Ffurflenni Treth Hunanasesiad
Cosbau
Byddwch yn cael cosb os oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth a bod y canlynol yn wir:
-
rydych yn anfon Ffurflen Dreth yn hwyrÌý
-
rydych yn talu’ch bil treth yn hwyrÌý
Gallwch amcangyfrif eich cosb (yn agor tudalen Saesneg) am Ffurflenni Treth a thaliadau Hunanasesiad hwyr.Ìý
Os byddwch yn cofrestru ar gyfer Hunanasesiad yn hwyrÌý
Os ydych yn cofrestru ar ôl 5 Hydref ac nad ydych yn talu’ch holl fil treth erbyn 31 Ionawr, byddwch yn cael cosb ‘methu â hysbysu’.ÌýÌý
Mae’r gosb hon yn seiliedig ar y swm sydd ar ôl i’w dalu a byddwch yn ei gael cyn pen 12 mis ar ôl i CThEF gael eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.Ìý
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gosbau ‘methu â hysbysu’.
Os byddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth yn hwyrÌý
Byddwch yn cael y cosbau canlynol am gyflwyno’n hwyr:Ìý
-
cosb benodol o £100Ìý
-
ar ôl 3 mis, cosbau ychwanegol o £10 y dydd, hyd at uchafswm o £900Ìý
-
ar ôl 6 mis, cosb bellach sef 5% o’r dreth sy’n ddyledus neu £300, p’un bynnag sydd fwyafÌý
-
ar ôl 12 mis, cosb arall sef 5% neu £300, p’un bynnag sydd fwyafÌý
Er mwyn osgoi hyn, anfonwch eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad cyn gynted â phosibl.Ìý
Bydd pob partner yn cael cosb os yw Ffurflen Dreth Partneriaeth yn hwyr.
Os byddwch yn talu’ch treth yn hwyrÌý
Byddwch yn cael cosbau o 5% o’r dreth heb ei thalu ar yr adegau canlynol:Ìý
-
30 diwrnodÌý
-
6 misÌý
-
12 misÌý
Byddwn hefyd yn codi llog ar y swm sy’n ddyledus. Er mwyn osgoi hyn, talwch eich bil treth Hunanasesiad cyn gynted â phosibl.Ìý
Dysgwch beth sy’n digwydd os nad ydych yn ymateb i CThEF neu’n gwrthod talu’r hyn sydd arnoch.Ìý
Talu cosbÌý
Mae’n rhaid i chi dalu cyn pen 30 diwrnod i ddyddiad yr hysbysiad o gosb. Cael gwybod sut i dalu cosb.
Os ydych yn anghytuno â chosbÌý
Os oes gennych esgus rhesymol, gallwch apelio yn erbyn cosb (yn agor tudalen Saesneg).