Sut i brisio ystad at ddiben Treth Etifeddiant a rhoi gwybod am ei gwerth
Printable version
1. Yr hyn y mae angen i chi ei wneud
I ganfod a oes Treth Etifeddiant i’w thalu, mae angen i chi brisio arian, eiddo a meddiannau (‘ystad’) yr unigolyn a fu farw.
Rhaid i chi wneud hyn cyn gwneud cais am brofiant (os oes ei angen arnoch).
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Bydd angen i chi gwblhau 3 prif dasg pan fyddwch yn prisio’r ystad.
-
Nodi asedion a dyledion yr ymadawedig megis cynilion, buddsoddiadau, morgeisi a benthyciadau.
-
Amcangyfrif gwerth yr ystad. Bydd hyn yn effeithio ar sut yr ydych yn rhoi gwybod am y gwerth, a’r dyddiadau cau ar gyfer rhoi gwybod am, a thalu, unrhyw Dreth Etifeddiant. Nid yw’r rhan fwyaf o ystadau’n cael eu trethu.
-
Rhoi gwybod am werth yr ystad – mae sut rydych yn gwneud hyn yn dibynnu a oes angen i chi anfon manylion llawn am yr ystad ²¹â€™i gwerth.
Faint o amser y mae’n ei gymryd
Mae prisio ystad yn gallu cymryd sawl mis, ond mae’n gallu cymryd mwy o amser os yw’n ystad fawr neu gymhleth (er enghraifft, os yw’n ymwneud ag ymddiriedolaethau neu os oes treth i’w thalu).
Dyddiadau cau
Dim ond os oes ar yr ystad Dreth Etifeddiant y mae yna ddyddiadau cau.
Os oes ar yr ystad Dreth Etifeddiant, bydd angen i chi:
- ddechrau talu treth erbyn diwedd y chweched mis ar ôl i’r person farw a cyn i chi wneud cais am brofiant – gallwch wneud taliad cyn i chi orffen prisio’r ystad
- anfon ffurflenni Treth Etifeddiant cyn pen blwyddyn
Cael help
Gallwch gyflogi gweithiwr proffesiynol (er enghraifft cyfreithiwr) i helpu gyda rhai neu bob un o’r tasgau sy’n gysylltiedig â phrisio ystad.
Mae gwefan HelpwrArian yn rhoi arweiniad ynghylch . Mae gwefan Law Donut yn rhoi cyngor ynghylch .
2. Nodi asedion a dyledion
Cyn i chi allu prisio arian, eiddo a meddiannau’r ymadawedig (ei ystad), bydd angen i chi nodi’r pethau yr oedd yn berchen arnynt (ei asedion) ²¹â€™i ddyledion.
Mae asedion yn cynnwys pethau fel cyfrifon banc, cynilion a phensiynau, yn ogystal ag eiddo, nwyddau i’r tŷ ac eitemau personol.
Mae dyledion yn cynnwys pethau fel biliau cyfleustodau, morgeisi ac arian sy’n ddyledus ar gardiau credyd. Maent hefyd yn cynnwys costau angladd, megis cost trefnydd angladdau, carreg fedd neu blac a lluniaeth.
