Cael gofal plant - sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio

Printable version

1. Trosolwg

Mae’n bosibl y gallwch gael gofal plant sy’n rhad ac am ddim i’ch plentyn 9 mis i 4 blwydd oed a’ch bod yn byw yn Lloegr.

Mae:

  • Ìý

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Gallwch gael hyd at 30 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim yr wythnos.

Mae’n rhaid i’r gofal plant gael ei ddarparu gan ddarparwr cofrestredig, fel meithrinfa gofrestredig, cynllun chwarae neu ysgol. Enw arall hyn yw gofal plant cymeradwy.

Pwy sy’n gallu cael gofal plant sy’n rhad ac am ddim

I fod yn gymwys i gael gofal plant sy’n rhad ac am ddim, mae angen i chi (a’ch partner, os oes gennych un) fod yn y gwaith neu ar fin dechrau swydd newydd ac yn ennill dros swm penodol.

Bydd angen rhif Yswiriant Gwladol arnoch i wneyd cais.Ìý

Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell er mwyn gwirio faint o gymorth y gallech ei gael gyda chostau gofal plant.

Pryd i wneud cais

Gallwch wneud cais am 30 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim o’r adeg pan fydd eich plentyn yn 23 wythnos oed.

Gwirio’r dyddiadau cau ar gyfer gwneud cais.

Sut i wneud caisÌý

I wneud cais, bydd angen i chi greu cyfrif gofal plant.Ìý

Os caiff eich cais ei gymeradwyo, byddwch yn cael cod 11 digid sy’n profi eich bod yn gymwys i gael gofal plant sy’n rhad ac am ddim. Bydd angen i chi roi’r cod hwn i’ch darparwr gofal plant.

Os ydych eisoes yn cael 15 awr o ofal plant yn rhad ac am ddim

Byddwch yn cael 30 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim yn awtomatig o fis Medi ymlaen, cyn belled â’ch bod yn dal i fod yn gymwys. Bydd angen i chi gadarnhau bod eich manylion yn gyfredol yn y ffordd arferol a rhoi’r cod i’ch darparwr gofal plant.

Cadarnhau bod eich manylion yn gywir

Er mwyn parhau i gael gofal plant sy’n rhad ac am ddim, bydd yn rhaid i chi gadarnhau bod eich manylion yn gyfredol drwy fewngofnodi i’ch cyfrif gofal plant bob 3 mis.

Cymorth arall y mae’n bosibl i chi ei gael

Yn ogystal â chael gofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio, mae’n bosibl y gallwch gael y naill neu’r llall o’r canlynol:

Bydd CThEF yn gwirio a ydych yn gymwys i gael Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth pan fyddwch yn gwneud cais am ofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio.

Nid oes modd i chi gael Gofal Plant sy’n Rhydd o gofal plant Credyd Cynhwysol ar yr un pryd.Ìý

2. Yr hyn y byddwch yn ei gael

Mae nifer yr oriau o ofal plant sy’n rhad ac am ddim a gewch yn dibynnu ar oedran eich plentyn.

Os yw’ch plentyn rhwng 9 mis a 2 flwydd oed

Ar hyn o bryd, mae plant rhwng 9 mis a 2 flwydd oed yn cael 15 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim bob wythnos am 38 wythnos y flwyddyn.

Bydd hyn yn cynyddu i 30 awr yr wythnos o fis Medi 2025 ymlaen. Gan fod y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am 15 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim wedi mynd heibio, byddwch nawr yn gwneud cais am 30 awr yn lle hynny.

Efallai y byddwch yn gallu cael gofal plant sy’n rhad ac am ddim am fwy na 38 wythnos y flwyddyn os byddwch yn dewis llai o oriau dros fwy o wythnosau.

Holwch eich darparwr gofal plant i weld a yw hyn yn rhywbeth mae’n ei gynnig.

Os ydych eisoes yn cael 15 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim

Byddwch yn cael 30 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim yn awtomatig o fis Medi ymlaen, cyn belled â’ch bod yn dal i fod yn gymwys. Bydd angen i chi gadarnhau bod eich manylion yn gyfredol yn y ffordd arferol a rhoi’r cod i’ch darparwr gofal plant.

