Apelio i'r tribiwnlys treth
Printable version
1. Trosolwg
Gallwch apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf (Treth) os ydych am herio rhai penderfyniadau gan:
- Gyllid a Thollau EF (CThEF)
- Llu’r Ffiniau
- Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA)
- Awdurdod Cyllid Cymru (WRA)
- Y Comisiwn Hapchwarae (dim ond
Mae’r tribiwnlys yn annibynnol ar y llywodraeth, CThEF, Llu’r Ffiniau, NCA, WRA a’r Comisiwn Hapchwarae. Bydd yn gwrando ar ddwy ochr y ddadl cyn gwneud penderfyniad.
Os byddwch yn apelio gall y tribiwnlys:
- wneud penderfyniad newydd
- gofyn i’r sefydliad edrych ar y penderfyniad eto
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Cyn i chi apelio
Gallwch ofyn i rai penderfyniadau treth gael eu hadolygu. Gall hyn fod yn gyflymach ac yn rhatach nag apelio i’r tribiwnlys.
Gallwch:
Os nad ydych yn cytuno â’r canlyniad yna gallwch dal apelio i’r tribiwnlys.
Apelio yn erbyn penderfyniad CThEF
Gallwch apelio yn erbyn y rhan fwyaf o benderfyniadau ynghylch ‘treth uniongyrchol’ a ‘threth anuniongyrchol’.
Mae treth uniongyrchol yn cynnwys:
- Treth Incwm
- Treth Talu Wrth Ennill
- Treth Gorfforaeth
- Treth Enillion Cyfalaf
- Cyfraniadau Yswiriant Gwladol
- Treth Etifeddiant
Mae treth anuniongyrchol yn cynnwys:
- Treth ar Werth
- Toll Gartref
- Toll Dramor
Mae sut yr ydych yn apelio yn erbyn penderfyniad yn dibynnu ar p’un a yw’n ymwneud â threth uniongyrchol neu dreth anuniongyrchol.
Mae’n rhaid i chi apelio yn erbyn penderfyniadau ynghylch treth uniongyrchol i CThEF cyn y gallwch apelio i’r tribiwnlys.
Gan amlaf, gallwch apelio yn erbyn penderfyniadau ynghylch treth anuniongyrchol yn syth i’r tribiwnlys.
Gallwch hefyd wneud cais am ddull amgen o ddatrys anghydfod.
Mae yna ffordd wahanol i apelio yn erbyn penderfyniadau ynghylch credydau treth a Treth y Cyngor.
Oedi talu tra byddwch yn apelio
Gallwch ofyn i oedi cyn talu bil treth os ydych yn gwneud apêl i’r tribiwnlys treth. Fel arfer codir llog arnoch os byddwch yn colli eich apêl.
Gallwch dal apelio i’r tribiwnlys os na allwch dalu eich bil treth - peidiwch ag aros hyd nes y bydd CThEF wedi cytuno y gallwch beidio â thalu am y tro. Mae’n rhaid i chi ddweud wrth y tribiwnlys os ydych wedi gofyn i gael oedi talu pan fyddwch yn apelio.
Os byddwch yn gofyn i gael oedi talu ar ôl i chi gyflwyno eich apêl, yna mae angen i chi gysylltu â’r tribiwnlys treth i roi gwybod iddynt.
Tribiwnlys treth
ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk
Rhif ffôn: 0300 303 5857
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 4pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Nid oes rhaid i chi dalu ar unwaith os ydych chi’n apelio yn erbyn cosb.
Apêl am nwyddau wedi’u hatafaelu
Rhaid i chi ofyn i Lu’r Ffiniau neu CThEF fynd â’ch achos i’r llys ynadon (gelwir hyn yn dechrau ‘achos condemnio’) os credwch na ddylent fod wedi cymryd (neu ‘atafaelu’) eich nwyddau.
Efallai y gallwch apelio i’r tribiwnlys os yw Llu’r Ffiniau neu CThEF:
- yn gwrthod dychwelyd eich nwyddau wedi’u hatafaelu
- yn dweud bod angen i chi dalu i gael eich nwyddau wedi’u hatafaelu yn ôl
Cyn y gallwch apelio yn erbyn gwrthod dychwelyd eich nwyddau wedi’u hatafaelu, rhaid i chi ofyn i naill ai Llu’r Ffiniau neu CThEF adolygu eu penderfyniad. Os ydych wedi methu’r terfyn amser ar gyfer adolygiad, gallwch wneud cais i’r tribiwnlys i gael caniatâd i ofyn am adolygiad hwyr.