Yna, bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol:
- cael gwybod pa sefydliadau y dylid cysylltu â nhw (gallwch wneud hyn drwy chwilio drwy bapurau’r ymadawedig neu drwy ofyn i ffrindiau, teulu ac unrhyw gyfreithiwr neu gyfrifydd a oedd gan y person)
- ysgrifennu at y sefydliadau hyn i ofyn am werth yr ased neu’r ddyled pan fu’r person farw (bydd angen i chi gynnwys copi o’r dystysgrif marwolaeth (yn agor tudalen Saesneg))
Pa sefydliadau y dylid cysylltu â nhw
Mae sefydliadau sy’n dal asedion yn aml yn cynnwys:
- banc y person
- darparwr pensiwn y person – gofynnwch a ddylech gynnwys pensiwn preifat pan fyddwch yn prisio’r ystad
- cyflogwr y person – mae’n bosibl bod cyflogau’n ddyledus i’r person
- unrhyw gwmnïau yr oedd gan y person gyfranddaliadau ynddynt – dylech gynnwys nifer y cyfranddaliadau, manylion y cwmni a rhif tystysgrif y cyfranddaliadau (os oes gennych hwn)
- Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I) ar gyfer Bondiau Premiwm – defnyddiwch y os na allwch ddod o hyd i dystysgrifau
- sefydliadau eraill sy’n dal asedion fel cyfrifon ISA, cyfranddaliadau, buddsoddiadau neu asedion mewn ymddiriedolaeth (yn agor tudalen Saesneg)
- y landlord, os oedd gan y person un – efallai ei fod wedi talu rhent ymlaen llaw
Yn eich llythyr i’r banc, dylech hefyd holi ynghylch:
- unrhyw archebion sefydlog a debydau uniongyrchol sydd i’w stopio (neu sydd i’w trosglwyddo os oeddent mewn enw ar y cyd)
- rhestr o unrhyw dystysgrifau cyfranddaliadau neu weithredoedd yr oedd y banc yn eu dal ar ran y person a fu farw
Os oedd gan y person forgais
Gofynnwch i’r benthyciwr morgeisi a fydd angen i daliadau barhau tra’r ydych yn gwneud cais am brofiant. Os felly, bydd yn rhaid i chi wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:
- talu’r biliau hyn eich hunan – a’u hawlio’n ôl o’r ystad unwaith y bydd gennych brofiant
- gwirio a oedd gan y person aswiriant bywyd neu bolisi diogelu morgais sy’n cwmpasu’r taliadau hyn
3. Amcangyfrif gwerth yr ystad
Bydd angen amcangyfrif arnoch o werth yr ystâd (arian, eiddo a meddiannau’r ymadawedig) er mwyn canfod a oes Treth Etifeddiant i’w thalu.
Fel arfer, does dim Treth Etifeddiant i’w thalu os yw’r naill neu’r llall yn berthnasol:
- mae gwerth yr ystâd o dan y trothwy, sef £325,000
- rydych yn gadael popeth sydd uwchben y trothwy o £325,000 i’ch priod, partner sifil, elusen, neu glwb chwaraeon amatur cymunedol
Os mai gweddw oedd y person a fu farw, neu os yw’n rhoi ei gartref i ffwrdd i’w blant, gall y trothwy treth fod yn uwch.
Cyfrifo’ch amcangyfrif
Bydd angen i chi amcangyfrif cyfanswm gwerth yr ystâd. Mae hyn yn cynnwys:
- gwerth y pethau yr oedd y person yn berchen arnynt (ei asedion) ar y diwrnod y bu farw
- unrhyw roddion a wnaeth, megis arian parod neu eitemau gwerthfawr, yn ystod y 7 mlynedd cyn marw
- gwerth unrhyw ymddiriedolaethau yr oedd gan y person fuddiant llesiannol ynddynt
Bydd eich amcangyfrif yn eich helpu i wirio a yw gwerth yr ystâd yn fwy na’r trothwy. Os yw’n fwy na’r trothwy, bydd angen i chi ddarparu prisiadau ar gyfer yr asedion i weld faint o Dreth Etifeddiaeth sy’n ddyledus.
Gallwch gyfrifo’r amcangyfrif eich hun, neu gallwch ddefnyddio’r gwiriwr Treth Etifeddiant.
Gwirio a oes angen i chi dalu Treth Etifeddiant
Bydd yr offeryn hwn yn gwneud y canlynol:
-
rhoi amcangyfrif i chi o werth yr ystad
-
eich helpu i benderfynu a oes unrhyw Dreth Etifeddiant yn debygol o fod yn ddyledus ai peidio
Ni fydd yr offeryn hwn yn gwneud y canlynol:
-
cyfrifo swm y Dreth Etifeddiant sy’n ddyledus
-
rhoi gwybod i CThEF am werth terfynol yr ystad
Gallwch gadw ac argraffu eich canlyniadau unwaith i chi ateb yr holl gwestiynau.
