Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
Ar ôl i chi wneud cais
Os ydych angen cael asesiad
Byddwch yn cael eich gwahodd i asesiad gydag ymarferwr iechyd proffesiynol os oes angen mwy o wybodaeth. Byddant yn gofyn:
- am eich gallu i wneud gweithgareddau a sut mae’ch cyflwr yn effeithio ar eich bywyd bob dydd a symudedd
- am unrhyw driniaethau rydych wedi eu cael neu yn mynd i’w cael
Efallai y byddant yn gofyn i chi wneud symudiadau syml i ddangos sut ydych yn rheoli rhai gweithgareddau.
Gall yr asesiad gael ei gynnal mewn canolfan asesu, yn eich cartref, dros y ffôn neu drwy alwad fideo. Fel arfer mae’n cymryd 1 awr.
Gallwch gael rhywun arall gyda chi, er enghraifft ffrind neu weithiwr cymorth.
Gallwch ddarllen .
Cael penderfyniad
Byddwch yn derbyn llythyr sy’n eich hysbysu os byddwch yn cael PIP.
Os ydych chi’n gymwys, bydd eich llythyr hefyd yn dweud wrthych:
- dyddiad eich taliad cyntaf
- pa mor hir nes bod eich cais yn cael ei adolygu
Bydd eich dyfarniad cyntaf rhwng 9 mis a 10 mlynedd, yn dibynnu a yw eich anghenion yn debygol o newid
Os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad
Gallwch herio penderfyniad am eich cais. Gelwir hyn yn gofyn am ‘ailystyriaeth orfodol’.