Ymddiriedolaethau a threthi
Pryd y mae’n rhaid i chi gofrestru ymddiriedolaeth
Mae’n rhaid cofrestru’r rhan fwyaf o ymddiriedolaethau. Mae rhai achosion lle na fydd yn rhaid i chi gofrestru.
Nid oes yn rhaid i chi byth gofrestru ymddiriedolaeth a orfodwyd gan lys neu a grëwyd drwy ddeddfwriaeth.
Gallwch gael cyngor gan gyfreithiwr (yn agor tudalen Saesneg) neu ymgynghorydd treth ynghylch pryd y dylid cofrestru ymddiriedolaeth.
Os yw’ch ymddiriedolaeth yn agored i drethi’r DU
Fel arfer, mae’n rhaid i chi gofrestru’ch ymddiriedolaeth gyda Chyllid a Thollau EF (CThEF) os daw’n agored i unrhyw un o’r canlynol:
- 
    Treth Enillion Cyfalaf 
- 
    Treth Incwm 
- 
    Treth Etifeddiant 
- 
    Treth Tollau Stamp Wrth Gefn 
- 
    Treth Dir y Tollau Stamp neu Dreth Trafodiadau Tir ac Adeiladau (yn yr Alban) 
- 
    Treth Trafodiadau Tir (yng Nghymru) 
Mae’n rhaid i chi hefyd gofrestru ymddiriedolaeth er mwyn hawlio rhyddhad treth.
Ymddiriedolaethau dibreswyl
Mae’n rhaid i chi gofrestru ymddiriedolaeth ddibreswyl (yn agor tudalen Saesneg) os daw’n agored i’r canlynol:
- 
    treth ar incwm yn y DU 
- 
    treth ar asedion yn y DU 
Os nad yw’ch ymddiriedolaeth yn agored i drethi’r DU
Mae’n rhaid i chi gofrestru’ch ymddiriedolaeth, hyd yn oed os nad yw’n agored i drethi’r DU – oni bai bod unrhyw un o’r canlynol yn wir.
Nid oes yn rhaid i chi gofrestru’ch ymddiriedolaeth os yw’r canlynol yn wir:
- 
    mae’r ymddiriedolaeth yn dal arian neu asedion cynllun pensiwn cofrestredig yn y DU – megis cynllun pensiwn galwedigaethol 
- 
    mae’r ymddiriedolaeth yn dal polisïau bywyd neu ymddeoliad (ar yr amod mai dim ond yn sgil marwolaeth, salwch angheuol neu ddifrifol, neu anabledd parhaol y mae’r polisi’n talu, neu i dalu costau gofal iechyd y person sydd wedi’i yswirio) 
- 
    mae’r ymddiriedolaeth yn dal buddiannau polisi yswiriant a gafwyd ar ôl marwolaeth y person sydd wedi’i yswirio (cyn belled â bod y buddiannau’n cael eu talu gan yr ymddiriedolaeth cyn pen 2 flynedd i’r farwolaeth) 
- 
    mae’r ymddiriedolaeth yn ymddiriedolaeth elusennol sydd wedi’i chofrestru fel elusen yn y DU neu nad yw’n ofynnol iddi gofrestru fel elusen 
- 
    mae’r ymddiriedolaeth yn ymddiriedolaeth ‘beilot’ a sefydlwyd cyn 6 Hydref 2020 ac nid yw’n dal mwy na £100 – bydd angen i ymddiriedolaethau peilot a sefydlwyd ar neu ar ôl 6 Hydref 2020 gofrestru 
- 
    mae’r ymddiriedolaeth yn ymddiriedolaeth gydberchnogol a sefydlwyd i ddal cyfrannau o eiddo neu asedion eraill a berchenogir ar y cyd gan 2 neu fwy o bobl ar eu rhan eu hunain fel ‘tenantiaid cydradd’ 
- 
    mae’r ymddiriedolaeth yn ymddiriedolaeth ewyllys a grëwyd gan ewyllys person ac sy’n dod i rym adeg ei farwolaeth (ar yr amod mai dim ond am hyd at 2 flynedd ar ôl i’r person farw y mae’r ymddiriedolaeth yn dal asedion yr ystâd) 
- 
    mae’r ymddiriedolaeth yn ymddiriedolaeth ar gyfer plant mewn profedigaeth o dan 18 oed, neu oedolion 18 i 25 oed, a sefydlwyd o dan ewyllys (neu ddiewyllysedd) rhiant ymadawedig neu’r Cynllun Digolledu am Anafiadau Troseddol 
- 
    mae’r ymddiriedolaeth yn ymddiriedolaeth ‘ariannol’ neu ‘fasnachol’ a grëwyd wrth ddarparu gwasanaethau proffesiynol neu gynnal trafodion busnes er mwyn dal arian neu asedion eraill i gleientiaid 
Nid yw rhai cynhyrchion a threfniadau ariannol sydd ag ‘Ymddiriedolaeth’ yn eu disgrifiad (megis y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant neu Ymddiriedolaethau Cyfalaf Menter) yn ymddiriedolaethau mewn gwirionedd. Mynnwch gyngor gan gyfreithiwr (yn agor tudalen Saesneg) neu ymgynghorydd treth os nad ydych yn siŵr.
Sut i gofrestru
Mae sut rydych yn cofrestru ymddiriedolaeth yn dibynnu a ydych yn:
Mae yna broses wahanol os oes angen i chi gofrestru ystâd rhywun sydd wedi marw.