Os yw eich plentyn rhwng 2 a 3 mlwydd oed a’ch bod yn cael cymorth ychwanegol

Gallwch gael 30 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim drwy 2 gynllun ar wahân os yw’r ddau amod canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn gymwys i gael gofal plant sy’n rhad ac am ddim i rieni sy’n gweithio
  • rydych chi, neu’ch plentyn, yn cael cymorth ychwanegol

O fis Medi 2025 ymlaen, byddwch yn cael:

  • 15 awr yr wythnos drwy’r cynllun gofal plant sy’n rhad ac am ddim i rieni sy’n gweithio
  • 15 awr yr wythnos os ydych chi neu’ch plentyn yn cael cymorth ychwanegol (byddwch yn parhau i gael yr oriau hyn hyd yn oed os nad ydych bellach yn gymwys i gael gofal plant sy’n rhad ac am ddim)

Byddwch yn cael y 30 awr hyn am 38 wythnos y flwyddyn. Efallai y byddwch yn gallu cael gofal plant sy’n rhad ac am ddim am fwy na 38 wythnos y flwyddyn os byddwch yn dewis llai o oriau dros fwy o wythnosau.

I wneud cais, bydd angen i chi gysylltu â’r tîm blynyddoedd cynnar neu’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd sydd yn rhan o’ch cyngor lleol.

Yr hyn sy’n cyfrif fel cymorth ychwanegol

Ystyrir eich bod yn rhywun sy’n cael cymorth ychwanegol os yw unrhyw un o’r amodau canlynol yn berthnasol i chi:

  • rydych yn cael Credyd Cynhwysol, ac mae incwm eich aelwyd yn £15,400 y flwyddyn neu lai ar ôl treth, heb gynnwys budd-daliadau
  • mae gan eich plentyn gynllun Addysg a Gofal Iechyd
  • mae eich plentyn yn cael Lwfans Byw i’r Anabl
  • mae eich plentyn wedi gadael gofal o dan orchymyn mabwysiadu, gorchymyn gwarcheidwadaeth arbennig neu orchymyn trefniadau plentyn

Os yw’ch plentyn rhwng 3 a 4 blwydd oed

Gallwch gael 30 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim bob wythnos am 38 wythnos y flwyddyn.

Efallai y byddwch yn gallu cael gofal plant sy’n rhad ac am ddim am fwy na 38 wythnos y flwyddyn os byddwch yn dewis llai o oriau dros fwy o wythnosau.

Holwch eich darparwr gofal plant i weld a yw hyn yn rhywbeth mae’n ei gynnig.

Pethau y gallai fod angen i chi dalu amdanynt

Er bod y gofal plant yn rhad ac am ddim, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu am rai costau ychwanegol, fel y canlynol:

  • prydau bwyd
  • cewynnau
  • oriau ychwanegol
  • gweithgareddau ychwanegol, megis teithiau

Ni ddylai’ch darparwr godi ffi gofrestru arnoch nad oes modd ei had-dalu nac unrhyw ffi atodol i dalu am gost eich gofal plant sy’n rhad ac am ddim.

Holwch eich darparwr ynghylch unrhyw gostau ychwanegol y bydd yn rhaid i chi eu talu.

3. Gwirio a ydych yn gymwys

Mae nifer yr oriau o ofal plant sy’n rhad ac am ddim a gewch yn dibynnu ar y canlynol:

  • oedran eich plentyn a’i amgylchiadau
  • p’un a ydych yn gweithio (yn gyflogedig, yn hunangyflogedig, neu’n gyfarwyddwr)
  • eich incwm (ac incwm eich partner, os oes gennych un)
  • eich statws mewnfudo

Ni fyddwch yn gymwys os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn wir:

Oedran eich plentyn a’i amgylchiadau

Mae nifer yr oriau o ofal plant sy’n rhad ac am ddim a gewch yn dibynnu ar oedran eich plentyn.

Os yw’ch plentyn rhwng 9 mis a 2 flwydd oed

Ar hyn o bryd, mae plant rhwng 9 mis a 2 flwydd oed yn cael 15 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim bob wythnos am 38 wythnos y flwyddyn. Bydd hyn yn cynyddu i 30 awr yr wythnos o fis Medi 2025 ymlaen.

Os yw’ch plentyn rhwng 3 a 4 blwydd oed

Gallwch gael 30 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim bob wythnos am 38 wythnos y flwyddyn.

Os ydyn nhw’n cael eu maethu gennych

Gallwch hawlio gofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio, cyn belled â bod y canlynol yn berthnasol:

Ni allwch ddefnyddio’r ffurflen gais ar-lein i gael gofal plant sy’n rhad ac am ddim. Cysylltwch â’ch gweithiwr cymdeithasol a’ch awdurdod lleol (yn agor tudalen Saesneg) os ydych am wneud cais.

Os ydych yn gweithio

Fel arfer, gallwch gael gofal plant sy’n rhad ac am ddim i rieni sy’n gweithio os ydych chi (a’ch partner, os oes gennych un):

  • yn gweithio neu’n dechrau swydd newydd
  • ar absenoldeb salwch neu wyliau blynyddol
  • ar absenoldeb ar y cyd i rieni, absenoldeb mamolaeth, absenoldeb tadolaeth neu absenoldeb mabwysiadu

Os nad ydych yn gweithio ar hyn o bryd

Efallai y byddwch yn dal i fod yn gymwys os yw’ch partner yn gweithio a’ch bod ar absenoldeb gofalwr (yn agor tudalen Saesneg) neu os ydych yn cael unrhyw un o’r canlynol:

  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Lwfans Gofalwr
  • Budd-dal Gallu Cyfyngedig i Weithio
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail cyfraniadau

Eich incwm

Dros y 3 mis nesaf mae’n rhaid i chi a’ch partner (os oes gennych un) ddisgwyl ennill o leiaf:

  • £2,539 cyn treth os ydych chi’n 21 oed neu’n hÅ·n (yn gyfwerth â £195 yr wythnos)
  • £2,080 cyn treth os ydych chi’n 18 i 20 oed (yn gyfwerth â £160 yr wythnos)
  • £1,570 cyn treth os ydych chi’n iau nag 18 oed neu’n brentis (yn gyfwerth â £120 yr wythnos)

¶Ù²â³¾²¹â€™r Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol am 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd.

Gallwch ddefnyddio cyfartaledd o faint rydych yn disgwyl ei ennill dros y flwyddyn dreth bresennol os yw’r canlynol yn wir:

  • rydych yn gweithio drwy’r flwyddyn ond nid ydych yn cael eich talu’n rheolaidd
  • rydych yn hunangyflogedig ac nid ydych yn disgwyl ennill digon yn ystod y 3 mis nesaf

Enghraifft

Rydych yn gymwys os ydych yn 21 oed neu’n hŷn a heb incwm rheolaidd, ond rydych yn ennill £10,158 y flwyddyn. Mae hyn yr un fath ag ennill £2,539 bob 3 mis ar gyfartaledd.

Os ydych yn hunangyflogedig, a wnaethoch dechrau’ch busnes lai na 12 mis yn ôl

Gallwch ennill llai tra’n parhau i fod yn gymwys i gael gofal plant sy’n rhad ac am ddim i rieni sy’n gweithio.

Os oes gennych fwy nag un swydd

Gallwch ddefnyddio cyfanswm eich enillion i gyfrifo a ydych yn cyrraedd y trothwy. Mae hyn yn cynnwys:

  • enillion o unrhyw gyflogaeth
  • enillion o unrhyw hunangyflogaeth

Os ydych yn gyflogedig ac yn hunangyflogedig, os hoffech, gallwch ddefnyddio’ch incwm o hunangyflogaeth yn unig os byddai hynny’n eich gwneud chi’n gymwys.

