Cofrestru nod masnach
Printable version
1. Trosolwg
Gallwch gofrestru’ch nod masnach i ddiogelu’ch brand, er enghraifft enw eich cynnyrch neu wasanaeth.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Pan fyddwch yn cofrestru’ch nod masnach, byddwch yn gallu:
- cymryd camau cyfreithiol yn erbyn unrhyw un sy’n defnyddio’ch brand heb eich caniatâd, gan gynnwys ffugwyr
- rhoi’r symbol ® wrth ymyl eich brand - i ddangos mai eich brand chi ydyw a rhybuddio eraill rhag ei ddefnyddio
- gwerthu a thrwyddedu’ch brand
Cyn cofrestru nod masnach, gwiriwch mai dyma’r math cywir o ddiogelu ar gyfer eich eiddo deallusol.
Mae nod masnach yn parhau am 10 mlynedd. Rhaid i chi adnewyddu’ch nod masnach bob 10 mlynedd er mwyn iddo aros mewn grym.
Beth y gallwch ei gofrestru
Gall eich nod masnach gynnwys:
- geiriau
- seiniau
- logos
- lliwiau
- cyfuniad o unrhyw rai o’r rhain
Beth na allwch ei gofrestru
Ni all eich nod masnach:
- bod yn annymunol, er enghraifft cynnwys geiriau rhegi neu ddelweddau pornograffig
- disgrifio’r nwyddau neu’r gwasanaethau y bydd yn berthnasol iddynt, er enghraifft ni all y gair ‘cotwm’ fod yn nod masnach ar gyfer cwmni tecstilau cotwm
- bod yn gamarweiniol, er enghraifft defnyddio’r gair ‘organig’ ar gyfer nwyddau nad ydynt yn organig
- bod yn rhy gyffredin a heb fod yn nodedig, er enghraifft datganiad megis ‘ni sy’n arwain y ffordd’
- bod yn siâp generig yn unig sy’n gysylltiedig â’ch busnes, er enghraifft os ydych chi’n gwerthu afalau ni allwch nodi siâp afal fel nod masnach
- gwneud defnydd o faneri cenedlaethol nad oes gennych ganiatâd i’w defnyddio
- gwneud defnydd o arwyddluniau neu ddilysnodau swyddogol, er enghraifft arfbeisiau
Mae’n bosibl na fyddwch yn gallu cofrestru’ch nod masnach os yw yr un peth â, neu’n debyg i, nod masnach busnes arall sy’n gwerthu’r un nwyddau neu wasanaethau.
.
Beth mae’n ei gostio
Mae cofrestru nod masnach yn costio o leiaf £170. Fel arfer bydd yn costio mwy yn dibynnu ar eich amgylchiadau, er enghraifft sawl math o nwyddau neu wasanaethau rydych am ddiogelu’ch brand ynddynt.
Y broses ymgeisio
Rhaid i chi anfon manylion eich nod masnach a’r nwyddau neu wasanaethau rydych am ddefnyddio’ch nod masnach arnynt i’r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO).
³Ò²¹±ô±ô·É³¦³óÌýanfon eich cais ar-lein neu drwy’r post.
Bydd yr IPO yn:
- gwirio nad yw eich nod masnach yr un peth ag unrhyw nodau masnach presennol, neu’n debyg iddynt
- cyhoeddi manylion eich cais yn y cyfnodolyn, rhag ofn bod unrhyw un eisiau ei wrthwynebu
Os oes unrhyw broblemau bydd yr IPO yn rhoi gwybod i chi. Bydd rhaid i chi eu datrys cyn y gallwch gofrestru’ch nod masnach.
Os nad oes unrhyw broblemau, fel arfer mae’n cymryd tua thri i bedwar mis o wneud cais i’ch nod masnach gael ei roi.
Gweld llinell amser o’r broses.
Cofrestru’ch nod masnach dramor
Mae cofrestru nod masnach yn y DU yn diogelu’ch brand yn y DU ac Ynys Manaw yn unig.
Mae prosesau gwahanol ar gyfer:
- - mae angen i chi fod wedi cofrestru’ch nod masnach yn y DU yn barod er mwyn gallu ei gofrestru yn Jersey
- cofrestru nodau masnach dramorr
2. Cyn i chi wneud cais
Cyn i chi wneud cais am nod masnach, bydd angen i chi wneud y canlynol:
- penderfynu pa gategori cyffredinol a math penodol o nwyddau neu wasanaethau (a elwir yn ‘ddosbarthiadau’ a ‘thermau) yr ydych am ddefnyddio eich nod masnach ar eu cyfer
- gwirio a oes unrhyw un arall wedi cofrestru nod masnach tebyg
Penderfynu pa ddosbarthiadau nod masnach i wneud cais amdanynt
Pan fyddwch yn gwneud cais, rhaid i chi ddewis o leiaf un dosbarth ac un term ar gyfer eich nod masnach. Mae’r rhain yn ymwneud â’r nwyddau neu’r gwasanaethau yr ydych chi’n bwriadu defnyddio’ch nod masnach arnyn nhw.
