Treuliau os ydych yn hunangyflogedig

Printable version

1. Trosolwg

Os ydych yn hunangyflogedig, bydd gan eich busnes amryw o gostau rhedeg, a elwir hefyd yn ‘treuliau’.

Rydych yn ‘hunangyflogedig’, os ydych naill ai’n:Ìý

  • unig fasnachwrÌý

  • unigolyn mewn partneriaeth fusnes

Gallwch ddidynnu’r costau hyn i gyfrifo’ch elw trethadwy, cyn talu Treth Incwm cyn belled â’u bod yn dreuliau caniataol.

Er enghraifft, os yw’ch trosiant yn £40,000 ac rydych yn hawlio £10,000 mewn treuliau caniataol, byddwch ond yn talu Treth Incwm ar y £30,000 sy’n weddill – sef eich ‘elw trethadwy’.

Nid yw treuliau caniataol yn cynnwys arian a gymerir o’ch busnes at ddefnydd personol.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Cwmnïau cyfyngedig

Os ydych yn rhedeg cwmni cyfyngedig, nid ydych yn ‘hunangyflogedig’, hyd yn oed os mai chi yw’r perchennog a’r unig gyflogai.ÌýÌý

Gallwch ddidynnu costau rhedeg eich busnes (yn agor tudalen Saesneg) i gyfrifo’ch elw trethadwy cyn talu Treth Gorfforaeth.

Costau y gallwch eu hawlio fel treuliau caniataol

Os ydych yn hunangyflogedig, gallwch ond hawlio ar gyfer costau sy’n gysylltiedig â phryniannau busnes, gan gynnwys:

Ni allwch hawlio treuliau os ydych yn defnyddio’ch ‘lwfans masnachu’ rhydd o dreth gwerth £1,000.

Os nad ydych yn siŵr p’un ai yw cost busnes yn draul ganiataol neu beidio, cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF).

Costau y gallwch eu hawlio fel lwfansau cyfalaf

Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu traddodiadol, gallwch hawlio lwfansau cyfalaf pan rydych yn prynu’r canlynol:Ìý

  • offer

  • peiriannau

  • cerbydau busnes, er enghraifft ceir, faniau, lorïau, beiciau

Ni allwch hawlio lwfansau cyfalaf os ydych yn defnyddio’ch ‘lwfans masnachu’ rhydd o dreth gwerth £1,000.

Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod

Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg) ac yn prynu car ar gyfer eich busnes, gallwch hawlio lwfansau cyfalaf ar gost y pryniant. Fodd bynnag, dylid hawlio am bob eitem arall yr ydych yn ei phrynu ac yn ei chadw ar gyfer eich busnes fel traul ganiataol yn y modd arferol.

Os ydych yn defnyddio rhywbeth at ddibenion busnes a dibenion personol

Gallwch ond hawlio treuliau caniataol ar gyfer y costau busnes.

Enghraifft

Mae’ch biliau ffôn symudol am y flwyddyn yn dod i gyfanswm o £200. O’r swm hwn, rydych yn gwario £130 ar alwadau personol a £70 ar alwadau busnes.Ìý

Gallwch hawlio £70 fel treuliau busnes.

Os ydych yn gweithio gartref

Efallai y byddwch yn gallu hawlio cyfran o’ch costau am bethau fel:Ìý

  • costau gwresogi

  • costau trydan

  • Treth Gyngor

  • llog morgais neu rent

  • defnydd o’r rhyngrwyd a’r ffôn

Bydd angen i chi ddod o hyd i ddull rhesymol o rannu eich costau, er enghraifft drwy ystyried nifer yr ystafelloedd rydych yn eu defnyddio at ddibenion busnes neu faint o amser rydych yn ei dreulio’n gweithio gartref.

Enghraifft

Mae gennych 4 ystafell yn eich cartref, ac rydych yn defnyddio un o’r rheiny fel swyddfa’n unig.

Eich bil trydan am y flwyddyn yw £1120. Gan gymryd bod yr holl ystafelloedd yn eich cartref yn defnyddio symiau cyfartal o drydan, gallwch hawlio £280 fel treuliau caniataol (£1120 wedi ei rannu â 4).

Os ydych yn gweithio gartref am un diwrnod yr wythnos yn unig, gallech hawlio £40 fel treuliau caniataol (£280 wedi ei rannu â 7).