Cyn i chi ddechrau, bydd angen yr wybodaeth ganlynol arnoch:
- manylion asedion y person, gan gynnwys asedion ar y cyd
- manylion unrhyw roddion a wnaeth
Prisio’r asedion
Dechreuwch drwy restru asedion y person – y pethau yr oedd yn berchen arnynt yr oedd gwerth ariannol iddynt. Yna, cyfrifwch neu amcangyfrifwch werth pob un ar y dyddiad y bu farw’r person.
Gallai’r rhain gynnwys:
-
ei gartref
-
unrhyw eiddo arall, adeiladau eraill neu dir arall
-
arian mewn banciau, cymdeithasau adeiladu neu gyfrifon ISA, neu arian parod yn ei gartref
-
stociau a chyfranddaliadau
-
eitemau i’r tŷ ac eitemau personol, gan gynnwys hynafolion, nwyddau trydanol, dodrefn, gemwaith, paentiadau a chasgliadau o stampiau
-
ceir, carafannau neu gychod
-
asedion tramor, megis eiddo tramor
-
arian sy’n ddyledus iddo – er enghraifft, cyflogau neu ad-daliadau o filiau’r cartref
-
taliadau pan fu farw’r person – er enghraifft, yswiriant bywyd neu gyfandaliad ‘buddiant marwolaeth’ o bensiwn
Dylech gynnwys pob ased yn eich amcangyfrif. Mae hyn yn cynnwys unrhyw asedion oedd wedi’u gadael i briod neu bartner sifil y person, neu i elusen – ni fyddwch yn talu treth ar yr asedion hyn.
Am bethau fel cyfrifon banc, cyfrifon ISA a phensiynau, dylech gysylltu â’r sefydliad perthnasol er mwyn cael ffigur manwl gywir.
Ar gyfer eitemau fel ceir, gemwaith a phaentiadau, cyfrifwch faint y byddech wedi’i gael pe byddech wedi’u gwerthu. Gallwch chwilio am eitemau tebyg ar farchnadoedd ar-lein i wneud hyn.
Prisio asedion ar y cyd
Mae angen i chi ganfod pa asedion yr oedd y person yn berchen arnynt ar y cyd â rhywun arall, a sut y perchenogwyd yr asedion hynny.
Mae’r rheolau ar gyfer prisio asedion ar y cyd, megis eiddo, gemwaith neu baentiadau, yn amrywio yn dibynnu a oedd y bobl dan sylw yn berchen arnynt fel:
- ‘cyd-denantiaid’ (‘cydberchnogion’ yn yr Alban)
- ‘tenantiaid cydradd’ (‘perchnogion cydradd’ yn yr Alban)
Cyd-denantiaid
Mae cyd-denantiaid yn trosglwyddo unrhyw asedion, megis tir neu eiddo, yn awtomatig i’r perchnogion eraill os bydd un ohonynt yn marw.
Os perchenogwyd yr ased, megis tir neu eiddo, fel cyd-denant gyda phriod neu bartner sifil y person, rhannwch werth yr ased â 2.
Os perchenogwyd y tir neu’r eiddo gyda chyd-denantiaid eraill, er enghraifft ffrindiau, brodyr neu chwiorydd, gwnewch y naill a’r llall o’r canlynol:
- rhannu’r gwerth â nifer y perchnogion
- didynnu 10% oddi wrth gyfran y person a fu farw
Enghraifft
Roedd yr ymadawedig yn berchen ar eiddo fel cyd-denant gyda 3 o bobl eraill. Gwerth yr eiddo yw £200,000 ar y dyddiad y bu farw, sy’n rhoi cyfran o £50,000 iddo (£200,000 wedi’u rhannu â 4).
Ar ôl didynnu 10% (£5,000) oddi wrth gyfran £50,000 yr ymadawedig, y gwerth terfynol yw £45,000 (£50,000 - £5,000 = £45,000).
Yn yr Alban, os perchenogwyd tir neu eiddo ar y cyd â phobl eraill (ac eithrio priod neu bartner sifil), didynnwch £4,000 oddi wrth werth yr ased cyfan cyn cyfrifo cyfran yr ymadawedig.