Mae dosbarth yn cwmpasu categori cyffredinol o nwyddau neu wasanaethau, tra bod term yn fwy penodol. Er enghraifft, mae dosbarth 25 yn cynnwys dillad. Yna mae’n cynnwys termau sy’n dibynnu ar ddefnydd neu ddeunydd y dillad, fel dillad chwaraeon neu ddillad wedi gwau.
Bydd eich nod masnach wedi ei ddiogelu dim ond yn y dosbarthiadau ac ar gyfer y termau a ddewiswch.
Gallwch ddewis mwy nag un dosbarth neu derm ond dim ond y rhai sy’n berthnasol i’ch cynlluniau busnes y dylech eu dewis am y 5 mlynedd nesaf. Po fwyaf o dermau rydych chi’n eu dewis, y mwyaf tebygol y bydd eich nod masnach yn debyg i un rhywun arall.
Ni allwch ychwanegu mwy o dermau at eich cais ar ôl i chi ei anfon.
Peidiwch â dewis termau nad ydych yn bwriadu gwerthu unrhyw nwyddau a gwasanaethau ynddynt dros y 5 mlynedd nesaf. Os gwnewch chi hynny, efallai y bydd eich nod masnach yn cael ei herio ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu costau cyfreithiol.
Dewch o hyd i’r dosbarthiadau nod masnach cywir ar gyfer eich brand.
Enghraifft
Rydych chi’n bwriadu defnyddio’ch nod masnach ar eich llinell dillad chwaraeon eich hun. Byddwch yn dewis dosbarth 25 ac yn dewis y termau ‘dillad’, ‘dillad chwaraeon’ a ‘dillad athletaidd’.
Gwiriwch a oes gan unrhyw un arall nod masnach tebyg
Chwiliwch y gronfa ddata nodau masnach i wirio a yw eich nod masnach yn debyg neu yr un fath ag unrhyw nodau masnach cofrestredig.
Gallwch dalu £100 am gais Dechrau Cywir. Yna bydd y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) yn gwirio am nodau masnach tebyg i chi, cyn i chi ymrwymo i dalu’r ffi lawn.
Os byddwch chi’n dod o hyd i nod masnach tebyg i’ch un chi
Dylech gael cyngor proffesiynol i ddarganfod eich opsiynau.
Peidiwch â gwneud cais heb gael cyngor os ydych chi’n ymwybodol bod unrhyw nodau masnach eraill sy’n debyg neu yr un fath â’r hyn rydych chi am ei gofrestru. Bydd yr IPO yn cysylltu â deiliaid nodau masnach sydd yn union yr un fath neu’n debyg pan fyddwch yn gwneud cais.
Cael cymorth a chyngor proffesiynol
Gallwch gael cyngor am ddim ynghylch cofrestru nod masnach gan:
- yr IPO
-
clinig eiddo deallusol (IP)
- yn Llundain
Os oes gennych ymholiad am ddosbarthiadau, anfonwch e-bost at dîm ymholiadau dosbarthiad yr IPO - tmclassificationenquiries@ipo.gov.uk.
Gallwch hefyd gael cymorth proffesiynol gan . Bydd yn rhaid i chi dalu am eu gwasanaethau.
3. Anfon eich cais
I wneud cais, bydd angen:
- manylion am yr hyn rydych chi am ei gofrestru, er enghraifft y geiriau neu’r slogan rydych chi am eu defnyddio, neu eglureb
- manylion personol neu gwmni perchennog arfaethedig y nod masnach
- y math o nwyddau neu wasanaethau (a elwir yn ‘ddosbarthiadau’ a ‘thermau’) yr hoffech ddefnyddio eich nod masnach ar eu cyfer - darllenwch ganllawiau ar beth i’w wneud cyn i chi wneud cais
Mae faint mae’n ei gostio yn dibynnu ar y math o gais rydych chi’n ei wneud a faint o ddosbarthiadau rydych chi’n eu dewis.
Os oes gennych sawl fersiwn o’ch nod masnach (er enghraifft, lliwiau gwahanol o’ch logo), efallai y byddwch yn gallu gwneud cais cyfres. Mae hyn yn cynnwys hyd at 6 amrywiad ac mae’n costio llai na’u cofrestru i gyd ar wahân.
Dewiswch gais Dechrau Cywir (Right Start) os ydych am wirio bod eich cais yn bodloni’r rheolau ar gyfer cofrestru cyn i chi ymrwymo i dalu’r ffi lawn.
