Apelio i'r tribiwnlys

Gallwch apelio i鈥檙 tribiwnlys treth ar-lein neu drwy鈥檙 post.

Fel arfer mae gennych 30 diwrnod i apelio o ddyddiad eich llythyr penderfyniad.

Os byddwch yn methu鈥檙 dyddiad terfyn yna bydd angen i chi egluro pam bod eich ap锚l yn hwyr. Bydd barnwr yn penderfynu os gellir derbyn eich ap锚l hwyr.

Fe ddychwelir eich cais i chi os yw rhywbeth ar goll neu os nad yw鈥檔 gyflawn.

Apelio ar-lein

Bydd arnoch angen:

  • sgan neu lun o鈥檆h hysbysiad gwreiddiol neu lythyr casgliad adolygiad
  • rhesymau dros eich ap锚l, fel y gall y barnwr ddeall eich ochr chi o鈥檙 ddadl

Gallwch hefyd ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth hwn i wneud cais i gau ymholiad.

Apelio drwy鈥檙 post

Lawrlwythwch a llenwch ffurflen hysbysiad o ap锚l (T240).

Os ydych yn gwneud cais i gau ymholiad sy鈥檔 bodoli鈥檔 barod, lawrlwythwch a llenwch ffurflen gais (T245).

Anfonwch eich ffurflen wedi鈥檌 llenwi i鈥檙 tribiwnlys. Mae鈥檙 cyfeiriad ar y ffurflen.

Os ydych eisiau i rywun eich cynrychioli

Mae angen i chi lawrlwytho a llenwi ffurflen awdurdodi os nad yw鈥檙 unigolyn sy鈥檔 eich cynrychioli yn gyfreithiwr neu鈥檔 fargyfreithwr sy鈥檔 ymarfer.

Os oes angen help arnoch

Cysylltwch 芒鈥檙 tribiwnlys treth os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich ap锚l. Ni all y tribiwnlys roi cyngor cyfreithiol i chi.

Tribiwnlys treth
ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk
Ff么n: 0300 303 5857
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 4pm
Gwybodaeth am gost galwadau

Beth fydd yn digwydd nesaf

Cewch lythyr gan y tribiwnlys yn esbonio beth fydd yn digwydd nesaf. Efallai y gofynnir i chi ddarparu mwy o ddogfennau i gefnogi eich achos.

Ni fydd pob achos yn cael gwrandawiad, ond gallwch ofyn am un. Fel arfer, byddwch yn cael o leiaf 14 diwrnod o rybudd o ddyddiad y gwrandawiad. Bydd y tribiwnlys yn ysgrifennu atoch gyda manylion yr hyn y mae angen i chi ei wneud.