Treuliau symlach

Gallwch ddefnyddio treuliau symlach er mwyn osgoi defnyddio cyfrifiadau cymhleth i gyfrifo’ch treuliau busnes. Mae treuliau symlach yn gyfraddau unffurf y gellir eu defnyddio ar gyfer:

  • cerbydau

  • gweithio gartref

  • byw ar eich safle busnes

2. Swyddfa ac offer

Os ydych yn hunangyflogedig - yn fasnachwr unigol neu’n unigolyn mewn partneriaeth fusnes - gallwch hawlio eitemau y byddech fel arfer yn eu defnyddio am 2 flynedd neu lai fel treuliau caniataol, er enghraifft:

  • deunydd ysgrifennu

  • costau rhent, ardrethi, pŵer ac yswiriant

O ran yr offer yr ydych yn eu cadw i’w defnyddio yn eich busnes, er enghraifft cyfrifiaduron neu argraffwyr, gallwch eu hawlio fel:

Ni allwch hawlio ar gyfer unrhyw ddefnydd o’r safle, neu ddefnydd o’r ffonau neu adnoddau eraill o’r swyddfa os nad yw at ddibenion busnes.

Deunydd ysgrifennu

Gallwch hawlio treuliau ar gyfer costau fel:

  • biliau ffôn, ffôn symudol, ffacs neu ryngrwyd

  • costau postioÌý

  • deunydd ysgrifennuÌý

  • costau argraffuÌý

  • inc a chetris peiriant argraffuÌý

  • meddalwedd gyfrifiadurol y mae’ch busnes yn ei defnyddio am lai na 2 flynedd

  • meddalwedd gyfrifiadurol os yw’ch busnes yn gwneud taliadau rheolaidd i adnewyddu’r drwydded (hyd yn oed os ydych yn defnyddio’r feddalwedd hon am fwy na 2 flynedd)

Gallwch hawlio meddalwedd arall ar gyfer eich busnes fel lwfansau cyfalaf, oni bai eich bod yn defnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg).

Os nad ydych yn siŵr p’un ai yw cost busnes yn draul ganiataol neu beidio, cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF).

Costau rhent, ardrethi, pŵer ac yswiriant

Gallwch hawlio treuliau ar gyfer costau fel:

  • rhent ar gyfer safle busnesÌý

  • ardrethi busnes a threthi dŵrÌý

  • biliau cyfleustodauÌýÌý

  • yswiriant eiddoÌý

  • »å¾±´Ç²µ±ð±ô·É³¦³óÌý

  • defnyddio’ch cartref fel swyddfa (dim ond y rhan a ddefnyddir at ddibenion busnes)

Os nad ydych yn siŵr p’un ai yw cost busnes yn draul ganiataol neu beidio, cysylltwch â CThEF.

Safle’r busnes

Os ydych yn adeiladu, prynu neu’n prydlesu strwythur, efallai y byddwch yn gallu hawlio lwfans strwythurau ac adeiladau.

Gallwch hawlio treuliau ar gyfer atgyweirio a chynnal a chadw safle busnes ac offer.

O ran addasiadau er mwyn gosod offer, neu er mwyn eu disodli, gallwch eu hawlio fel:

Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu traddodiadol, gallwch hawlio lwfansau cyfalaf ar gyfer rhai rhannau annatod o’r adeilad, er enghraifft systemau gwresogi dŵr.

Os nad ydych yn siŵr p’un ai yw cost busnes yn draul ganiataol neu beidio, cysylltwch â CThEF.

3. Treuliau car, fan a theithio

Os ydych yn hunangyflogedig - yn unig fasnachwr neu’n unigolyn mewn partneriaeth fusnes - gallwch hawlio treuliau busnes caniataol am gostau fel:

  • yswiriant cerbydÌý

  • atgyweiriadau a gwasanaethuÌý

  • tanwyddÌý

  • parcioÌý

  • costau hurioÌý

  • toll ecséis cerbydauÌý

  • yswiriant torri i lawr

  • tocynnau trên, tocynnau bws, tocynnau tram, tocynnau awyren a chostau tacsiÌý

  • ystafelloedd gwestyÌý

  • prydau bwyd ar deithiau busnes dros nos

Ni allwch hawlio ar gyfer:

  • costau moduro a theithio nad ydynt yn gysylltiedig â’r busnesÌý

  • dirwyon neu gosbau

  • teithio rhwng cartref a’r gwaith

Efallai y byddwch yn gallu cyfrifo’ch treuliau car, fan neu feic modur gan ddefnyddio cyfradd unffurf (a elwir yn ‘treuliau symlach’) i gyfrifo’r milltiroedd yn lle cyfrifo’r costau gwirioneddol o brynu a rhedeg eich cerbyd.

