Osgoi a rhoi gwybod am sgamiau ar y rhyngrwyd a gwe-rwydo
Printable version
1. Rhoi gwybod am sgamiau ar y rhyngrwyd a gwe-rwydo
Rhowch wybod am wefannau, e-byst, rhifau ffôn, galwadau ffôn neu negeseuon testun camarweiniol y credwch efallai eu bod yn amheus.
Peidiwch â rhoi gwybodaeth breifat (megis manylion banc neu gyfrineiriau), ateb negeseuon testun, lawrlwytho atodiadau na chlicio ar unrhyw gysylltiadau mewn e-byst os nad ydych yn siŵr eu bod yn rhai dilys.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
E-byst
Anfonwch e-byst amheus ymlaen i report@phishing.gov.uk.
Bydd y yn ymchwilio iddynt.
Negeseuon testun
Anfonwch negeseuon testun amheus ymlaen i 7726 - mae’n rhad ac am ddim.
Bydd hyn yn rhoi gwybod i ddarparwr eich ffôn symudol am y neges.
Hysbysebion
. Gallwch roi gwybod am hysbysebion a ganfuwyd ar-lein, gan gynnwys y rheini a ganfuwyd mewn peiriannau chwilio, ar wefannau neu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Gallwch hefyd wneud y canlynol:
- os gwnaethoch ganfod y rhain yng nghanlyniadau chwilio ar GoogleÂ
- os gwnaethoch ganfod y rhain yng nghanlyniadau chwilio ar BingÂ
Os ydych yn credu eich bod wedi dioddef twyll neu sgam ar-lein
Cysylltwch ag Action Fraud os ydych yn credu eich bod wedi colli arian neu wedi eich hacio o ganlyniad i dwyll neu sgam ar-lein, a’ch bod yng Nghymru neu Loegr. Gallwch wneud y canlynol:
- - gallwch naill ai gofrestru ar gyfer cyfrif neu fynd yn eich blaen fel ‘gwestai’
- ffonio 0300 123 2040 - gallwch roi gwybod am ba iaith yr hoffech ei defnyddio yn ystod yr alwad
Os ydych yn yr Alban a’ch bod wedi colli arian o ganlyniad i dwyll neu sgam ar-lein, .
Osgoi gwefannau, e-byst a rhifau ffôn sy’n dynwared gwasanaethau’r llywodraeth
Mae rhai gwefannau, e-byst neu rifau ffôn yn edrych fel pe baent yn rhan o wasanaeth swyddogol gan y llywodraeth pan nad ydynt felly, neu maent yn honni eu bod yn gallu helpu’n fwy nag y gallant mewn gwirionedd. Mae rhai yn gwneud i chi dalu am bethau a fyddai am ddim neu’n rhatach pe byddech wedi defnyddio gwasanaeth swyddogol y llywodraeth.
Chwiliwch ar ÒÁÈËÖ±²¥ (yn agor tudalen Saesneg) i ddod o hyd i rifau ffôn a gwasanaethau swyddogol y llywodraeth, er enghraifft os ydych yn dymuno gwneud cais i’r DVLA am drwydded yrru.
2. Rhoi gwybod am sgamiau e-byst, negeseuon testun, galwadau ffôn a llythyrau yn enw CThEF
Gallwch roi gwybod am e-byst, negeseuon testun, galwadau ffôn a llythyrau amheus i Gyllid a Thollau EF (CThEF). Mae sut yr ydych yn gwneud hyn yn dibynnu ar beth rydych wedi’i gael.
Dilynwch y camau isod os cawsoch y canlynol:
- neges destun, anfonwch hon ymlaen i 60599 - caiff tâl ei godi arnoch ar gyfradd eich rhwydwaith
- e-bost, anfonwch hwn ymlaen i phishing@hmrc.gov.uk
- neges mewn rhaglen, er enghraifft WhatsApp, tynnwch sgrinlun a’i anfon drwy e-bost i phishing@hmrc.gov.uk
- galwad ffôn yn gofyn am wybodaeth bersonol neu’n bygwth dwyn achos cyfreithlon yn eich erbyn,
- llythyr, cysylltwch â’r tîm yn CThEF y mae’r llythyr yn nodi ei fod oddi wrtho (yn agor tudalen Saesneg), er enghraifft y tîm Hunanasesiad
Bydd eich cyfeiriad e-bost a’ch rhif ffôn yn cael eu rhannu â sefydliadau eraill os yw hynny’n angenrheidiol er mwyn rhoi terfyn ar y sgam.
Os ydych wedi rhoi eich manylion personol i rywun
Cysylltwch â thîm diogelwch CThEF os ydych yn credu eich bod wedi rhoi unrhyw wybodaeth bersonol wrth ateb e-bost neu neges destun amheus.
Rhowch fanylion cryno o’r hyn rydych wedi’i ddatgelu (er enghraifft enw, cyfeiriad, Dynodydd Defnyddiwr CThEF, cyfrinair) ond peidiwch â rhoi eich manylion personol yn yr e-bost.
Tîm diogelwch CThEF
security.custcon@hmrc.gov.ukÌýÌý
Adnabod sgamiau yn enw CThEF
Ni chewch byth e-bost, neges destun, neges mewn rhaglen (er enghraifft WhatsApp) na galwad ffôn gan CThEF sy’n gwneud y canlynol:
- rhoi gwybod i chi am ad-daliad treth neu gosb
- gofyn am eich gwybodaeth bersonol neu’ch gwybodaeth am daliadau
Gwiriwch arweiniad CThEF ar adnabod sgamiau os nad ydych yn siŵr.
3. Rhoi gwybod am sgamiau fisa a mewnfudo
Ni ofynnir i chi, ar unrhyw adeg, i dalu am fisa gan ddefnyddio’r dulliau canlynol:
- arian parodÌýÌýÂ
- trosglwyddiad arianÌýÌýÌýÌý
i roi gwybod am sgamiau fisa a mewnfudo. Dylech gynnwys:
- copi o’r e-bost amheus a gawsoch, cyfeiriad e-bost yr anfonwr a’r dyddiad a’r amser yr anfonwyd yr e-bostÌýÌýÌýÌý
- manylion o’r hyn a anfonoch mewn ateb, os gwnaethoch ateb - er enghraifft a wnaethoch anfon eich manylion banc, cyfeiriad neu gyfrinair
Gallwch hefyd roi gwybod i’r heddlu am e-byst, llythyrau neu alwadau ffôn amheus drwy Action Fraud.