Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) i blant
Sut i wneud cais
I wneud cais am DLA am blentyn mae angen i chi fod yn rhiant iddynt neu’n gofalu amdanynt fel petaech yn rhiant iddynt. Mae hyn yn cynnwys llys-rieni, gwarcheidwaid, neiniau a theidiau, rhieni maeth neu frodyr neu chwiorydd hŷn.
Gallwch wneud cais drwy naill ai:
- argraffu a chwblhau’r ffurflen DLA
- ffonio’r llinell gymorth Lwfans Byw i;r Anabl a gofyn iddynt am ffurflen wedi’i hargraffu
Llinell gymorth Lwfans Byw i’r Anabl
Ffôn: 0800 121 4600
Ffôn testun: 0800 121 4523
(os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 then 0800 121 4600
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
Os yw’ch plentyn yn byw yng Ngogledd Iwerddon, gwnewch gais am . Os yw’ch plentyn yn byw yn yr Alban, .
Os yw’ch plentyn yn symud o’r Alban i Gymru neu Loegr
Bydd eich Taliad Anabledd Plant yn dod i ben 13 wythnos ar ôl i’ch plentyn symud
Gwnewch gais am DLA i blant cyn gynted â phosibl ar ôl symud neu gall eich taliadau cael eu heffeithio.
Pryd y byddwch yn cael eich talu
Gellir talu DLA o ddechrau eich cais. Ni ellir ei ôl-ddyddio. Bydd eich cais yn cychwyn ar y dyddiad y derbynnir y ffurflen neu’r dyddiad y byddwch yn ffonio’r llinell ymholi (os dychwelwch y pecyn hawlio cyn pen 6 wythnos).
Ar ôl i chi wneud cais, fe gewch lythyr o fewn 3 wythnos sy’n esbonio pa mor hir y bydd yn ei gymryd i gael penderfyniad. Ar ôl i’r penderfyniad gael ei wneud, fe gewch lythyr arall a fydd yn dweud wrthych pryd y byddwch yn cael eich taliad cyntaf.
Os gallai fod gan y plentyn 12 mis neu’n llai i fyw
Mae rheolau arbennig os ydy gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud gall fod gan y plentyn 12 mis neu’n llai i fyw, felly gallant gael DLA yn gyflymach.
Ffoniwch linell gymorth y Lwfans Byw i’r Anabl i gychwyn eich cais. Gofynnwch i feddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol arall am ffurflen SR1. Byddant naill ai’n ei llenwi ac yn rhoi’r ffurflen i chi neu’n ei hanfon yn uniongyrchol i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad
Gallwch herio penderfyniad ynghylch eich cais. Gelwir hyn yn gofyn am ailystyriaeth orfodol.