Treuliau os ydych yn hunangyflogedig
Swyddfa ac offer
Gallwch hawlio ar gyfer eitemau y byddech yn eu defnyddio am 2 flynedd neu lai fel treuliau caniataol, er enghraifft:
- deunydd ysgrifennu
- costau rhent, ardrethi, p诺er ac yswiriant
O ran yr offer yr ydych yn eu cadw i鈥檞 defnyddio yn eich busnes, er enghraifft cyfrifiaduron neu argraffwyr, gallwch eu hawlio fel:
- treuliau caniataol os ydych yn defnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg)
- lwfansau cyfalaf os ydych yn defnyddio cyfrifyddu traddodiadol
Ni allwch hawlio ar gyfer unrhyw ddefnydd o鈥檙 safle, neu ddefnydd o鈥檙 ffonau neu adnoddau eraill o鈥檙 swyddfa os nad yw at ddibenion busnes.
Deunydd ysgrifennu
Gallwch hawlio treuliau ar gyfer costau fel:
- biliau ff么n, ff么n symudol, ffacs neu ryngrwyd
- costau postio
- deunydd ysgrifennu
- costau argraffu
- inc a chetris peiriant argraffu
- meddalwedd gyfrifiadurol y mae鈥檆h busnes yn ei defnyddio am lai na 2 flynedd
- meddalwedd gyfrifiadurol os yw鈥檆h busnes yn gwneud taliadau rheolaidd i adnewyddu鈥檙 drwydded (hyd yn oed os ydych yn defnyddio鈥檙 feddalwedd hon am fwy na 2 flynedd)
Gallwch hawlio meddalwedd arall ar gyfer eich busnes fel lwfansau cyfalaf, oni bai eich bod yn defnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg).
Os nad ydych yn si诺r p鈥檜n ai yw cost busnes yn draul ganiataol neu beidio, cysylltwch 芒 Chyllid a Thollau EF (CThEF).
Costau rhent, ardrethi, p诺er ac yswiriant
Gallwch hawlio treuliau ar gyfer costau fel:
- rhent ar gyfer safle busnes
- ardrethi busnes a threthi d诺r
- biliau cyfleustodau
- yswiriant eiddo
- diogelwch
- defnyddio鈥檆h cartref fel swyddfa (dim ond y rhan a ddefnyddir at ddibenion busnes)
Os nad ydych yn si诺r p鈥檜n ai yw cost busnes yn draul ganiataol neu beidio, cysylltwch 芒 CThEF.
Safle鈥檙 busnes
Os ydych yn adeiladu, prynu neu鈥檔 prydlesu strwythur, efallai y byddwch yn gallu hawlio lwfans strwythurau ac adeiladau.
Gallwch hawlio treuliau ar gyfer atgyweirio a chynnal a chadw safle busnes ac offer.
O ran addasiadau er mwyn gosod offer, neu er mwyn eu disodli, gallwch eu hawlio fel:
- treuliau caniataol os ydych yn defnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg)
- lwfansau cyfalaf os ydych yn defnyddio cyfrifyddu traddodiadol
Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu traddodiadol, gallwch hawlio lwfansau cyfalaf ar gyfer rhai rhannau annatod o鈥檙 adeilad, er enghraifft systemau gwresogi d诺r
Os nad ydych yn si诺r p鈥檜n ai yw cost busnes yn draul ganiataol neu beidio, cysylltwch 芒 CThEF.