Ffurflenni Treth Hunanasesiad
Cofrestru ar gyfer Hunanasesiad
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF erbyn 5 Hydref os oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth ar gyfer y flwyddyn flaenorol ac nid ydych wedi anfon un o’r blaen.Ìý
Gallwch roi gwybod i CThEF drwy gofrestru ar gyfer Hunanasesiad. Gwiriwch sut i gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.Ìý
Mae angen i chi gadw cofnodion (yn agor tudalen Saesneg) (er enghraifft cyfriflenni banc neu dderbynebau) fel y gallwch lenwi’ch Ffurflen Dreth yn gywir.Ìý
Paratoi ar gyfer eich bil trethÌý
Bydd angen i chi dalu eich bil treth erbyn 31 Ionawr.Ìý
I baratoi, unwaith eich bod wedi cofrestru, gallwch wneud y canlynol:Ìý
-
amcangyfrif faint o dreth efallai y bydd yn rhaid i chi ei thaluÌý
-
trefnu taliadau wythnosol neu’n fisol i’ch helpu gyda chyllidebu ar gyfer eich bilÌý
-
anfon eich Ffurflen Dreth unrhyw adeg ar ôl 5 Ebrill - wrth wneud hyn yn gynnar, cewch wybod beth yw’r swm sydd arnoch