Incwm nad yw’n cyfrif tuag at isafswm eich enillion

Ni fydd rhai mathau o incwm yn cyfrif tuag at yr isafswm y mae’n rhaid i chi ei ennill i fod yn gymwys.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • difidendau
  • llog
  • incwm o fuddsoddi mewn eiddo
  • taliadau pensiwn

Eich statws mewnfudo

Mae’n rhaid i chi (a’ch partner os oes gennych un) fod â rhif Yswiriant Gwladol.

Mae’n rhaid i’r person sy’n gwneud cais hefyd feddu ar o leiaf un o’r canlynol:

Os nad ydych yn gymwys i gael gofal plant sy’n rhad ac am ddim i rieni sy’n gweithio

Mae’n bosibl y gallwch gael cymorth arall gyda chostau gofal plant.

Os yw eich plentyn rhwng 3 a 4 blwydd oed a’ch bod yn byw yn Lloegr, gallwch gael 15 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim yr wythnos am 38 wythnos y flwyddyn.

Os ydych yn hawlio rhai budd-daliadau penodol, gallech fod yn gymwys i gael addysg a gofal plant sy’n rhad ac am ddim i blant 2 oed drwy gynllun ar wahân.

4. Pryd i wneud cais

Gwirio pryd i wneud cais am 30 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim.

Gan fod y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am 15 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim wedi mynd heibio, byddwch nawr yn gwneud cais am 30 awr yn lle hynny.

Os ydych eisoes yn cael 15 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim, byddwch yn cael 30 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim yn awtomatig o fis Medi ymlaen, cyn belled â’ch bod yn dal i fod yn gymwys. Bydd angen i chi gadarnhau bod eich manylion yn gyfredol yn y ffordd arferol a rhoi’r cod i’ch darparwr gofal plant.

Holwch eich darparwr gofal plant i gael gwybod yn union pryd bydd eich gofal plant sy’n rhad ac am ddim yn dechrau.

Pryd i wneud cais am 30 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim

Gallwch wneud cais o’r adeg pan fydd eich plentyn yn 23 wythnos oed. Bydd y dyddiad pryd y cewch chi eich oriau yn dibynnu ar y dyddiad y bydd eich plentyn yn troi’n 9 mis oed.

Pryd bydd eich plentyn yn troi’n 9 mis oedÌý O ba bryd y gallwch gael eich oriau Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais
Rhwng 1 Medi a 31 Rhagfyr 1 Ionawr 31 Rhagfyr
Rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth 1 Ebrill 31 Mawrth
Rhwng 1 Ebrill a 31 Awst 1 Medi 31 Awst

Pryd i wneud cais os byddwch yn dychwelyd i’r gwaith ar ôl absenoldeb mamolaeth, absenoldeb tadolaeth, absenoldeb ar y cyd i rieni neu absenoldeb mabwysiadu

Bydd y dyddiad rydych yn dychwelyd i’r gwaith yn effeithio ar ba bryd y gallwch wneud cais am ofal plant sy’n rhad ac am ddim.Ìý

Gallwch wneud cais o’r adeg pan fydd eich plentyn yn 23 wythnos oed. Bydd y dyddiad pryd y cewch chi eich oriau yn dibynnu ar y dyddiad y bydd eich plentyn yn troi’n 9 mis oed.

Dyddiad dychwelyd i’r gwaith O ba bryd y gallwch gael eich oriau Pryd i wneud caisÌý
Rhwng 1 Hydref a 31 Ionawr 1 Ionawr 1 Medi i 31 Rhagfyr
Rhwng 1 Chwefror a 30 Ebrill 1 Ebrill 1 Ionawr i 31 Mawrth
Rhwng 1 Mai i 30 Medi 1 Medi 1 Ebrill i 31 Awst

Os ydych ar absenoldeb ar y cyd i rieni ar gyfer y plentyn rydych yn gwneud cais amdano

Gallwch wneud cais os bydd un ohonoch yn dychwelyd i’r gwaith o fewn mis i ddechrau tymor yr hydref, y gwanwyn neu’r haf. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i un ohonoch ddychwelyd erbyn:

  • 30 Medi
  • 31 IonawrÌý
  • 30 EbrillÌý

Gall y rhiant arall aros ar absenoldeb ar y cyd i rieni tan ddyddiad diweddarach.

Pryd i wneud cais os byddwch yn dechrau swydd newydd

Gallwch wneud cais am ofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn dechrau swydd newydd. Bydd y dyddiad y byddwch yn dechrau yn effeithio ar ba bryd y gallwch gael gofal plant sy’n rhad ac am ddim.Ìý

Gallwch wneud cais o’r adeg pan fydd eich plentyn yn 23 wythnos oed. Bydd y dyddiad pryd y cewch chi eich oriau yn dibynnu ar y dyddiad y bydd eich plentyn yn troi’n 9 mis oed.

Os ydych yn gwneud cais dros 31 diwrnod cyn i chi ddechrau eich swydd newydd, mae angen i chi gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i gael cymorth gyda’ch cais.

Dyddiad dechrau gweithio O ba bryd y gallwch gael eich oriau Pryd i wneud cais
Rhwng 1 Hydref i 31 Ionawr 1 Ionawr 1 Medi i 31 Rhagfyr
Rhwng 1 Chwefror a 30 Ebrill 1 Ebrill 1 Ionawr i 31 Mawrth
Rhwng 1 Mai i 30 Medi 1 Medi 1 Ebrill i 31 Awst

5. Gwneud cais am ofal plant sy’n rhad ac am ddim

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud cais am ofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio ac yn byw yn Lloegr.

Os yw eich plentyn rhwng 2 a 3 oed a rydych yn cael cymorth ychwanegol, bydd angen i chi gysylltu â’ch cyngor lleol cyn gwneud cais am ofal plant sy’n rhad ac am ddim i rieni sy’n gweithio. Cysylltwch â’r tîm blynyddoedd cynnar neu’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.

Os caiff eich cais ei gymeradwyo, byddwch yn cael cod 11 digid sy’n profi eich bod yn gymwys i gael gofal plant sy’n rhad ac am ddim. Bydd angen i chi roi’r cod hwn i’ch darparwr gofal plant.

Bydd CThEF yn gwirio a ydych yn gymwys i gael Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth pan fyddwch yn gwneud cais am ofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio.

Yr hyn sydd ei angen arnoch i wneud cais

Bydd angen y canlynol arnoch chi (ynghyd â rhai eich partner, os oes gennych un):

  • rhif Yswiriant Gwladol
  • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), os ydych chi’n hunangyflogedig (os oes gennych UTR)

Bydd angen y canlynol arnoch hefyd:

  • cyfeirnod tystysgrif geni’r DU (os oes gennych un) ar gyfer unrhyw blentyn rydych yn gwneud cais ar ei gyfer
  • y dyddiad y gwnaethoch ddechrau gweithio, neu’r dyddiad yr ydych yn bwriadu dechrau gweithio (gall y dyddiad hwn fod yn amcangyfrif os yw’n bellach na 3 mis yn ôl)

Os ydych yn gyfarwyddwr

Bydd angen i chi ddangos eich bod yn bodloni’r gofynion o ran isafswm incwm er mwyn bod yn gymwys. Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn ceisio gwirio hyn gan ddefnyddio’ch cofnodion TWE.

Os nad ydych yn cyflwyno gwybodaeth TWE yn rheolaidd, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi ddarparu tystiolaeth i ddangos eich bod yn gweithio ac yn disgwyl bodloni’r gofynion o ran isafswm incwm am y 3 mis nesaf. Er enghraifft:

  • slipiau cyflog
  • cyfriflenni banc
  • datganiad gan eich cyfrifydd
  • copïau o anfonebau

Os nad ydych yn cael eich talu’n rheolaidd (er enghraifft, unwaith y flwyddyn) mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi anfon tystiolaeth arall i brofi y byddwch yn bodloni’r gofynion o ran isafswm incwm, megis:

  • slipiau cyflog blynyddol
  • y gyflogres ar ddiwedd blwyddyn
  • llythyr gan eich asiant neu’ch ymgynghorydd treth yn cadarnhau bod eich cyflog wedi cael ei dalu a’i drethu

Bydd angen i chi wneud hyn pan fyddwch yn gwneud cais am y tro cyntaf, a phob tro y byddwch yn ail-gadarnhau eich bod yn gymwys.

