Stopio bod yn gyflogwr

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) ar unwaith os yw eich busnes yn stopio cyflogi pobl.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Cau eich cynllun TWE

Mae angen i chi gyflwyno cyflwyniad cyflogres terfynol – naill ai Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) (yn agor tudalen Saesneg) neu Grynodeb o Daliadau’r Cyflogwr (EPS) (yn agor tudalen Saesneg). Dylech wneud y canlynol:

  • didynnu a thalu unrhyw dreth ac Yswiriant Gwladol sy’n weddill i CThEF o fewn 17 diwrnod (neu 14 diwrnod os ydych yn talu gan ddefnyddio siec)
  • dewis y blwch ‘Cyflwyniad terfynol oherwydd bod y cynllun wedi dod i ben’
  • nodi’r dyddiad y gwnaethoch gau y cynllun TWE yn y blwch ‘Dyddiad y daeth y cynllun i ben’ – ni allwch nodi dyddiad sydd yn y dyfodol

Hefyd, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

Os ydych yn dechrau cyflogi unrhyw un yn yr un flwyddyn dreth, neu’r flwyddyn dreth nesaf, dylech ail agor eich cynllun TWE drwy anfon FPS gyda’ch cyfeirnod TWE.

Os oes gennych gynlluniau Gwarantau ar Sail Cyflogaeth (ERS)

Os ydych yn cau eich cynllun TWE, mae’n rhaid i chi hefyd roi gwybod i CThEF eich bod yn cau unrhyw gynlluniau ERS (yn agor tudalen Saesneg).

Os ydych yn rhoi stop dros dro ar gyflogi staff

Bydd eich cynllun TWE yn parhau i redeg os ydych yn stopio cyflogi staff am lai na blwyddyn dreth gyfan (er enghraifft, os ydych yn rhedeg busnes tymhorol). Nid oes angen i chi roi P45 i’ch cyflogeion os ydych yn eu cadw ar y gyflogres.

Os na fyddwch yn talu staff am 3 mis neu fwy, rhowch ‘Iawn’ yn y dangosydd ‘Patrwm Talu Afreolaidd’ ar yr FPS olaf cyn i chi stopio ei dalu.

Dylech gyflwyno EPS er mwyn rhoi gwybod i CThEF am unrhyw fisoedd pan nad ydych yn talu staff. Ar gyfer blychau yn y mis treth diwethaf, a’r mis treth cyfredol, nodwch y dyddiadau yn y meysydd ‘Dim taliadau’n ddyledus’. Ar gyfer blychau yn ystod y 12 mis nesaf, nodwch y dyddiadau perthnasol yn y meysydd ‘Cyfnod o anweithgarwch’.

Cyfuniadau a dilyniannau

Mae’r rheolau yn wahanol os ydych yn stopio cyflogi staff oherwydd bod eich busnes yn uno neu’n newid perchnogaeth (yn agor tudalen Saesneg).