddynt
Gallwch bleidleisio yn etholiadau Senedd y DU os ydych wedi’ch cofrestru fel pleidleisiwr tramor.
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu pleidleisio mewn refferenda. Mae gan bob refferendwm reolau gwahanol o ran pwy all bleidleisio ynddo.
Ffyrdd y gallwch bleidleisio fel pleidleisiwr tramor
Os ydych wedi’ch cofrestru i bleidleisio yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, gallwch naill ai:
- bleidleisio drwy’r post
- pleidleisio drwy ddirprwy (os ydych yn gymwys)
- pleidleisio’n bersonol
Os ydych wedi’ch cofrestru i bleidleisio yng Ngogledd Iwerddon, gallwch naill ai:
- bleidleisio drwy ddirprwy (os ydych yn gymwys) - bydd angen i chi
- pleidleisio’n bersonol
Ni allwch bleidleisio drwy’r post os ydych wedi’ch cofrestru i bleidleisio yng Ngogledd Iwerddon.
Os ydych am bleidleisio’n bersonol
Gallwch bleidleisio’n bersonol yn yr orsaf bleidleisio yr oeddech yn ei defnyddio pan roeddech yn byw yn y DU. Os nad oeddech wedi’ch cofrestru i bleidleisio pan roeddech yn byw yn y DU, gallwch bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio sy’n gymwys i’r man lle roeddech yn arfer byw.
Bydd angen i chi ddangos ID ffotograffig er mwyn cadarnhau pwy ydych chi.
Os nad ydych yn siŵr pa orsaf bleidleisio y dylech fynd iddi, cysylltwch â’r swyddfa cofrestru etholiadol ar gyfer y man lle roeddech yn arfer byw.
2. Os ydych yn y lluoedd arfog, yn un o weision y Goron neu'n aelod o staff y British Council
Mae ffyrdd gwahanol o gofrestru i bleidleisio yn etholiadau’r DU os ydych yn gweithio dramor naill ai:
- yn y lluoedd arfog
- fel un o weision y Goron neu aelod o staff y British Council
Gwasanaethu dramor yn y lluoedd arfog
Cofrestrwch i bleidleisio gan ddefnyddio gwasanaeth cofrestru’r lluoedd arfog.
Os ydych yn gwasanaethu y tu allan i’r DU, gallwch gofrestru fel pleidleisiwr ‘yn y lluoedd arfog’. Mae hyn yn golygu mai dim ond unwaith bob pum mlynedd y mae’n rhaid i chi adnewyddu eich cofrestriad.
Byddwch yn cael nodyn atgoffa pan fydd yn amser i chi ei adnewyddu.
Gweision y Goron ac aelodau o staff y British Council
Defnyddiwch y gwasanaeth cofrestru ar gyfer gweision y Goron ac aelodau o staff y British Council os ydych wedi’ch lleoli y tu allan i’r DU ac yn gweithio fel:
- un o weision y Goron (er enghraifft, gwasanaeth sifil tramor neu wasanaeth diplomyddol)
- aelod o staff y British Council
3. Adnewyddu eich cofrestriad i bleidleisio o dramor
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i adnewyddu eich cofrestriad i bleidleisio o dramor fel pleidleisiwr tramor. Rhaid i chi adnewyddu eich cofrestriad bob tair blynedd er mwyn parhau i bleidleisio yn etholiadau’r DU pan fyddwch yn byw dramor.
Byddwch yn gallu adnewyddu eich cofrestriad rhwng 2 Mai a 1 Tachwedd 2026.
Byddwch yn cael nodyn atgoffa pan fydd yn amser i chi ei adnewyddu a gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.
Dysgwch fwy am bleidleisio os byddwch yn symud dramor neu os ydych yn byw dramor.
Os oes angen help arnoch
Cysylltwch â’ch swyddfa cofrestru etholiadol os:
- byddwch am gadarnhau pryd y bydd angen i chi adnewyddu
- byddwch am gadarnhau a ydych eisoes wedi cofrestru
- nad ydych chi am adnewyddu eich cofrestriad gan eich bod yn dychwelyd i fyw yn y DU yn barhaol
- ydych chi wedi newid eich enw ers y tro diwethaf i chi gofrestru neu adnewyddu eich cofrestriad