Os nad ydych yn siŵr p’un ai yw cost busnes yn draul ganiataol neu beidio, cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF).

Prynu cerbydau

Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu traddodiadol ac yn prynu cerbyd ar gyfer eich busnes, gallwch hawlio lwfansau cyfalaf ar gost y pryniant.

Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg) ac yn prynu car ar gyfer eich busnes, gallwch hawlio’r gost hon fel lwfans cyfalaf ar yr amod nad ydych yn defnyddio treuliau symlach.

Gallwch hawlio gost unrhyw fath arall o gerbyd fel traul ganiataol.

4. Treuliau dillad

Os ydych yn hunangyflogedig - yn unig fasnachwr neu’n unigolyn mewn partneriaeth fusnes - gallwch hawlio treuliau busnes caniataol am gostau fel:

  • gwisgoedd unffurfÌý

  • dillad amddiffynnol sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich gwaithÌý

  • gwisgoedd ar gyfer actorion neu ddiddanwyrÌý

Ni allwch hawlio ar gyfer dillad bob dydd (hyd yn oed os ydych eu gwisgo i’r gwaith).Ìý

Os nad ydych yn siŵr p’un ai yw cost busnes yn draul ganiataol neu beidio, cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF).

5. Treuliau staff

Os ydych yn hunangyflogedig - yn unig fasnachwr neu’n unigolyn mewn partneriaeth fusnes - gallwch hawlio treuliau busnes caniataol am gostau fel:

  • cyflogau staff

  • bonysauÌý

  • pensiynauÌý

  • buddiannauÌý

  • ffioedd asiantaethÌý

  • isgontractwyrÌý

  • Yswiriant Gwladol y cyflogwr

  • cyrsiau hyfforddi sy’n gysylltiedig â’ch busnes

Ni allwch hawlio ar gyfer gofalwyr neu help domestig, er enghraifft nanis.

Os nad ydych yn siŵr p’un ai yw cost busnes yn draul ganiataol neu beidio, cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF).

6. Ailwerthu nwyddau

Os ydych yn hunangyflogedig - yn unig fasnachwr neu’n unigolyn mewn partneriaeth fusnes - gallwch hawlio treuliau busnes caniataol am gostau fel:

  • nwyddau i’w hailwerthu (stoc)

  • deunyddiau craiÌý

  • costau uniongyrchol o gynhyrchu nwyddauÌý

Ni allwch hawlio ar gyfer:

  • unrhyw nwyddau neu ddeunyddiau a brynwyd at ddibenion preifatÌý

  • dibrisiad offerÌý

Os nad ydych yn siŵr p’un ai yw cost busnes yn draul ganiataol neu beidio, cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF).

7. Costau cyfreithiol ac ariannol

Os ydych yn hunangyflogedig - yn unig fasnachwr neu’n unigolyn mewn partneriaeth fusnes - gall ffioedd cyfrifyddu, cyfreithiol a ffioedd proffesiynol eraill gyfrif fel treuliau busnes caniataol.

Gallwch hawlio ar gyfer costau fel:

  • cyflogi cyfrifydd, cyfreithiwr, syrfëwr a phensaer at ddibenion busnes

  • premiymau yswiriant indemniad proffesiynolÌý

Ni allwch hawlio ar gyfer:

  • costau cyfreithiol a godwyd wrth brynu eiddo neu beiriannau – os ydych yn defnyddio cyfrifyddu traddodiadol, gallwch hawlio’r costau hyn fel lwfansau cyfalaf

  • dirwyon am dorri’r gyfraith

  • y gost o baratoi a chyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad

Os nad ydych yn siŵr p’un ai yw cost busnes yn draul ganiataol neu beidio, cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF).

Ffioedd banc, ffioedd cardiau credyd a ffioedd ariannol eraill

Gallwch hawlio ar gyfer costau busnes fel:ÌýÌý

  • ffioedd banc, ffioedd gorddrafft a ffioedd cardiau credydÌý

  • llog ar fenthyciadau banc a benthyciadau busnes

  • llog ar hurbwrcasÌý

  • taliadau prydlesiÌý

  • taliadau gan ddefnyddio cyllid amgen, er enghraifft ‘Islamic finance’

Ni allwch hawlio ar gyfer ad-daliadau o fenthyciadau, gorddrafftiau neu drefniadau ariannu.Ìý

Os nad ydych yn siŵr p’un ai yw cost busnes yn draul ganiataol neu beidio, cysylltwch â CThEF.

