Dirymu priodas

Printable version

1. Pryd allwch chi ddirymu priodas

Mae dirymiad (a elwir weithiau’n ‘dirymu’) yn ffordd wahanol o ddod â phriodas i ben.

Yn wahanol i ysgariad, gallwch wneud cais am ddirymiad ym mlwyddyn gyntaf eich priodas neu unrhyw bryd ar ôl hynny. Fodd bynnag, os byddwch yn gwneud cais flynyddoedd ar ôl y briodas, efallai y gofynnir i chi esbonio’r rheswm dros yr oedi.

Bydd angen i chi ddangos:

  • nad yw’r briodas erioed wedi bod yn gyfreithiol ddilys (‘ddi-rym’)
  • bod y briodas yn gyfreithiol ddilys, ond ei bod yn bodloni un o’r rhesymau sy’n ei gwneud yn ‘ddi-rym’

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Nid yw eich priodas yn gyfreithiol ddilys - priodasau ‘di-rym’

Gallwch ddirymu priodas os nad oedd yn gyfreithiol ddilys yn y lle cyntaf, er enghraifft:

  • rydych chi’n perthyn yn agos i’r sawl rydych chi’n briod ag ef/â hi
  • os oedd un neu’r ddau ohonoch o dan 18 oed (neu o dan 16 oed os digwyddodd y briodas cyn 27 Chwefror 2023)
  • roedd un ohonoch eisoes wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil

Os nad oedd y briodas erioed yn gyfreithiol ddilys, mae’r gyfraith yn dweud nad oedd erioed wedi bodoli.

Fodd bynnag, efallai y bydd angen gwaith papur cyfreithiol arnoch (‘dyfarniad dirymu’ neu ‘gorchymyn dirymu priodas’) i brofi hyn - er enghraifft os ydych chi am briodi eto.

Mae modd dirymu eich priodas

Gallwch ddirymu priodas am nifer o resymau, megis:

  • ni chafodd ei chyflawni - nid ydych wedi cael cyfathrach rywiol â’r sawl y gwnaethoch briodi ers y briodas (nid yw’n berthnasol ar gyfer cyplau o’r un rhyw)
  • ni wnaethoch gydsynio’n iawn i’r briodas - er enghraifft, cawsoch eich gorfodi
  • roedd gan yr unigolyn arall glefyd a drosglwyddir yn rhywiol (STD) pan wnaethoch briodi
  • roedd eich priod yn feichiog gan rywun arall pan wnaethoch briodi
  • mae un ohonoch wrthi’n trosglwyddo i rywedd wahanol

Fel gydag ysgariad, mae eich priodas yn bodoli’n gyfreithiol nes i chi ei dirymu gan ddefnyddio un o’r rhesymau hyn.

Mae’r rheolau ar ddod â phartneriaeth sifil i ben ychydig yn wahanol, ond mae ffurflenni’r llys yr un fath.

2. Cyn i chi wneud cais

Gallwch chi a’ch gŵr/gwraig ddewis sut i benderfynu ar:

Gallwch hefyd rannu eich arian a’ch eiddo.

Fel arfer, gallwch osgoi mynd i wrandawiadau llys os ydych yn cytuno ar drefniadau plant, arian ac eiddo.

Cael help neu gyngor

Gallwch gael cyngor am waith papur cyfreithiol ac o ran gwneud trefniadau gan:

Dod o hyd i gynghorydd cyfreithiol os oes arnoch angen cyngor cyfreithiol.

3. Gwneud cais am ddirymiad

Gallwch wneud cais i ddirymu eich priodas cyn gynted ag y byddwch yn priodi. Yn wahanol i ysgariad, nid oes rhaid i chi aros am flwyddyn.

I ddirymu priodas, llenwch ffurflen gais dirymu.

Anfonwch ddau gopi o’r ffurflen i:

Bury St Edmunds Regional Divorce Unit
Triton House
St Andrew’s Street North
Bury St Edmunds
IP33 1TR

Cadwch gopi eich hun hefyd.

