Premiymau anabledd
Printable version
1. Trosolwg
Mae premiymau anabledd yn symiau ychwanegol o arian sydd wedi’u hychwanegu at eich:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
- Budd-dal Tai
Mae unrhyw arian a gewch yn cael ei ychwanegu at eich taliadau budd-dal yn awtomatig felly, fel arfer does dim rhaid i chi wneud cais am bremiwm anabledd.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mae yna 3 math o bremiwm anabledd ar gyfer oedolion:
- premiwm anabledd
- premiwm anabledd uwch
- premiwm anabledd difrifol
Gallwch gael mwy nag un premiwm ar y tro.
2. Beth fyddwch yn ei gael
Gallwch gael premiwm anabledd ar ei ben ei hun. Efallai y byddwch yn cael premiwm anabledd difrifol neu uwch hefyd os ydych yn gymwys ar eu cyfer.
Os cewch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yn seiliedig ar incwm, ni allwch gael y premiwm anabledd, ond efallai y byddwch yn dal i fod yn gymwys ar gyfer y premiymau difrifol a uwch.
Premiwm anabledd
Byddwch yn cael:
- £43.20 yr wythnos ar gyfer person sengl
- £61.65 yr wythnos ar gyfer cwpl
Premiwm anabledd difrifol
Byddwch yn cael:
- £82.90 yr wythnos ar gyfer person sengl
- £165.80 yr wythnos ar gyfer cwpl os yw’r ddau ohonoch yn gymwys
Bydd rhai cyplau yn gymwys ar gyfer y cyfradd is o £81.50 yr wythnos yn lle.
Premiwm anabledd uwch
Byddwch yn cael:
- £21.20 yr wythnos ar gyfer person sengl
- £30.25 yr wythnos ar gyfer cwpl os yw o leiaf un ohonoch yn gymwys
Sut cewch eich talu
Mae’r holl fudd-daliadau, pensiynau a lwfansau yn cael eu talu i gyfrif fel eich cyfrif banc.
Mae yna gyfyngiad ar gyfanswm y budd-dal y gall y rhan fwyaf o bobl 16 oed i dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth ei gael. Gelwir hyn yn Cap ar fudd-daliadau.
3. Cymhwyster
Gall taliadau premiwm anabledd gael eu hychwanegu i’ch:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
- Budd-dal Tai
Fel arfer, mae’n rhaid i chi fod yn gymwys ar gyfer premiwm anabledd i fod yn gymwys ar gyfer y premiymau difrifol neu uwch.
Os cewch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yn seiliedig ar incwm, dim ond premiwm uwch neu difrifol y gallwch ei gael.
Defnyddiwch cyfrifiannell budd-daliadau i wirio eich cymhwyster.
Premiwm anabledd
Mae rhaid i chi neu’ch partner fod o dan oedran credyd pensiwn a naill ai wedi cofrestru’n ddall neu’n cael:
- Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
- Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
- Taliad Anabledd Oedolion (ADP)
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog (AFIP)
- Credyd Treth Gwaith gydag elfen anabledd
- Lwfans Gweini
- Lwfans Gweini Cyson
- Atodiad Symudedd Pensiynwyr Rhyfel
- Lwfans Anabledd Difrifol
- Budd-dal Analluogrwydd
Os nad ydych yn gymwys, efallai y byddwch yn dal i gael y premiwm os nad ydych wedi gallu gweithio am o leiaf blwyddyn.
Premiwm anabledd difrifol
Rhaid i chi gael y premiwm anabledd neu ESA yn seiliedig ar incwm, ac un o’r budd-daliadau cymwys canlynol:
- Elfen bywyd bob dydd PIP
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog (AFIP)
- Elfen gofal DLA ar y gyfradd ganolig neu uwch
- Taliad Anabledd Oedolion - elfen bywyd bob dydd ar y gyfradd safonol neu uwch
- Lwfans Gweini (neu Lwfans Gweini Cyson a dalwyd gyda Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol neu Bensiwn Rhyfel)
Fel arfer, ni allwch cael unrhyw un sy’n 18 oed neu’n hŷn yn byw gyda chi, oni bai eu bod mewn un o’r sefyllfaoedd hyn:
- maent yn cael budd-dal cymwys
- maent wedi cofrestru’n ddall
- maent yn lletywr neu’n is-denant (ond nid perthynas agos)
- maent yn gwneud taliadau ar wahân i’r landlord
Ni allwch gael premiwm anabledd difrifol os yw rhywun yn cael un o’r canlynol am ofalu amdanoch chi:
- Lwfans Gofalwr
- yr elfen gofalwr o Gredyd Cynhwysol
- Taliad Cymorth Gofalwr
Os ydych mewn cwpl
Byddwch yn cael swm uwch o bremiwm anabledd difrifol os ydych chi a’ch partner yn gymwys.
Gallwch gael y swm is os:
- mae rhywun yn cael Lwfans Gofalwr, yr elfen gofalwr o Gredyd Cynhwysol neu Daliad Cymorth Gofalwr am ofalu am un ohonoch yn unig
- dim ond un ohonoch sy’n bodloni’r meini prawf cymhwyster a’r llall wedi ei gofrestru’n ddall
Premiwm anabledd uwch
I gael hwn mae’n rhaid i chi fod o dan oedran credyd pensiwn.
Rhaid i chi gael y premiwm anabledd neu ESA yn seiliedig ar incwm, ac un o’r canlynol:
- Elfen bywyd bob dydd PIP ar y gyfradd uwch (‘wedi’i gynyddu’)
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog (AFIP)
- Elfen gofal DLA ar radd uwch
- Elfen bywyd bob dydd Taliad Anabledd Oedolion (ADP) ar y gyfradd uwch (‘wedi’i gynyddu’)
Byddwch hefyd yn cael hyn os ydych yn y grŵp cymorth ar gyfer ESA yn seiliedig ar incwm.
4. Sut i wneud cais
Nid oes yn rhaid i chi wneud cais am bremiwm anabledd. Os ydych yn gymwys, caiff ei ychwanegu’n awtomatig at eich:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith (JSA)
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)
- Budd-dal Tai
Cysylltwch â’ch Canolfan Byd Gwaith lleol os nad yw wedi cael ei dalu.
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad
Gallwch herio penderfyniad am eich cais. Gelwir hyn yn gofyn am ailystyriaeth orfodol.