Os oes gennych bartner

Mae’n rhaid i chi gynnwys eich partner yn eich cais os ydych naill ai:

  • yn briod neu mewn partneriaeth sifil ac yn byw gyda’ch gilydd
  • yn byw gyda’ch gilydd fel pe baech yn briod neu mewn partneriaeth sifil

Ni fydd ei gyflogaeth na’i incwm yn effeithio ar eich cymhwystra os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae’n absennol, neu mi fydd yn absennol, o’ch aelwyd am fwy na 6 mis
  • mae’n garcharor

Ni allwch chi a’ch partner fod â chod ar gyfer yr un plentyn.

Os ydych wedi gwahanu

Mae angen i chi a’ch cyn-bartner benderfynu pwy ddylai wneud cais os ydych chi’n gyd-gyfrifol am eich plentyn.

Os na allwch benderfynu, bydd angen i’r ddau ohonoch wneud cais ar wahân a bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn penderfynu pwy fydd yn cael cod gofal plant.

Gwneud cais

I wneud cais, bydd angen i chi greu cyfrif gofal plant.

Fel arfer, mae’n cymryd 20 munud i wneud cais.

Os nad ydych chi wedi gallu defnyddio’r gwasanaeth

Efallai y gallwch hawlio iawndal os ydych chi wedi cael problemau technegol gyda’ch cyfrif.

Ar ôl i chi wneud cais

Fel arfer, byddwch yn cael gwybod ar unwaith a ydych yn gymwys, ond mae’n gallu cymryd hyd at 7 diwrnod.

Unwaith bydd eich cais wedi’i gymeradwyo

Byddwch yn cael cod 11 digid yn eich cyfrif gofal plant.

Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi drwy neges destun neu e-bost fod y cod yn eich cyfrif.

Rhowch y cod i’ch darparwr ynghyd â’r canlynol:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • dyddiad geni eich plentyn

Os nad ydych wedi clywed gan CThEF

Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os gwnaethoch gais dros 7 diwrnod yn ôl ac nad ydych wedi clywed gan CThEF ers hynny.

Ail-gadarnhau eich bod yn gymwys

Er mwyn parhau i gael gofal plant sy’n rhad ac am ddim, mae’n rhaid i chi gadarnhau bod eich manylion yn gyfredol drwy fewngofnodi i’ch cyfrif gofal plant bob 3 mis.

Os byddwch yn gwneud cais fwy na 3 mis cyn i’r tymor ddechrau, bydd yn rhaid i chi ail-gadarnhau eich bod yn gymwys yn eich cyfrif er mwyn cadw eich cod yn ddilys.

6. Cadarnhau bod eich manylion cyswllt wedi’u diweddaru

Er mwyn parhau i gael gofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio, mae’n rhaid i chi fewngofnodi i’ch cyfrif gofal plant bob 3 mis a chadarnhau bod eich manylion yn gyfredol.

Byddwch wedyn yn cael cod 11 digid i’w roi i’ch darparwr gofal plant.

Gallwch hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i fewngofnodi i’ch cyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth i wneud y canlynol:

  • talu arian i mewn i’ch cyfrif
  • talu’ch darparwr gofal plant
  • gwneud cais am blentyn newydd

Mae yna ffordd wahanol o fewngofnodi os ydych yn ddarparwr gofal plant.

Mewngofnodi

Mewngofnodi i gadarnhau bod eich manylion yn gyfredol.

Os nad ydych chi wedi gallu defnyddio’r gwasanaeth

Efallai y gallwch hawlio iawndal os ydych chi wedi cael problemau technegol gyda’ch cyfrif.