Mae ffeilio ffurflen gais dirymiad yn costio £612.

Efallai y gallwch gael help i dalu ffioedd llys os ydych yn cael budd-daliadau neu os ydych ar incwm isel.

Ar ôl i chi wneud cais, bydd y llys yn anfon hysbysiad atoch bod eich cais wedi’i gychwyn.

4. Gwneud cais am orchymyn amodol neu ddyfarniad nisi

Rhaid i’r unigolyn arall ymateb i’ch cais am ddirymiad o fewn 14 diwrnod, gan ddweud a yw’n cytuno y dylid dirymu’r briodas.

Unwaith y byddant yn ymateb, gallwch wneud cais am orchymyn amodol (neu ‘ddyfarniad nisi’ os yw’r dyddiad ar eich hysbysiad llys cyn 6 Ebrill 2022). Bydd hyn yn cadarnhau nad yw’r llys yn gweld unrhyw reswm pam na ellir dirymu’r briodas.

Sut i wneud cais

Mae sut rydych yn gwneud cais yn dibynnu ar pryd wnaeth y llys gychwyn eich cais am ddirymiad.

Os wnaeth y llys gychwyn eich cais am ddirymiad cyn 6 Ebrill 2022

I gael dyfarniad nisi, llenwch y cais am ddyfarniad nisi.

Rhaid i chi hefyd lenwi datganiad yn cadarnhau bod yr hyn a wnaethoch ei ddweud yn eich cais am ddirymiad yn wir.

Defnyddiwch un o’r ffurflenni isod, yn dibynnu p’un a yw eich priodas ‘wedi’i dirymu’ neu ‘gellir ei dirymu’:

³Ò·É±ð±ô±ð°ùÌýpryd y gallwch chi ddirymu priodas  am y gwahaniaeth rhwng priodas ‘ddi-rym’ a phriodas ddirymadwy’.

Os wnaeth y llys gychwyn eich cais am ddirymiad ar, neu ar ôl 6 Ebrill 2022

I gael gorchymyn amodol, llenwch y cais am orchymyn amodol.

5. Gwneud cais am orchymyn terfynol neu ddyfarniad absoliwt

6 wythnos ar ôl i chi gael y gorchymyn amodol neu ddyfarniad nisi gallwch wneud cais am naill ai:

  • ddyfarniad absoliwt - os wnaeth y llys gychwyn eich cais am ddirymiad cyn 6 Ebrill 2022
  • gorchymyn terfynol - os wnaeth y llys gychwyn eich cais am ddirymiad ar, neu ar ôl 6 Ebrill 2022

Dyma’r ddogfen gyfreithiol derfynol sy’n dweud bod y briodas wedi’i dirymu.

Sut i wneud cais

Mae sut rydych yn gwneud cais yn dibynnu ar pryd wnaeth y llys gychwyn eich cais am ddirymiad.

Os wnaeth y llys gychwyn eich cais am ddirymiad cyn 6 Ebrill 2022

Llenwch yr hysbysiad o gais ar gyfer troi dyfarniad nisi yn ddyfarniad absoliwt.

Os wnaeth y llys gychwyn eich cais am ddirymiad ar, neu ar ôl 6 Ebrill 2022

³¢±ô±ð²Ô·É³¦³óÌý²â ffurflen gais am orchymyn terfynol.

Pan fyddwch yn dychwelyd eich ffurflenni

Bydd y llys yn gwirio a oes unrhyw reswm pam na ellir dirymu’r briodas. Mewn rhan fwyaf o achosion, nid oes angen i chi fynd i’r llys ar gyfer hyn.

Os yw’r llys yn hapus, bydd yn anfon ‘dyfarniad dirymiad’ neu ‘orchymyn dirymu priodas’ atoch. Bydd hyn yn cadarnhau nad ydych yn briod mwyach.

Os nad oedd eich priodas erioed yn gyfreithiol ddilys (‘wedi’i dirymu’), bydd y dyfarniad neu’r gorchymyn yn cadarnhau nad oeddech erioed wedi priodi’n gyfreithiol.