Polisïau yswiriantÌý

Gallwch hawlio ar gyfer unrhyw bolisi yswiriant ar gyfer eich busnes, er enghraifft yswiriant atebolrwydd cyhoeddus.

Os na fydd eich cwsmer yn eich talu

Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu traddodiadol, gallwch hawlio ar gyfer symiau o arian sydd wedi’u nodi yn eich trosiant, ond na fyddwch byth yn eu cael (‘drwgddyledion’). Fodd bynnag, gallwch dim ond dileu’r dyledion hyn os ydych yn sicr ni fyddant yn cael eu hadennill o’ch cwsmer yn y dyfodol.

Ni allwch hawlio ar gyfer:Ìý

  • dyledion sydd heb eu cynnwys yn eich trosiantÌý

  • dyledion sy’n gysylltiedig â gwaredu asedion sefydlog, er enghraifft tir, adeiladau, peiriannauÌý

  • drwgddyledion na chawsant eu cyfrifo’n iawn, er enghraifft ni allwch amcangyfrif bod eich dyledion yn hafal i 5% o’ch trosiant

Ni allwch hawlio ar gyfer drwgddyledion os ydych yn defnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg), oherwydd nid ydych wedi cael yr arian gan eich dyledwyr. Wrth ddefnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod, rydych ond yn cofnodi’r incwm rydych wedi’i gael yn wirioneddol ar eich Ffurflen Dreth.

8. Marchnata, adloniant a thanysgrifiadau

Os ydych yn hunangyflogedig - yn unig fasnachwr neu’n unigolyn mewn partneriaeth fusnes - gallwch hawlio treuliau busnes caniataol am gostau fel:

  • hysbysebu mewn papurau newydd neu gyfeirlyfrauÌý

  • hysbysebu mewn swmp ar un tro (ymgyrch bostio)

  • samplau yn rhad ac am ddimÌý

  • costau gwefan

Ni allwch hawlio ar gyfer:Ìý

  • gwesteia cleientiaid, cyflenwyr a chwsmeriaid

  • lletygarwch ar gyfer digwyddiadau

  • rhoddion, gan amlaf

Os nad ydych yn siŵr p’un ai yw cost busnes yn draul ganiataol neu beidio, cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF).

TanysgrifiadauÌý

Gallwch hawlio ar gyfer costau fel:Ìý

  • cylchgronau masnach neu gylchgronau proffesiynolÌý

  • aelodaeth â chorff masnachol neu sefydliad proffesiynol, os yw’n gysylltiedig â’ch busnesÌý

Ni allwch hawlio ar gyfer:Ìý

Os nad ydych yn siŵr p’un ai yw cost busnes yn draul ganiataol neu beidio, cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF).

9. Cyrsiau hyfforddi

Os ydych yn hunangyflogedig - yn unig fasnachwr neu’n unigolyn mewn partneriaeth fusnes - gallwch hawlio treuliau busnes caniataol am hyfforddiant sy’n eich helpu i wneud y canlynol:

  • gwella’ch sgiliau a’ch gwybodaeth ar gyfer eich busnes

  • bod yn ymwybodol o’r dechnoleg ddiweddaraf a ddefnyddir yn eich diwydiantÌý

  • datblygu sgiliau a gwybodaeth newydd sy’n gysylltiedig â newidiadau i’ch diwydiant

  • datblygu sgiliau a gwybodaeth newydd er mwyn helpu’ch busnes – gan gynnwys sgiliau gweinyddol

Ni allwch hawlio ar gyfer hyfforddiant sy’n eich helpu i wneud y canlynol:

  • dechrau busnes newydd

  • ehangu’ch busnes i faes newydd nad yw’n gysylltiedig â’ch diwydiant

Gallwch ddarllen yr enghreifftiau hyn ynghylch pa hyfforddiant y gallwch hawlio ar ei gyfer, a pha hyfforddiant na allwch hawlio ar ei gyfer (yn agor tudalen Saesneg).

10. Sut i hawlio

Bydd angen i chi gadw cofnodion o’ch holl dreuliau busnes fel tystiolaeth o’ch costau.

Rhowch wybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) am eich treuliau caniataol ar gyfer y flwyddyn dreth gan eu nodi ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Nid oes angen i chi anfon tystiolaeth o’ch treuliau pan fyddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth. Fodd bynnag, dylech gadw tystiolaeth a chofnodion fel y gallwch eu dangos i CThEF, os gofynnir i chi wneud hynny.

Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod eich cofnodion yn gywir.