Enghraifft
Roedd yr ymadawedig yn berchen ar eiddo yn yr Alban fel cydberchennog gyda 3 o bobl eraill. Gwerth yr eiddo yw £200,000 ar y dyddiad y bu farw.
Ar ôl i £4,000 gael eu didynnu oddi wrth gyfanswm gwerth yr eiddo, mae £196,000 yn weddill (£200,000 - £4,000).
Ar ôl rhannu hyn â nifer y perchnogion, cyfran yr ymadawedig o’r eiddo yw £49,000 (£196,000 wedi’u rhannu â 4).
Er mwyn prisio cyfrif banc ar y cyd, rhannwch y swm â nifer y deiliaid cyfrif, oni bai bod y cyfrif yn un ar y cyd er cyfleustra yn unig. Er enghraifft, efallai y bydd person hŷn yn ychwanegu ei blentyn er mwyn ei helpu gyda’r cyfrif. Os felly, defnyddiwch y swm yr oedd yr ymadawedig yn berchen arno mewn gwirionedd yn lle hynny.
Tenantiaid cydradd
Mae’r rheolau’n wahanol ar gyfer tenantiaid cydradd, gan nad yw tenantiaid cydradd yn trosglwyddo unrhyw asedion y maent yn berchen arnynt ar y cyd yn awtomatig.
Os oedd yr ymadawedig yn berchen ar eiddo neu dir ar y cyd fel tenant cydradd, cyfrifwch y gwerth yn seiliedig ar ei gyfran.
Cyfrifo gwerth unrhyw roddion
Mae angen i chi gyfrifo gwerth unrhyw roddion a wnaed gan y person a fu farw.
Dim ond os gwnaed y rhoddion yn ystod y 7 mlynedd cyn i’r person farw a dim ond os oedd cyfanswm gwerth y rhoddion dros yr esemptiad blynyddol o £3,000 y mae rhoddion yn cyfrif tuag at werth ystad.
Os bydd person yn byw am 7 mlynedd ar ôl gwneud rhodd, ni fydd Treth Etifeddiant i’w thalu.
Mae unrhyw rodd yr oedd person yn parhau i gael budd ohoni cyn iddo farw hefyd yn cyfrif tuag at werth ystad – er enghraifft, os gwnaeth y person roi tŷ i ffwrdd ond roedd yn byw ynddo’n ddi-rent (yr enw ar hyn yw ‘rhodd â budd amodol’).
Does dim Treth Etifeddiant i’w thalu ar roddion i elusennau neu bleidiau gwleidyddol.
Yr hyn sy’n cyfrif fel rhodd
Gall rhodd gynnwys:
- arian
- nwyddau’r tŷ a nwyddau personol, er enghraifft dodrefn, gemwaith neu hynafolion
- tÅ·, tir neu adeiladau
- stociau a chyfranddaliadau sydd wedi’u rhestru ar Gyfnewidfa Stoc Llundain
- cyfranddaliadau heb eu rhestru, a ddaliwyd am lai na 2 flynedd cyn i’r person farw
Gwirio am roddion
Gallwch wirio am roddion drwy wneud y canlynol:
- darllen drwy gyfriflenni banc
- siarad ag aelodau o’r teulu
- edrych drwy ddogfennau ariannol
Cofnodwch werth unrhyw rodd a’r dyddiad rhoddi.
Amcangyfrif gwerth y rhodd
Er mwyn amcangyfrif gwerth pob rhodd, defnyddiwch y naill neu’r llall o’r canlynol:
- amcangyfrif o werth y rhodd ar yr adeg y cafodd ei rhoi (pris gwerthu realistig)
- pris realistig ar gyfer gwerthu’r rhodd, os oedd yr ymadawedig yn parhau i gael budd o’r rhodd ar ôl ei rhoi i ffwrdd (sef ‘rhodd â budd amodol’)
Dyledion
Peidiwch â chynnwys dyledion yr ystad wrth amcangyfrif y gwerth gros. Fodd bynnag, bydd angen i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) am unrhyw ddyledion wrth roi gwybod am werth yr ystad.
