Ymweld 芒 rhywun yn y carchar
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i drefnu ymweliad cymdeithasol 芒 charcharor yng Nghymru neu Loegr. Gallwch drefnu ymweliad i chi eich hun neu i rywun arall.
Mae yna ffordd wahanol i drefnu neu .
Mae鈥檙 gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
I ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth hwn, mae arnoch angen y canlynol:
- dyddiadau geni鈥檙 holl ymwelwyr
- dyddiad geni鈥檙 carcharor
- rhif y carcharor
- lleoliad y carchar
Gallwch wneud cais i ganfod lleoliad carcharor os nad ydych yn gwybod ym mha garchar maent.
Rhaid i鈥檙 carcharor ychwanegu unrhyw ymwelwyr i鈥檞 restr ymwelwyr cyn y gallwch wneud cais am ymweliad. Gall hyn gymryd hyd at bythefnos.
Trefnu ymweliad 芒 charchar
Ymweliadau na allwch eu trefnu drwy鈥檙 gwasanaeth hwn
Byddwch angen (yn Saesneg) os ydych yn trefnu ymweliad ag un o鈥檙 carchardai canlynol:
- Drake Hall (CEF a STI)
- Erlestoke (CEF)
- Foston Hall (CEF a STI)
Cysylltwch 芒鈥檙 carchar yn uniongyrchol os ydych angen trefnu unrhyw un o鈥檙 canlynol:
- ymweliadau cyfreithiol, er enghraifft gweithwyr proffesiynol yn trafod achos y carcharor
- ymweliadau cychwynnol, er enghraifft, yr ymweliad cyntaf 芒鈥檙 carcharor o fewn 72 awr o鈥檙 carcharor yn cyrraedd y carchar
- ymweliadau dwbl, er enghraifft, ymweld am 2 awr yn lle 1
- ymweliadau diwrnod teulu - digwyddiadau arbennig i deuluoedd y mae鈥檙 carchar yn eu trefnu
Cymorth gyda chostau ymweld 芒鈥檙 carchar
Efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau ymweld 芒鈥檙 carchar os ydych yn derbyn budd-daliadau penodol neu os oes gennych dystysgrif iechyd.