Cael gofal plant - sy鈥檔 rhad ac am ddim os ydych yn gweithio
Yr hyn y byddwch yn ei gael
Mae nifer yr oriau o ofal plant sy鈥檔 rhad ac am ddim a gewch yn dibynnu ar oedran eich plentyn.
Os yw鈥檆h plentyn rhwng 9 mis a 2 flwydd oed
Ar hyn o bryd, mae plant rhwng 9 mis a 2 flwydd oed yn cael 15 awr o ofal plant sy鈥檔 rhad ac am ddim bob wythnos am 38 wythnos y flwyddyn.
Bydd hyn yn cynyddu i 30 awr yr wythnos o fis Medi 2025 ymlaen. Gan fod y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am 15 awr o ofal plant sy鈥檔 rhad ac am ddim wedi mynd heibio, byddwch nawr yn gwneud cais am 30 awr yn lle hynny.
Efallai y byddwch yn gallu cael gofal plant sy鈥檔 rhad ac am ddim am fwy na 38 wythnos y flwyddyn os byddwch yn dewis llai o oriau dros fwy o wythnosau.
Holwch eich darparwr gofal plant i weld a yw hyn yn rhywbeth mae鈥檔 ei gynnig.
Os ydych eisoes yn cael 15 awr o ofal plant sy鈥檔 rhad ac am ddim
Byddwch yn cael 30 awr o ofal plant sy鈥檔 rhad ac am ddim yn awtomatig o fis Medi ymlaen, cyn belled 芒鈥檆h bod yn dal i fod yn gymwys. Bydd angen i chi gadarnhau bod eich manylion yn gyfredol yn y ffordd arferol a rhoi鈥檙 cod i鈥檆h darparwr gofal plant.
Os yw eich plentyn rhwng 2 a 3 mlwydd oed a鈥檆h bod yn cael cymorth ychwanegol
Gallwch gael 30 awr o ofal plant sy鈥檔 rhad ac am ddim drwy 2 gynllun ar wah芒n os yw鈥檙 ddau amod canlynol yn berthnasol:
- rydych yn gymwys i gael gofal plant sy鈥檔 rhad ac am ddim i rieni sy鈥檔 gweithio
- rydych chi, neu鈥檆h plentyn, yn cael cymorth ychwanegol
O fis Medi 2025 ymlaen, byddwch yn cael:
- 15 awr yr wythnos drwy鈥檙 cynllun gofal plant sy鈥檔 rhad ac am ddim i rieni sy鈥檔 gweithio
- 15 awr yr wythnos os ydych chi neu鈥檆h plentyn yn cael cymorth ychwanegol (byddwch yn parhau i gael yr oriau hyn hyd yn oed os nad ydych bellach yn gymwys i gael gofal plant sy鈥檔 rhad ac am ddim)
Byddwch yn cael y 30 awr hyn am 38 wythnos y flwyddyn. Efallai y byddwch yn gallu cael gofal plant sy鈥檔 rhad ac am ddim am fwy na 38 wythnos y flwyddyn os byddwch yn dewis llai o oriau dros fwy o wythnosau.
I wneud cais, bydd angen i chi gysylltu 芒鈥檙 t卯m blynyddoedd cynnar neu鈥檙 Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd sydd yn rhan o鈥檆h cyngor lleol.
Yr hyn sy鈥檔 cyfrif fel cymorth ychwanegol
Ystyrir eich bod yn rhywun sy鈥檔 cael cymorth ychwanegol os yw unrhyw un o鈥檙 amodau canlynol yn berthnasol i chi:
- rydych yn cael Credyd Cynhwysol, ac mae incwm eich aelwyd yn 拢15,400 y flwyddyn neu lai ar 么l treth, heb gynnwys budd-daliadau
- mae gan eich plentyn gynllun Addysg a Gofal Iechyd
- mae eich plentyn yn cael Lwfans Byw i鈥檙 Anabl
- mae eich plentyn wedi gadael gofal o dan orchymyn mabwysiadu, gorchymyn gwarcheidwadaeth arbennig neu orchymyn trefniadau plentyn
Os yw鈥檆h plentyn rhwng 3 a 4 blwydd oed
Gallwch gael 30 awr o ofal plant sy鈥檔 rhad ac am ddim bob wythnos am 38 wythnos y flwyddyn.
Efallai y byddwch yn gallu cael gofal plant sy鈥檔 rhad ac am ddim am fwy na 38 wythnos y flwyddyn os byddwch yn dewis llai o oriau dros fwy o wythnosau.
Holwch eich darparwr gofal plant i weld a yw hyn yn rhywbeth mae鈥檔 ei gynnig.
Pethau y gallai fod angen i chi dalu amdanynt
Er bod y gofal plant yn rhad ac am ddim, mae鈥檔 bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu am rai costau ychwanegol, fel y canlynol:
- prydau bwyd
- cewynnau
- oriau ychwanegol
- gweithgareddau ychwanegol, megis teithiau
Ni ddylai鈥檆h darparwr godi ffi gofrestru arnoch nad oes modd ei had-dalu nac unrhyw ffi atodol i dalu am gost eich gofal plant sy鈥檔 rhad ac am ddim.
Holwch eich darparwr ynghylch unrhyw gostau ychwanegol y bydd yn rhaid i chi eu talu.