Talu’r tâl treth drwy TWE

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i dalu’r tâl treth drwy eich taliadau Treth Incwm arferol.

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn addasu eich cod treth i roi gwybod i’ch cyflogwr neu’ch darparwr pensiwn sut bydd eich treth yn newid.

Pryd gallwch dalu drwy TWE

Gallwch dalu’r tâl treth drwy TWE os yw’r canlynol yn wir:

  • nid oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth am reswm arall, er enghraifft os ydych yn dod yn hunangyflogedig

  • mae hi’n gynharach na 31 Ionawr yn ystod y flwyddyn ar ôl y flwyddyn dreth y mae angen i chi dalu ar ei chyfer

Os na allwch dalu drwy TWE, yna mae’n rhaid i chi dalu drwy Hunanasesiad yn lle hynny.

Os oes gennych bartner sydd wedi cael taliadau Budd-dal Plant yn y flwyddyn dreth ddiwethaf

Er mwyn talu’r tâl treth drwy TWE, bydd angen y canlynol arnoch:

  • ei rif Yswiriant Gwladol

  • y dyddiad yr oeddech yn bartneriaid

Os nad yw’r wybodaeth hon gennych, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF dros y ffôn er mwyn gwneud ymholiad am dreth incwm.

Ni allwch gadw eich cynnydd yn y gwasanaeth hwn. Dylech gasglu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch cyn dechrau.

Mewngofnodwch i dalu’r tâl treth drwy TWE

Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, bydd ffordd i chi eu creu.

Wrth i chi fewngofnodi, cewch wybod a oes angen i chi brofi pwy ydych. Mae hyn er mwyn cadw’ch manylion yn ddiogel ac, fel arfer, bydd angen i chi ddefnyddio ID ffotograffig fel pasbort neu drwydded yrru i wneud hynny.

Newid o dalu drwy Hunanasesiad i dalu drwy TWE

Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF dros y ffôn er mwyn rhoi gwybod eich bod am stopio talu drwy Hunanasesiad.

Os na allwch gael gwybodaeth gan eich partner neu gyn-bartner

Gallwch ysgrifennu at CThEF i ofyn p’un a yw’ch partner neu gyn-bartner yn cael Budd-dal Plant, neu a yw ei incwm yn uwch na’ch incwm chi. Bydd CThEF yn ateb ‘iawn’ neu ‘na’ i chi – ni fydd yn rhoi unrhyw wybodaeth ariannol i chi.

Dim ond os ydych chi a’ch partner naill ai’n byw gyda’ch gilydd neu wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn dreth yr ydych am gael gwybodaeth ar ei chyfer y gallwch ofyn am yr wybodaeth hon.

Ysgrifennu at CThEF

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF pa flwyddyn dreth yr ydych yn gofyn yn ei chylch, yn ogystal â rhoi’r wybodaeth ganlynol amdanoch:

  • eich enw, cyfeiriad, dyddiad geni a rhif Yswiriant Gwladol

  • eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr, os oes un gennych

  • eich ‘incwm net wedi’i addasu’ – defnyddiwch y gyfrifiannell treth Budd-dal Plant i gyfrifo hyn

  • enw eich partner neu gyn-bartner

Os gallwch, rhowch yr wybodaeth ganlynol am eich partner neu gyn-bartner:

  • ei gyfeiriad

  • ei ddyddiad geni

  • ei rif Yswiriant Gwladol, os ydych yn gwybod beth ydyw

  • ei Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr, os oes un ganddo

Anfonwch eich llythyr i:

Talu Wrth Ennill a Hunanasesiad
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST