Pensiwn y Wladwriaeth os ydych yn ymddeol dramor
Gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth dramor
Gallwch wneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth dramor os ydych wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol y DU i fod yn gymwys.
Efallai y byddwch hefyd yn gymwys os rydych wedi byw neu weithio dramor.
Dylech gael Rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth os ydych angen darganfod faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English)
Gwneud cais
Rhaid i chi fod o fewn 4 mis i’ch oedran Pensiwn y Wladwriaeth i wneud cais.
I wneud cais am eich pensiwn, gallwch naill ai:
- gysylltu â’r Ganolfan Bensiwn Ryngwladol
- anfon y ffurflen gais ryngwladol i’r Ganolfan Bensiwn Ryngwladol (mae’r cyfeiriad ar y ffurflen)
Os ydych eisiau hawlio pensiwn y wladwriaeth o wlad arall
Os oeddech yn byw neu’n gweithio dramor, efallai y byddwch yn gallu hawlio pensiwn y wladwriaeth dramor cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn y DU.
Cysylltwch â’r awdurdod pensiwn yn y wlad rydych yn byw ynddi. Efallai y gallant hysbysu cynlluniau pensiwn y wladwriaeth yn y gwledydd rydych wedi byw neu weithio ynddynt.
Bydd y cynlluniau yn cysylltu â chi os ydych yn gymwys.
Cysylltwch â’r Ganolfan Bensiwn Ryngwladol os oes angen help arnoch gyda’ch cais.
Os ydych yn byw rhan o’r flwyddyn dramor
Mae’n rhaid i chi ddewis ym mha wlad rydych am i’ch pensiwn gael ei dalu ynddi. Ni allwch gael eich talu mewn un wlad am ran o’r flwyddyn ac un arall am weddill y flwyddyn.
Cyfrifon banc y gellir talu eich pensiwn iddynt
Gellir talu eich Pensiwn y Wladwriaeth i:
- fanc yn y wlad rydych yn byw ynddi
- banc neu gymdeithas adeiladu yn y DU
Gallwch ddefnyddio:
- cyfrif yn eich enw chi
- cyfrif ar y cyd
- cyfrif rhywun arall - os oes gennych eu caniatâd ac yn cadw at delerau ac amodau’r cyfrif
Os oes gennych gyfrif tramor
Bydd angen y canlynol arnoch:
- rhif y cyfrif banc rhyngwladol (IBAN)
- Cod Adnabod Busnes (BIC), a elwir gynt yn God Adnabod Banc
Os dewiswch gael eich talu yn eich arian cyfred lleol, bydd y swm yn cael ei drosi gan ddefnyddio’r gyfradd gyfnewid ar adeg y trosiant. Mae tâl trosi o 0.39% cyn y taliad.
Os dewiswch gael eich talu mewn punt sterling, ni fydd unrhyw dâl.
Pryd fyddwch yn cael eich talu
Gallwch ddewis cael eich talu bob 4 neu 13 wythnos.
Os yw eich Pensiwn y Wladwriaeth o dan £5 yr wythnos, byddwch yn cael eich talu unwaith y flwyddyn ym mis Rhagfyr.
Oedi i daliadau
Os ydych yn byw dramor a bod eich taliad yn ddyledus yn yr un wythnos â , gallai gyrraedd un diwrnod yn hwyr. Mae hyn oherwydd bod cwmni o’r Unol Daleithiau yn prosesu’r taliadau hyn.
Os yw dyddiad eich taliad yn disgyn ar ŵyl gyhoeddus neu ŵyl banc lle rydych chi’n byw, efallai y bydd yn cael ei oedi.