Rhoi gwybod i DVLA eich bod wedi gwerthu, trosglwyddo neu brynu cerbyd
Rhoi gwybod i DVLA nad ydych yn berchen ar gerbyd bellach, neu eich bod yn prynu cerbyd fel ceidwad cofrestredig neu fasnachwr moduron.
Mae鈥檙 dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i:
- newid ceidwad cofrestredig cerbyd
- anfon llyfr log at y ceidwad newydd
Ar 么l ichi roi gwybod i DVLA, bydd eich treth cerbyd yn cael ei ganslo. Byddwch yn cael ad-daliad am unrhyw fisoedd llawn o dreth cerbyd sy鈥檔 weddill.
Ni allwch ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth hwn os:
-
ydych wedi anfon eich llyfr log (V5CW) yn barod drwy鈥檙 post
-
nad oes gennych lyfr log
Os nad oes gennych lyfr log
Mae angen ichi wneud cais am dystysgrif gofrestru cerbyd (ffurflen V62W) os ydych wedi prynu cerbyd heb lyfr log.
Os ydych wedi gwerthu neu drosglwyddo cerbyd heb lyfr log, rhaid ichi ysgrifennu i DVLA gyda鈥檙 canlynol:
- eich enw a chyfeiriad
- y rhif cofrestru cerbyd
- y听 gwneuthuriad a model
- union ddyddiad y gwerthiant
- enw a chyfeiriad y ceidwad newydd neu鈥檙 masnachwr moduron
听
DVLA
Abertawe
SA99 1BA
Rhoi gwybod i DVLA ar-lein
Mae鈥檙 gwasanaeth hwn ar gael:
-
o ddydd Llun i ddydd Gwener, 7am i 9pm听
-
ar ddydd Sadwrn a dydd Sul, 7am i 8pm
Mae鈥檔 rhaid ichi drethu cerbyd rydych wedi ei brynu cyn ichi ei yrru, neu ei ddatgan fel oddi ar y ffordd (HOS). Ni fydd y dreth yn trosglwyddo ichi pan rydych yn prynu鈥檙 cerbyd.