Gwiriwch am gofnodion o ddyledion pan fu farw’r person, er enghraifft:
- ei forgais, benthyciadau, cardiau credyd neu orddrafftiau
- ‘rhwymedigaethau’ megis biliau’r cartref neu filiau am nwyddau neu wasanaethau yr oedd y person wedi’u cael ond heb dalu amdanynt eto (megis gwaith adeiladu, peintwyr a phapurwyr, cyfrifwyr)
Yr hyn i’w wneud nesaf
Gwiriwch a oes angen i chi anfon manylion llawn am werth yr ystad.
4. Gwirio a oes angen i chi anfon manylion llawn am yr ystad
Cyn i chi roi gwybod am werth yr ystad (arian, eiddo a meddiannau’r ymadawedig), gwiriwch a oes angen i chi anfon manylion llawn am yr ystad, fel eich bod yn llenwi’r ffurflenni cywir.
Mae’r wybodaeth y mae angen i chi ei darparu, a sut y gwnewch hyn, yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys a yw Treth Etifeddiant yn ddyledus ai peidio.
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb ariannol os byddwch yn rhoi gwybodaeth anghywir.
Os yw Treth Etifeddiant yn ddyledus
Bydd angen i chi roi manylion llawn am yr ystad os yw Treth Etifeddiant yn ddyledus.
Gallwch ddefnyddio’r gwiriwr ar-lein i gael gwybod a yw Treth Etifeddiant yn ddyledus.
Dysgwch beth mae angen i chi ei wneud os yw Treth Etifeddiant yn ddyledus.
Pryd i anfon manylion llawn am werth yr ystad, hyd yn oed os nad oes unrhyw dreth yn ddyledus
Bydd angen i chi anfon manylion llawn am yr ystad, hyd yn oed os nad oes unrhyw dreth yn ddyledus, os yw un o’r canlynol yn wir am yr unigolyn a fu farw:
- rhoddodd dros £250,000 i ffwrdd yn ystod y 7 mlynedd cyn iddynt farw
- gwnaeth roddion ac yna parhau i gael budd ohonynt yn ystod y 7 mlynedd cyn iddynt farw
- gadawodd ystad werth mwy na £3 miliwn
- ‘ystyriwyd ei fod yn breswylydd domisil’ yn y DU (yn Saesneg)
- roedd ganddynt asedion tramor a oedd werth mwy na £100,000
- roedd yn byw’n barhaol y tu allan i’r DU pan fu farw, ond roedd wedi byw yn y DU yn flaenorol
- roedd ganddynt bolisi yswiriant bywyd a dalodd arian i rywun heblaw ei briod neu ei bartner sifil, ac roedd ganddo flwydd-dal hefyd
- roedd wedi cynyddu gwerth cyfandaliad o bensiwn personol i’w dalu ar ôl ei farwolaeth, tra oedd salwch angheuol arnynt neu fod ei iechyd yn wael
- roedd wedi cytuno y byddai eiddo a roddwyd i ffwrdd ganddynt yn ystod ei fywyd yn ffurfio rhan o’i ystad, yn hytrach na thalu ffi am asedion yr oedd yn berchen arnynt yn flaenorol (yn Saesneg)
Mae rheolau gwahanol os bu farw’r un igolyn ar neu cyn 31 Rhagfyr 2021 (yn Saesneg).
Os yw’r ystad yn cynnwys ymddiriedolaethau
Bydd angen i chi gwblhau cyfrif llawn os yw un o’r canlynol yn wir am yr ymadawedig:
- gwnaeth roddion a dalwyd i mewn i ymddiriedolaethau
- roedd yn dal asedion a oedd yn werth mwy na £250,000 mewn ymddiriedolaeth
- roedd yn dal mwy nag un ymddiriedolaeth
Bydd angen i chi hefyd gwblhau cyfrif llawn os cafodd asedion a ddelir mewn ymddiriedolaeth eu pasio i briod neu bartner sifil sy’n fyw neu i elusen, ac os mai gwerth yr ymddiriedolaeth oedd:
- £1 filiwn neu fwy
- £250,000 neu fwy, ar ôl didynnu’r swm sy’n cael ei basio i’r priod neu’r partner sifil sy’n fyw neu i elusen
Pryd nad oes angen manylion llawn – ‘ystadau eithriedig’
Nid oes angen i chi roi manylion llawn am werth ystad os yw pob un o’r canlynol yn wir:
- mae’r ystad yn cyfrif fel ‘ystad eithriedig’
- nid oes Treth Etifeddiant i’w thalu
- rydych wedi gwirio nad yw’r un o’r rhesymau o dan ‘Pryd i anfon manylion llawn am werth yr ystad, hyd yn oed os nad oes unrhyw dreth yn ddyledus’ yn berthnasol
Mae’r rhan fwyaf o ystadau’n rhai eithriedig.