Os gofynnwyd i chi dalu toll neu gosb
Efallai y gallwch apelio os yw CThEF:
- yn anfon asesiad ar gyfer toll atoch
- yn gosod cosb arnoch
Cyn i chi apelio, fel arfer bydd yn rhaid i chi dalu am asesiad toll. Os na allwch, gallwch wneud cais i CThEF i ohirio ei dalu tan ar ôl i’r apêl ddod i ben.
Nid oes angen i chi dalu cosb cyn i chi apelio.
Apelio yn erbyn penderfyniad gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA)
Gall NCA wirio’ch ffurflen dreth yn lle CThEF mewn rhai achosion.
Gallwch wneud apêl os nad ydych yn cytuno â’r penderfyniad trwy ysgrifennu at NCA. Mae’n rhaid i chi apelio i’r NCA cyn y gallwch apelio i’r tribiwnlys.
Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol / National Crime Agency
Units 1 - 6 Citadel Place
Tinworth Street
Llundain
SE11 5EF
Apelio yn erbyn penderfyniad gan Awdurdod Cyllid Cymru (WRA)
Gallwch apelio yn erbyn rhai penderfyniadau a wnaed gan WRA ynghylch y Dreth Trafodiadau Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.
Fel arfer mae’n rhaid i chi dalu’r swm y mae WRA yn dweud sy’n ddyledus gennych ymlaen llaw. Gallwch ofyn i gael peidio â thalu hyd nes y cewch benderfyniad ynghylch eich apêl. Os byddwch yn oedi cyn talu yna efallai y codir llog arnoch ar y swm sy’n ddyledus gennych.
Cau ymholiad
Os bydd CThEF, NCA neu WCA yn agor ymholiad ynghych eich ffurIflen dreth a’ch bod yn meddwl y dylid ei gau, gallwch ofyn i’r tribiwnlys treth orchymyn eu bod yn ei gau.
Gallwch wneud cais i:
Ni allwch wneud cais os yw eich ffurflen dreth yn cael ei gwirio ar gyfer treth anuniongyrchol.
Cymorth y gallwch ei gael
Efallai y byddwch am gael cymorth a chyngor cyn i chi apelio. Efallai y gall cyfrifydd, cynghorydd treth neu gynghorydd cyfreithiol eich helpu chi.
Gallwch gael cyngor am ddim gan:
- , os ydych chi dros 60 oed
2. Apelio i'r tribiwnlys
Gallwch apelio i’r tribiwnlys treth ar-lein neu drwy’r post.
Fel arfer mae gennych 30 diwrnod i apelio o ddyddiad eich llythyr penderfyniad.
Os byddwch yn methu’r dyddiad terfyn yna bydd angen i chi egluro pam bod eich apêl yn hwyr. Bydd barnwr yn penderfynu os gellir derbyn eich apêl hwyr.
Fe ddychwelir eich cais i chi os yw rhywbeth ar goll neu os nad yw’n gyflawn.
Apelio ar-lein
Bydd arnoch angen:
- sgan neu lun o’ch hysbysiad gwreiddiol neu lythyr casgliad adolygiad
- rhesymau dros eich apêl, fel y gall y barnwr ddeall eich ochr chi o’r ddadl
Gallwch hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i wneud cais i gau ymholiad.
Apelio drwy’r post
Lawrlwythwch a llenwch ffurflen hysbysiad o apêl (T240).
Os ydych yn gwneud cais i gau ymholiad sy’n bodoli’n barod, lawrlwythwch a llenwch ffurflen gais (T245).
Anfonwch eich ffurflen wedi’i llenwi i’r tribiwnlys. Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Os ydych eisiau i rywun eich cynrychioli
Mae angen i chi lawrlwytho a llenwi ffurflen awdurdodi os nad yw’r unigolyn sy’n eich cynrychioli yn gyfreithiwr neu’n fargyfreithwr sy’n ymarfer.
