Pwyntiau cosb (ardystiadau)
Gyrwyr newydd
Bydd eich trwydded yn cael ei chanslo (diddymu) os byddwch yn cael 6 neu fwy o bwyntiau o fewn 2 flynedd ichi basio鈥檆h prawf.
Pwyntiau ar eich trwydded dros dro
Bydd unrhyw bwyntiau cosb ar eich trwydded dros dro sydd heb ddod i ben yn cael eu trosglwyddo drosodd i鈥檆h trwydded lawn pan fyddwch yn pasio鈥檆h prawf. Fodd bynnag, bydd eich trwydded yn cael ei chanslo os cewch unrhyw bwyntiau cosb pellach sy鈥檔 mynd 芒 chi hyd at gyfanswm o 6 neu fwy o fewn 2 flynedd ichi basio鈥檆h prawf gyrru.
Os caiff eich trwydded ei chanslo o fewn 2 flynedd
Bydd yn rhaid ichi wneud cais a thalu am drwydded dros dro newydd a phasio鈥檙 rhannau theori ac ymarferol o鈥檙 prawf gyrru neu reidio eto i gael trwydded lawn.
Os nad ydych wedi anfon am eich trwydded lawn
Mae鈥檔 rhaid ichi ail-sefyll y ddwy ran o鈥檆h prawf gyrru os ydy鈥檆h trwydded wedi cael ei chanslo ar 么l ichi basio eich prawf, ond nid ydych wedi anfon am eich trwydded lawn eto. Gallwch ddefnyddio eich trwydded yrru dros dro bresennol i sefyll y profion.
Pwy sy鈥檔 cael eu cynnwys yn y rheolau
Mae鈥檙 rheolau hyn yn berthnasol i bob gyrrwr newydd a basiodd ei brawf gyrru cyntaf yn y canlynol:
-
Prydain Fawr
-
Gogledd Iwerddon
-
Ynys Manaw
-
Ynysoedd y Sianel
-
Gibraltar
-
Y Gymuned Ewropeaidd (CE) a鈥檙 Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE)
Y gwledydd CE/AEE yw:
Awstria, Gwlad Belg, Bwlgaria, Croatia, Gweriniaeth Cyprus, y Weriniaeth Tsiec, Denmarc, Estonia, y Ffindir, Ffrainc, yr Almaen, Gwlad Groeg, Hwngari, Gwlad yr I芒, Iwerddon, yr Eidal, Latfia, Liechtenstein, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, Yr Iseldiroedd, Norwy, Gwlad Pwyl, Portiwgal, Romania, Slofenia, Slofacia, Sbaen a Sweden.
Nid oes cyfnod 2 flynedd arall os byddwch yn pasio prawf am gategori arall o gerbyd, er enghraifft i yrru cerbyd nwyddau trwm.
Trwyddedau tramor
Mae鈥檙 rheolau hefyd yn berthnasol os ydych yn cyfnewid trwydded yrru dramor am drwydded Brydeinig ac yna pasio prawf gyrru pellach ym Mhrydain Fawr.