Beth sy’n cyfrif fel ystad eithriedig
Mae ystad fel arfer yn ystad eithriedig os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:
- mae gwerth yr ystad o dan y trothwy Treth Etifeddiant cyfredol
- gwerth yr ystad yw £650,000 neu lai, ac mae unrhyw drothwy sydd heb ei ddefnyddio (yn Saesneg) yn cael ei drosglwyddo oddi wrth briod neu bartner sifil a fu farw gyntaf
- gadawodd yr ymadawedig bopeth i briod neu bartner sifil sy’n byw yn y DU neu i elusen gymwys, ac mae’r ystad yn werth llai na £3 miliwn (chwiliwch yn y gofrestr elusennau (yn Saesneg) am elusennau sydd wedi’u cofrestru yn y DU)
- roedd yr ymadawedig yn byw’n barhaol y tu allan i’r DU (‘person sy’n preswylio dramor’) pan fu farw, ac mae gwerth ei asedion yn y DU o dan £150,000
Mae rheolau gwahanol ar gyfer ystadau eithriedig os bu farw’r unigolyn ar neu cyn 31 Rhagfyr 2021 (yn Saesneg).
Yr hyn y mae angen i chi ei wneud nesaf
Mae’r broses y mae angen i chi ei dilyn yn dibynnu a ydych yn delio ag:
- ystad lle mae angen cyfrif llawn
- ystad eithriedig
Delio ag ystad eithriedig
Gallwch roi gwybod am werth ystad eithriedig os ydych yn gwneud cais am brofiant. Gwiriwch a oes angen profiant arnoch, a gwnewch gais amdano, os felly.
Does dim angen i chi roi gwybod am werth ystad eithriedig os nad oes angen profiant arnoch.
Mae ffordd wahanol o roi gwybod am ystad eithriedig os bu farw’r unigolyn ar neu cyn 31 Rhagfyr 2021 (yn Saesneg).
Gwneud cais am brofiant yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon
Mae ffordd wahanol o wneud cais am brofiant os oedd yr ymadawedig yn ²Ô±ð³Ü‵µ .
Os oes angen help arnoch gyda phrofiant neu werth ystad
Cysylltwch â Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF os nad ydych yn sicr a fydd angen profiant arnoch neu os bydd gwerth yr ystad yn newid.
Canolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd
Rhif ffôn: 0300 303 0654
Dydd Llun i ddydd Iau, 09:00 - 17:00, dydd Gwener, 09:00 — 16:30
Ar gau ar wyliau’r banc
Gwybodaeth am gost galwadau
E-bost: ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk
Os oes angen help arnoch gyda Threth Etifeddiant
Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg HMRC os oes gennych gwestiynau ynghylch Treth Etifeddiant.
5. Os oes Treth Etifeddiant yn ddyledus neu os oes angen manylion llawn
Mae’n rhaid i chi roi gwybod am werth yr ystad i Gyllid a Thollau EF (CThEF) drwy lenwi ffurflen IHT400.
Mae’n rhaid i chi gyflwyno’r ffurflen cyn pen 12 mis i farwolaeth y person.
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb os byddwch yn methu’r dyddiad cau.
Cael prisiadau cywir
Bydd angen i chi roi prisiadau cywir wrth i chi lenwi’r ffurflen.
Gallwch gael prisiad o unrhyw eiddo neu dir gan asiant tai neu syrfëwr siartredig.
Gallwch hefyd gael prisiad proffesiynol ar gyfer unrhyw beth sy’n werth dros £1,500.