Os oes angen help arnoch
Cysylltwch â’r tribiwnlys treth os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich apêl. Ni all y tribiwnlys roi cyngor cyfreithiol i chi.
Tribiwnlys treth
ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk
Ffôn: 0300 303 5857
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 4pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Beth fydd yn digwydd nesaf
Cewch lythyr gan y tribiwnlys yn esbonio beth fydd yn digwydd nesaf. Efallai y gofynnir i chi ddarparu mwy o ddogfennau i gefnogi eich achos.
Ni fydd pob achos yn cael gwrandawiad, ond gallwch ofyn am un. Fel arfer, byddwch yn cael o leiaf 14 diwrnod o rybudd o ddyddiad y gwrandawiad. Bydd y tribiwnlys yn ysgrifennu atoch gyda manylion yr hyn y mae angen i chi ei wneud.
3. Os oes gennych wrandawiad
Byddwch yn cael gwybod pryd a sut y cynhelir y gwrandawiad.
Gall eich gwrandawiad ddigwydd dros y ffôn, drwy fideo neu wyneb yn wyneb. Darllenwch sut i gymryd rhan mewn gwrandawiad ffôn neu fideo.
Gallwch .
Os ydych chi neu eich tyst neu gynrychiolydd y tu allan i’r DU ac eisiau rhoi tystiolaeth trwy gyswllt fideo neu sain byw, cysylltwch â’r tribiwnlys i wneud cais am hyn. Dywedwch wrth y tribiwnlys ym mha wlad ydych chi, y tyst neu’r cynrychiolydd a pha fath o dystiolaeth sy’n cael ei rhoi. Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn gynted â phosibl.
Dogfennau y bydd arnoch eu hangen
Bydd y tribiwnlys yn gofyn am gopïau o’r holl ddogfennau sy’n berthnasol i’ch apêl (megis llythyrau, anfonebau a chyfrifol).
Efallai y cewch ‘fwndel’ o ddogfennau cyn y gwrandawiad. Gan amlaf, fe anfonir hwn atoch ar e-bost, ond gallwch ofyn am gael copi papur. Bydd eich llythyr cydnabod apêl yn dweud wrthych sut i wneud hyn.
Mae’n rhaid i chi allu troi at y ‘bwndel’ o ddogfennau yn ystod y gwrandawiad. Gall hyn fod ar eich dyfais, er enghraifft gliniadur.
Pwy fydd yn y gwrandawiad
Gallwch gynrychioli eich hun yn y gwrandawiad neu drefnu bod cynrychiolydd yn gweithredu ar eich rhan. Gall y cynrychiolydd fod yn gynghorydd cyfreithiol, yn gynghorydd treth neu’n gyfrifydd
Bydd panel tribiwnlys yn cael ei arwain gan farnwr. Mewn rhai achosion, gall y tribiwnlys benodi aelodau eraill i’r panel.
Gall cynrychiolwyr o’r sefydliad rydych yn apelio yn erbyn ei benderfyniad ddod i’r gwrandawiad.
Bydd y gwrandawiad yn agored i aelodau’r cyhoedd.
Gallwch hefyd ofyn i unrhyw un o’r bobl ganlynol ddod i’r gwrandawiad:
- cynrychiolydd, os oes gennych un
- ffrind, aelod o’r teulu neu gydweithiwr
- tyst, os oes angen un arnoch
Os ydych yn cael gwrandawiad fideo, bydd angen i chi ddweud wrth y tribiwnlys os oes unrhyw un o’r bobl hyn yn mynychu fel y gellir rhoi mynediad iddynt i’r gwrandawiad.
Ni fydd y tribiwnlys yn talu am unrhyw gostau teithio na llety i ganiatáu i chi nac unrhyw un o’r bobl hyn fynychu’r gwrandawiad.
