Sut i herio

Ar gyfer eiddo yng Nghymru a Lloegr, defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein i wneud her. Gallwch ddefnyddio hwn p’un a oes gennych hawl gyfreithiol i herio ai peidio.

Efallai y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i gefnogi eich achos.

Gwiriwch .

Rhaid i chi barhau i dalu y Dreth Gyngor tra bod eich her yn cael ei hadolygu.

Herio ar ran rhywun arall

Gallwch herio band Treth Gyngor rhywun ar eu rhan os ydynt wedi eich apwyntio fel ‘cynrychiolydd’ mewn ffurflen Awdurdod i Weithredu.

Yn dilyn hyn, bydd angen i chi lenwi Ffurflen herio Treth Gyngor ar eu rhan – gallwch ddefnyddio y gwasanaeth ar-lein.

Anfonwch y ddwy ffurflen wedi’u cwblhau i Asiantaeth y Swyddfa Brisio (ASB) ar e-bost neu drwy’r post, gyda’i gilydd ar yr un pryd.

Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein

I ofyn i eiddo gael ei dynnu oddi ar restr y Dreth Gyngor, bydd angen i chi lenwi ffurflen her y Dreth Gyngor yn lle hynny.

I herio band Treth Gyngor, gallwch hefyd ffonio neu e-bostio Asiantaeth y Swyddfa Brisio (ASB). Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth pan fyddwch yn cysylltu â nhw.

Cysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Valuation Office Agency
Wycliffe House
Green Lane
Durham
DH1 3UW
ctinbox@voa.gov.uk
Ffôn (Lloegr): 03000 501 501
Ffôn (Cymru): 03000 505 505
Llun i Gwener, 9:00am to 4:30pm
Dewch o hyd i wybodaeth am gost galwadau