Gallwch amcangyfrif gwerth asedion rhatach, fel eitemau electronig a nwyddau arferol y tÅ·.
Ar gyfer eitemau fel ceir, gemwaith a phaentiadau, cyfrifwch faint y byddech wedi’i gael pe byddech wedi’u gwerthu. Gallwch chwilio am eitemau tebyg ar farchnadoedd ar-lein i wneud hyn.
Rhoi gwybod am werth yr ystad drwy lenwi ffurflen IHT400
Mae angen i chi lawrlwytho a llenwi ffurflen IHT400 (yn agor tudalen Saesneg). Anfonwch hi i’r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen.
Gallwch ddarllen arweiniad ar sut i lenwi ffurflen IHT400 (yn agor tudalen Saesneg).
Gallwch ofyn i CThEF gyfrifo faint o Dreth Etifeddiant sy’n ddyledus, os ydych yn llenwi’r ffurflen heb help gan weithiwr profiant proffesiynol, megis cyfreithiwr. Gallwch wneud hyn wrth lenwi’r ffurflen.
Os oes angen help arnoch i lenwi’r ffurflen
Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i gael help gyda llenwi’r ffurflen IHT400.
Sut i ddiwygio ffurflen ar ôl ei chyflwyno
Bydd angen i chi lenwi ffurflen cyfrif cywirol (yn agor tudalen Saesneg) ²¹â€™i hanfon at CThEF os oes angen i chi wneud unrhyw newidiadau i wybodaeth rydych eisoes wedi’i chyflwyno.
Talu Treth Etifeddiant
Mae’n rhaid i chi dalu Treth Etifeddiant erbyn diwedd y chweched mis ar ôl i’r person farw. Er enghraifft, os bu farw’r person ym mis Ionawr, bydd yn rhaid i chi dalu Treth Etifeddiant erbyn 31 Gorffennaf.
Gallwch dalu fesul rhandaliad blynyddol ar gyfer rhai pethau a allai gymryd amser i’w gwerthu, megis tŷ.
Bydd angen i chi gael cyfeirnod Treth Etifeddiant oddi wrth Gyllid a Thollau EF (CThEF) o leiaf 3 wythnos cyn talu unrhyw dreth.
Pryd y gallwch wneud cais am brofiant
Ar ôl i chi anfon eich ffurflen IHT400 gyflawn i CThEF, bydd angen i chi aros i CThEF anfon llythyr gyda chod cyn i chi wneud cais am brofiant.
6. Cofnodion
Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion penodol ar ôl prisio ystad.
Gall Cyllid a Thollau EF (HMRC) ofyn am gael gweld eich cofnodion hyd at 20 mlynedd ar ôl i’r Dreth Etifeddiant gael ei thalu.
Mae’n rhaid i chi gadw copïau o unrhyw:
- ewyllys
- copïau o ffurflenni a dogfennau atodol ynghylch Treth Etifeddiant sydd wedi’u llofnodi
- cofnodion sy’n dangos sut y gwnaethoch gyfrifo gwerth asedion yr ystad, er enghraifft prisiad asiant tai
- dogfennau sy’n dangos unrhyw drothwy Treth Etifeddiant sydd heb ei ddefnyddio a all gael ei drosglwyddo i briod neu bartner sifil sy’n fyw
- cyfrifon terfynol
Cyfrifon terfynol
Dylech gynnwys unrhyw ddogfennau sy’n dangos sut y gwnaethoch ddosbarthu arian, eiddo neu feddiannau personol o’r ystad, er enghraifft:
- llythyrau gan HMRC sy’n cadarnhau eich bod wedi talu Treth Etifeddiant
- derbynebau sy’n dangos dyledion wedi’u talu, er enghraifft biliau cyfleustodau
- derbynebau ar gyfer eich treuliau yn sgil delio â’r ystad
- cadarnhad ar bapur fod y ‘buddiolwyr’ (unrhyw un sydd wedi etifeddu) wedi cael eu cyfran o’r ystad
Anfonwch gopïau o’r cyfrifon terfynol at bob buddiolwr.