Os na allwch fynychu’r gwrandawiad
Os na allwch fynd i’r gwrandawiad ac nid oes gennych gynrychiolydd i fynd i’r gwrandawiad ar eich rhan, yna mae’n rhaid i chi gysyltu â’r:
- tribiwnlys cyn gynted â phosibl i egluro pam na allwch fynychu
- sefydliad a wnaeth y penderfyniad rydych yn apelio yn ei erbyn (bydd eu manylion cyswllt ar eich llythyr penderfynu)
Beth fydd yn digwydd yn y gwrandawiad
Byddwch chi (neu’ch cynrychiolydd) yn cyflwyno’ch achos i’r tribiwnlys. Rhaid i chi esbonio:
- yr hyn y cytunwyd arno
- beth rydych chi’n meddwl sy’n anghywir
- pa dystiolaeth sydd gennych i’ch cefnogi, fel unrhyw ddogfennau neu dystion
Bydd cynrychiolwyr o’r sefydliad rydych yn apelio yn erbyn ei benderfyniad yn cyflwyno’r achos yn eich erbyn.
Gall y cynrychiolwyr a’r tribiwnlys ofyn cwestiynau yn ystod y gwrandawiad hefyd.
4. Penderfyniad y tribiwnlys
Bydd y tribiwnlys yn anfon atoch chi neu eich cynrychiolydd lythyr neu e-bost penderfyniad. Fel arfer, byddwch yn cael hwn o fewn 12 wythnos i’r gwrandawiad.
Bydd y rhesymau dros wneud y penderfyniad yn cael eu cynnwys oni bai bod y ddwy ochr yn cytuno ar ddiwedd y gwrandawiad nad oes eu hangen.
Os byddwch yn colli eich achos
Os byddwch yn colli eich achos, efallai y gellir:
- ‘rhoi’r penderfyniad o’r neilltu’
- gofyn am ganiatâd i apelio
Rhoi penderfyniad o’r ‘neilltu’
Gallwch ofyn i benderfyniad gael ei ‘roi o’r neilltu’ (ei ganslo), dim ond os ydych chi’n meddwl bod camgymeriad yn y broses. Bydd y llythyr a gewch gyda’r penderfyniad yn dweud wrthych sut i wneud hyn. Cysylltwch â os oes angen help arnoch.
Gofyn am ganiatâd i apelio
Efallai y byddwch yn gallu apelio yn erbyn y penderfyniad os gwnaeth y tribiwnlys gamgymeriad cyfreithiol, er enghraifft os na wnaeth:
- weithredu’r gyfraith yn gywir
- egluro ei benderfyniad yn llawn
-
Gofynnwch am resymau ysgrifenedig llawn os nad ydych eisoes wedi’u cael. Rhaid i chi wneud hyn o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad ar yr hysbysiad o benderfyniad - bydd yr hysbysiad o benderfyniad yn dweud wrthych sut i wneud hynny.
-
Gofynnwch am ganiatâd i apelio - lawrlwythwch y ffurflen apêl a darllenwch y nodiadau canllaw. Rhaid i chi wneud hyn o fewn 56 diwrnod i’r dyddiad a roddir ar y rhesymau ysgrifenedig llawn.
Anfonwch y ffurflen apêl i:
Tribiwnlys Haen Gyntaf (Siambr Dreth) / First-tier Tribunal (Tax Chamber)
PO Box 16972
Birmingham
B16 6TZ
Tribiwnlys Treth
ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk
Ffôn: 0300 303 5857
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 4pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Ar ôl ichi anfon y ffurflen
Bydd barnwr yn penderfynu a allwch fynd â’ch achos i dribiwnlys uwch, o’r enw Uwch Dribiwnlys (Treth a Siawnsri). Apeliwch i’r Uwch Dribiwnlys os cewch ganiatâd.
Os gwrthodir caniatâd i chi apelio
Gallwch wneud cais i’r Uwch Dribiwnlys am ganiatâd i apelio os yw’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn gwrthod, neu ond yn rhoi caniatâd i chi apelio ar sail gyfyngedig.
5. Deddfwriaeth a phenderfyniadau blaenorol
Darllenwch y rheolau y mae’n rhaid i’r tribiwnlys eu dilyn a’i benderfyniadau ar achosion blaenorol.
Penderfyniadau blaenorol
Chwiliwch am benderfyniadau’r tribiwnlys treth i weld sut a pham y cawsant eu gwneud.
Deddfwriaeth
Rhaid i’r tribiwnlys ddilyn Rheolau Trefniadaeth y Tribiwnlys (Tribiwnlys Haen Gyntaf) (Siambr Dreth) 2009.
Darllenwch y i gael canllawiau manylach.
Sefydlwyd y tribiwnlys gan a .