Bydd eich cais yn cael ei gyhoeddi ar ÒÁÈËÖ±²¥ cyn gynted ag y byddwch wedi gwneud cais. Mae hyn yn golygu y gallai rhywun arall ddefnyddio manylion ohono, er enghraifft gallent brynu parth y wefan ar gyfer eich enw brand.
Beth mae’n ei gostio
Cais safonol
Mae’n costio £170 i gofrestru nod masnach sengl mewn un dosbarth. Mae’n costio £50 am bob dosbarth ychwanegol.
Os ydych chi’n gwneud cais cyfres mae’r 2 fersiwn cyntaf o’r nod masnach wedi’u cynnwys yn y ffi. Yna byddwch yn talu £50 am bob fersiwn ychwanegol o’ch nod masnach, hyd at gyfanswm o 6.
Cais Dechrau Cywir (Right Start)
Rydych yn talu £100 a £25 am bob dosbarth ychwanegol i wirio a yw’ch cais yn bodloni’r rheolau ar gyfer cofrestru.
Byddwch yn cael adroddiad yn dweud wrthych a yw’ch cais wedi bodloni’r rheolau ai peidio.
Bydd angen i chi dalu £100 arall (ynghyd â £25 am bob dosbarth ychwanegol) i naill ai:
- barhau â’ch cais, os yw’n bodloni’r rheolau
- herio’r penderfyniad neu drafod y manylion, os nad yw eich cais yn cwrdd â’r rheolau
Cewch 28 diwrnod i benderfynu a ydych am barhau â’ch cais, herio’r penderfyniad neu ei drafod.
Os na allwch wneud cais ar-lein
Llenwch ffurflen gais bapur i wneud cais drwy’r post.
Mae’n costio £200 i wneud cais am un dosbarth, ynghyd â £50 ar gyfer pob dosbarth ychwanegol.
4. Ar ôl i chi wneud cais
Bydd y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) yn archwilio’ch cais ac yn anfon ‘adroddiad archwiliad’ atoch o fewn 2 i 3 wythnos.
Mae’r adroddiad yn dweud wrthych os oes problemau gyda’ch cais (a elwir yn ‘wrthwynebiadau’), a allai olygu na fyddech yn gallu cofrestru’ch nod masnach.
Mae gennych 2 fis i ddatrys unrhyw wrthwynebiadau.
Bydd yr IPO hefyd yn chwilio am nodau masnach presennol sydd yr un fath, neu’n debyg i’ch un chi. Os byddant yn dod o hyd i rai, byddant yn cysylltu â chi a’r deiliaid cofrestredig.Â
Os nad oes unrhyw wrthwynebiadau neu os byddwch yn eu datrys, bydd eich cais yn cael ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn nodau masnach am 2 fis. Gall unrhyw un ‘wrthwynebu’ eich cais yn ystod y cyfnod hwn.Â
Os bydd rhywun yn gwrthwynebu’ch caisÂ
Bydd yr IPO yn dweud wrthych os bydd rhywun yn gwrthwynebu’ch cais.Â
Os bydd eich cais yn cael ei wrthwynebu ni fyddwch yn gallu cofrestru’ch nod masnach yn y dosbarthiadau neu’r telerau perthnasol hyd nes y byddwch wedi datrys y mater.Â
Gallwch naill ai:Â
- siarad â’r sawl sy’n gwrthwynebuÂ
- tynnu’ch cais yn ôlÂ
- amddiffyn eich cais yn gyfreithiol - bydd yn rhaid i chi dalu costau cyfreithiolÂ
Gweler penderfyniadau nod masnach blaenorol i’ch helpu ag anghydfod a pharatoi ar gyfer gwrandawiad.^Â
5. Pan fydd eich nod masnach wedi'i gofrestru
Bydd eich nod masnach yn cael ei gofrestru tua 10 wythnos (2 fis, a 2 wythnos) ar ôl iddo gael ei gyhoeddi, os nad yw wedi cael ei wrthwynebu.Â
Byddwch yn cael tystysgrif i gadarnhau bod eich nod masnach wedi’i gofrestru.Â
Pan fydd gennych eich tystysgrif gallwch:
- wrthwynebu nodau masnach eraill, er enghraifft os ydych yn meddwl eu bod yn debyg i’ch rhai chiÂ
- werthu, marchnata, trwyddedu a morgeisio’ch nod masnach
Bydd eich nod masnach yn parhau am 10 mlynedd - gallwch adnewyddu’ch nod masnach bob 10 mlynedd.Â
Rhoi gwybod am newidiadauÂ
Rhaid i chi adrodd am unrhyw newidiadau i’ch nod masnach. Mae hyn yn cynnwys:Â
- newidiadau i’ch manylion personol a gedwir yn y gofrestr nodau masnach, er enghraifft eich cyfeiriad neu e-bostÂ
- os ydych am ildio’ch hawliau i’ch nod masnachÂ
- os ydych am benodi cynrychiolydd neu asiantÂ