Yswiriant Gwladol a threth ar ôl cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Printable version

1. Trosolwg

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn rhoi’r gorau i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar ôl cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth (yn agor tudalen Saesneg).

Os ydych yn hunangyflogedig, ni fydd eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 (yn agor tudalen Saesneg) yn cael eu trin fel pe baent wedi’u talu bellach. Rydych yn rhoi’r gorau i dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 o 6 Ebrill (dechrau’r flwyddyn dreth) ar ôl i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg

Rydych dim ond yn talu Treth Incwm (yn agor tudalen Saesneg) os yw’ch incwm trethadwy – gan gynnwys eich pensiwn preifat a’ch Pensiwn y Wladwriaeth – yn fwy na’ch lwfansau rhydd o dreth (hynny yw, swm yr incwm sydd ar gael i chi cyn i chi orfod talu treth).

Mae’n rhaid i chi gysylltu â Chyllid a Thollau EF (CThEF) os ydych o’r farn y dylech fod yn talu treth.

2. Rhoi’r gorau i dalu Yswiriant Gwladol

Fel arfer, unwaith i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth (yn agor tudalen Saesneg), byddwch yn rhoi’r gorau i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol – a hynny hyd yn oed os byddwch yn parhau i weithio.

Gallwch hawlio ad-daliad Yswiriant Gwladol os ydych wedi gordalu.

Os ydych yn hunangyflogedig

Ni fydd eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 (yn agor tudalen Saesneg) yn cael eu trin fel pe baent wedi’u talu bellach. Rydych yn rhoi’r gorau i dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 o 6 Ebrill (dechrau’r flwyddyn dreth) ar ôl i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Er enghraifft, os ydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar 6 Medi 2025. Byddwch yn rhoi’r gorau i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 o 6 Ebrill 2026, ac yn talu’ch bil Dosbarth 4 terfynol, ynghyd â’ch Treth Incwm, erbyn 31 Ionawr 2027.

Bydd yn dal i fod angen i chi gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer pob blwyddyn yr ydych yn gweithio – a pharhau i wneud hyn hyd yn oed ar ôl i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Os ydych yn gyflogai

Os byddwch yn parhau i weithio, dangoswch dystiolaeth o’ch oedran (er enghraifft, tystysgrif geni neu basbort) i’ch cyflogwr er mwyn sicrhau eich bod yn rhoi’r gorau i dalu Yswiriant Gwladol.

Os oes well gennych fod eich cyflogwr ddim yn gweld eich tystysgrif geni neu’ch pasbort, gall Cyllid a Thollau EF (CThEF) anfon llythyr atoch fel tystiolaeth o’ch oedran yn lle.

Bydd y llythyr yn cadarnhau’r canlynol:

  • eich bod wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

  • does dim angen i chi dalu Yswiriant Gwladol

Bydd angen i chi ysgrifennu at CThEF i esbonio pam nad ydych am ddangos eich tystysgrif geni neu’ch pasbort i’ch cyflogwr.

Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a Chyflogwyr
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST 

Os nad oes gan CThEF gofnod o’ch dyddiad geni, bydd gofyn i chi anfon eich tystysgrif geni neu’ch pasbort at ddibenion dilysu. Caiff copïau ardystiedig (yn agor tudalen Saesneg) eu derbyn.

Gallwch hefyd ddangos Tystysgrif Eithrio oherwydd Oedran (CA4140) os oes gennych un.

3. Lwfansau treth ar sail oed

Lwfans Pâr Priod

Gallwch hawlio’r Lwfans Pâr Priod (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn briod, neu mewn partneriaeth sifil, a ganed un ohonoch cyn 6 Ebrill 1935. Bydd y lwfans hwn yn cael ei ddidynnu o’ch bil treth – mae’r swm a ddidynnir yn dibynnu ar eich incwm.

Rhyddhad Taliadau Cynhaliaeth

Gallwch gael lwfans i ostwng eich bil treth ar gyfer taliadau cynhaliaeth a dalwch i gyn-briod neu gyn-bartner sifil os yw’r canlynol yn wir:

  • ganed un ohonoch cyn 6 Ebrill 1935

  • rydych wedi gwahanu, neu wedi ysgaru, ac rydych yn gwneud taliadau o dan orchymyn llys

  • mae’r taliadau yn cael eu gwneud ar gyfer cynhaliaeth eich cyn-briod neu’ch cyn-bartner sifil (cyhyd â’i fod heb ail-briodi neu ffurfio partneriaeth sifil newydd) neu gynhaliaeth eich plant sydd o dan 21 oed

Faint y gallwch ei gael

Ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026, gall Rhyddhad Taliadau Cynhaliaeth ostwng eich bil treth gan y naill neu’r llall o’r canlynol (p’un bynnag sydd is):

  • £436 – pan ydych yn gwneud taliadau cynhaliaeth sydd werth £4,360 neu fwy y flwyddyn

  • 10% o’r arian rydych wedi’i dalu mewn gwirionedd – pan ydych yn gwneud taliadau cynhaliaeth sydd werth llai na £4,360 y flwyddyn

Ni allwch hawlio gostyngiad treth ar gyfer unrhyw daliadau gwirfoddol a wnaed gennych.

4. Hawlio ad-daliad treth neu Yswiriant Gwladol

Ad-daliadau Yswiriant Gwladol

Gallwch hawlio ad-daliad ar gyfer unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol a ordalwyd.

Ad-daliadau treth

Gallwch hawlio ad-daliad treth os yw’r canlynol wedi digwydd:

  • cafodd gormod o dreth ei didynnu o’ch pensiwn

  • cafodd gormod o dreth ei dalu drwy’ch swydd

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad, gallwch gywiro unrhyw gamgymeriadau a hawlio ad-daliad drwyddi.

Hawlio ad-daliad treth ar log ar gynilion

Os ydych ar incwm isel, mae’n bosibl y gallech gael llog sy’n rhydd o dreth, neu gael rhywfaint o’r dreth yn ôl o’r llog a dalwyd ar eich cynilion.